Datganiad personol ar gyfer UCAS

Beth yw datganiad personol?

Mae datganiad personol yn rhan bwysig o’ch cais ar gyfer UCAS. Bydd angen cyflwyno hwn er mwyn astudio yn y DU.
Bydd yn cefnogi’ch cais i astudio mewn prifysgol neu goleg, ac mae’n ffordd wych o bwysleisio’ch rhinweddau personol, eich sgiliau a’r hyn rydych chi’n angerddol amdano.
Yn fwy na dim byd arall, mae’n rhoi’r cyfle ichi ddangos i diwtoriaid a darlithwyr derbyn mai chi yw’r ymgeisydd perffaith ar gyfer eich dewis gwrs neu bwnc.

Pa mor hir dylai datganiad personol fod?

Gall eich datganiad personol gynnwys tua 47 o linellau (nid oes terfyn geiriau ond mae terfyn ar nifer y llythrennau sef 4,000 ac mae hyn yn cyfateb yn fras i un ochr o dudalen A4). Dim ond un datganiad byddwch chi’n ei ysgrifennu ar gyfer pob un o’ch dewisiadau, felly mae’n rhaid iddo fod yn berthnasol/gymwys ar gyfer pob un ohonyn nhw.

Sut i ysgrifennu’ch datganiad personol ar gyfer Prifysgol

Cyngor ar ysgrifennu datganiad personol da

• Ystyriwch pam rydych chi’n llawn cyffro am y cwrs rydych chi’n gwneud cais amdano a dechreuwch ysgrifennu – byddwch chi’n synnu pa mor effeithiol yw rhoi eich holl feddyliau ar bapur
• Byddwch yn gadarnhaol pan fyddwch chi’n disgrifio beth rydych chi’n frwdfrydig amdano yn y cwrs rydych chi eisiau ei astudio, a beth oedd wedi ysbrydoli’ch penderfyniad.
• Siaradwch am eich sgiliau trosglwyddadwy a’ch gwybodaeth – e.e.arweinyddiaeth, gwaith tîm, datrys problemau, cyfathrebu, trefnu, a fydd yn eich helpu ar y cwrs.
• Siaradwch amdanoch chi eich hun a’r hyn sydd yn eich gwneud yn unigryw, yn gyffrous ac yn ddiddorol. Beth sy’n peri ichi fod yn wahanol i bawb arall?
• Rhowch dystiolaeth o’r hyn sy’n cadarnhau’r hyn rydych chi’n ei ddweud – defnyddiwch dystiolaeth o brofiad gwaith perthnasol, gweithgareddau allgyrsiol, darllen nad yw’n ymwneud â’r ysgol yn ogystal â’r holl bethau eraill rydych chi’n eu gwneud.
• Peidiwch â gorgymhlethu pethau, gadewch iaith flodeuog o’r neilltu a defnyddiwch Gymraeg glir.

Yn gryno, dylech chi ymdrechu i wneud eich datganiad personol yn un go iawn a diffuant, sef cyfuniad da o’r pen a’r galon sy’n crisialu i’r dim eich brwdfrydedd. Cymerwch eich amser a byddwch chi’n cynhyrchu rhywbeth arbennig a fydd yn crynhoi pwy ydych chi a beth sy’n eich ysgogi.

Sut i ysgrifennu’ch datganiad personol

Gall ysgrifennu datganiad personol ar gyfer eich cais prifysgol fod yn rhywbeth sy’n codi ofn, ond ddylai hi ddim bod felly.
Rydyn ni’n awgrymu ichi lenwi’r adran hon unwaith eich bod wedi gwneud eich dewisiadau ar gyfer cyrsiau prifysgol, gan y bydd hyn yn caniatáu ichi deilwra’ch datganiad personol yn ôl eich dewis bwnc(bynciau) neu gwrs(gyrsiau). Dylech chi esbonio beth sydd wedi’ch cymell i wneud cais i fynd i Brifysgol. Mae’n bwysig eich bod yn pwysleisio’ch egni a’ch angerdd ar gyfer y maes pwnc yn ogystal ag unrhyw sgiliau neu brofiad sydd gennych chi a fydd yn eich helpu i fod yn fyfyriwr llwyddiannus.

Cynllun a awgrymir:

Sut i ddechrau’ch datganiad personol – Dechreuwch gyda brawddeg agoriadol wych sy’n cyfleu’r graddau rydych chi’n llawn cyffro am y cwrs ac sy’n dangos eich bod yn deall go iawn beth yw hyd a lled y cwrs.

Y canol – Dylai’r paragraffau yn y canol bwysleisio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth a dylai ddangos tystiolaeth sy’n profi eich bod yn ymddiddori yn y cwrs yn ogystal â’ch rhinweddau personol.

Sut i orffen eich datganiad personol – mae’r darn hwn yn ymwneud â’r hyn sy’n eich gwneud yn unigryw a’r hyn fydd yn dangos y byddwch chi’n addas ar gyfer y cwrs rydych chi â diddordeb ynddo.

YR HYN Y DYLECH CHI EI WNEUD A’R HYN NA DDYLECH CHI EI WNEUD

DYLECH CHI

• Fod yn ddiffuant ac yn onest
• Bod yn gadarnhaol
• Bod yn frwdfrydig
• Bod yn glir ac yn gryno
• Cynllunio’ch datganiad fel y byddwch chi’n cynllunio traethawd
• Gofalu bod eich datganiad yn briodol ar gyfer pob un o’r dewisiadau a wnewch chi o ran cyrsiau
• Rhestru eich sgiliau a’ch rhinweddau ond dylech chi osgoi ymddangos yn ymffrostgar
• Drafftio, ailddrafftio ac yna ofyn am adborth
• Bod yn ofalus wrth ddefnyddio dyfyniadau – dim ond y rheiny sy’n berthnasol ac yn graff y dylech chi’u defnyddio
• Dangos tystiolaeth sy’n cadarnhau’r hyn rydych chi’n ei ddweud
• Caniatáu digon o amser

DYLECH CHI BEIDIO Â

• Chopïo datganiad rhywun arall – ceir meddalwedd a fydd yn eich dal os gwnewch chi hyn!
• Malu awyr – mae’n well o lawer cadw pethau’n fyr ac yn berthnasol
• Defnyddio ystrydebau
• Dibynnu ar y gwirydd sillafu – prawf-ddarllenwch
• Rhuthro neu amcangyfrif yn rhy isel yr amser sydd ei angen i ysgrifennu datganiad ardderchog

Covid-19

Gwyddom ei bod wedi bod yn anodd parhau â chwaraeon a hobïau eraill yn ystod y cyfyngiadau symud.
Yn eich datganiad personol, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y gwnaethoch chi addasu’ch gweithgareddau yn ystod y cyfyngiadau symud? A wnaethoch chi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau rhithwir, sesiynau hyfforddi hirbell neu drefnu digwyddiadau cymdeithasol?
A wnaethoch chi achub ar y cyfle i wrando ar bodlediadau, ehangu’ch rhychwant darllen neu wylio rhaglenni am eich dewis bwnc?
A wnaethoch chi wirfoddoli i gefnogi’ch cymuned leol neu i helpu’r GIG?
Rydyn ni eisiau clywed am eich gwydnwch, eich amynedd a’ch gallu i addasu.

Yn eich datganiad personol, ystyriwch ddweud wrthym ni am:
• Sut y gwnaethoch chi addasu’ch gweithgareddau bryd hynny?
• Unrhyw weithgareddau rhithwir, sesiynau hyfforddi hirbell y gwnaethoch chi eu mynychu neu ddigwyddiadau cymdeithasol y gwnaethoch chi eu trefnu?
• Sut y gwnaethoch chi achub ar y cyfle i wrando ar bodlediadau, ehangu eich rhychwant darllen neu wylio rhaglenni am eich dewis bwnc?
• Unrhyw achosion o wirfoddoli a wnaethoch chi i gefnogi’ch cymuned leol neu i helpu’r GIG?

Rydyn ni eisiau clywed am eich gwydnwch, eich amynedd a’ch gallu i addasu.

Sut i lunio datganiad personol disglair