Sut Rydyn yn Gwarantu Cynnig

Rydym ni'n cynnig gwarantiad y bydd yr holl ymgeiswyr Israddedig o'r DU yn derbyn cynnig amodol ar gyfer cwrs ym Mhrifysgol Abertawe os byddant yn astudio'r cymwysterau gofynnol ar gyfer y cwrs maent yn cyflwyno cais amdano.* 

Byddwn yn ystyried eich cais ar sail cyflawniadau blaenorol, eich datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a chymysgedd o bynciau i osod telerau pob cynnig.

Bydd ymgeiswyr sy'n ein dewis fel Dewis Cadarn yn elwa o hyblygrwydd o ran y graddau a enillir. Mae ein haddysgu rhagorol yn rhoi canlyniadau gyrfaol llwyddiannus i fyfyrwyr, beth bynnag eu siwrnai i gofrestru.

Os oes gennych ddiddordeb yn Abertawe, ond mae gennych bryderon ynghylch cyrraedd ein cynnig cyhoeddedig, neu os byddwch yn cael cynnig atyniadol gan brifysgol arall, cysylltwch â ni drwy ffonio neu e-bostio, a gallwn drafod eich amgylchiadau ymhellach.

*Nid yw'r cynnig hwn yn gymwys ar gyfer cyrsiau proffesiynol – mae rhestr o gyrsiau anghymwys yn yr adran 'Aflwyddiannus' yn y Cwestiynau Cyffredin isod.

Ffoniwch ni +441792295111

FFONIWCH NI
+44 (0) 1792 295 111

Gofynnwch gwestiwyn

GOFYNNWCH
GWESTIWN

Gwnewch Gais Yma - Cyrsiau Israddedig A-Y

Gwnewch
Gais Yma

Mathau o Warantiad Cynnig wedi'u Hesbonio

Pan fyddwn yn gwarantu cynnig i chi, bydd ar un o'r ffurfiau canlynol: