Trosolwg o'r Cwrs
Cymerwch y cam cyntaf tuag at amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous mewn busnes a'r gyfraith fasnachol gyda'n rhaglen radd LLB arbenigol.
Byddwch yn ennill sylfaen gadarn yn y saith maes sy'n cael eu cynnwys mewn gradd cymhwyso yn y Gyfraith; Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyfraith Camweddau a Chyfraith Gyhoeddus.
Wrth i'ch astudiaethau fynd yn eu blaenau, gallwch ddewis o amrywiaeth eang o feysydd pwnc gyda ffocws busnes, gan gynnwys y gyfraith fasnachol , cyfraith y cyfryngau, gwerthiannau masnachol, cyfraith cystadlu a chyfraith cyflogaeth.
Trwy gydol eich gradd gydanrhydedd, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith wedi'i chydnabod gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr fel Graddau Cymhwysol yn y Gyfraith ar gyfer y rhai sy'n dechrau astudio yn 2021. Mae ein rhaglenni hefyd yn cynnwys y pynciau craidd y mae ar Fwrdd Safonau'r Bar eu hangen er mwyn bodloni cyfnod academaidd y hyfforddiant proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n dymuno bod yn fargyfreithiwr. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol.