Rydych chi wedi derbyn eich cynnig gan Brifysgol Abertawe!

Beth mae hyn yn ei olygu?

Bydd UCAS yn dweud wrthych yn ffurfiol beth yw'r penderfyniad gan y Brifysgol, gan gynnwys unrhyw amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Dangosir y manylion ar UCAS.
 
Os wnaethoch chi nodi cyfeiriad e-bost dilys ar eich cais, bydd UCAS yn eich e-bostio pan fydd penderfyniad wedi'i wneud. Er mwyn gwarchod gwybodaeth gyfrinachol, ni fydd yr e-bost yn cynnwys y penderfyniad; bydd angen i chi fynd i UCAS i wirio'r manylion o hyd.

Gallwch hefyd ddefnyddio UCAS i dderbyn neu wrthod cynigion a newid manylion personol, megis cyfeiriad post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Ni ystyrir bod cynigion drwy unrhyw fodd arall yn gyfreithiol rwymol. Ni ddylid ystyried unrhyw arwydd o dderbyniad gan aelod o staff fel cynnig lle, ac ni ddylid ystyried ei fod yn rhwymol mewn unrhyw fodd, cyn derbyn cynnig ffurfiol drwy UCAS.

 

Mathau o gynigion

Derbyn eich cynnig

Dewis eich cynigion cadarn ac yswiriant

Pan fyddwch wedi clywed gan bob prifysgol y gwnaethoch gais iddynt, bydd UCAS yn gofyn i chi gyfyngu'ch dewisiadau gwreiddiol i ddau ddewis terfynol – dewis 'Cadarn' a dewis 'Yswiriant'.

Os byddwch yn derbyn dau gynnig, dylech ystyried cadw cynnig Yswiriant sydd â gofynion graddau is na'ch dewis Cadarn. Os byddwch yn methu â bodloni gofynion eich dewis Cadarn, ond wedi derbyn cynnig Yswiriant addas, byddwch yn sicrhau lle mewn prifysgol o hyd.

Nid oes rhaid i chi wneud dewis Yswiriant, ond mae cael dewis arall yn synhwyrol.

Dylai'ch dewis Cadarn fod ar gyfer y brifysgol rydych yn ei hystyried fel y lle gorau i chi, nid y cynnig uchaf o reidrwydd. Dylai'ch dewis Yswiriant hefyd fod ar gyfer prifysgol y byddech yn hapus i fyw ac astudio ynddi.

Cofiwch, mae eich penderfyniadau ar yr amser hwn yn derfynol, felly ystyriwch eich dewisiadau yn ddwys. Nid yw'n bosib gwrthod eich dewis Cadarn er mwyn derbyn eich dewis Yswiriant adeg eich canlyniadau os ydych yn bodloni amodau eich dewis Cadarn.

Argymhellwn:

  • Os nad ydych wedi ymweld â ni ar Ddiwrnod Ymweld a drefnwyd neu wedi ymweld â ni yn anffurfiol, siaradwch â myfyrwyr presennol a'r staff academaidd lle bo'n bosib, a dewch i brofi awyrgylch Abertawe'n gyffredinol.
  • Byddwch yn realistig ynghylch y graddau y byddwch yn eu cael. Os ydych yn dewis cynnig Yswiriant, gwnewch yn siŵr fod y gofynion yn is na rhai eich cynnig Cadarn.
  • Ewch i wefan UCAS, lle cewch wybodaeth am y broses gwneud cais a rhai awgrymiadau defnyddiol.
  • Siaradwch â'ch teulu, athrawon, cynghorwyr a ffrindiau am eich opsiynau.
  • Cysylltwch â ni os oes unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen arnoch, a allai fod o gymorth i'ch gwneud penderfyniadau.

Bydd angen i chi roi gwybod i UCAS pa ddau gwrs rydych chi'n ei ddewis trwy ddefnyddio'ch cyfrif UCAS. Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, bydd UCAS yn gwrthod eich holl gynigion eraill ar eich rhan.

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm

Llun hyd Gwener - 9am-5pm (ar agor amser cinio)

Ffoniwch ni ar +44 (0)1792 295 111

Ebostiwch y tîm derbyniadau

Derbyn cynnig - Cwestiynau Cyffredin

Gweler isod am rai o'r ymholiadau cyffredin a gawn gan ymgeiswyr sy'n derbyn cynnig gennym ni: