Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe

Beth nesaf?

Rydych chi wedi treulio misoedd yn ystyried eich opsiynau ac wedi cyflwyno eich cais yn llwyddiannus. Beth nesaf? Rydym am i chi gael amser i ganolbwyntio ar astudio er mwyn cael y canlyniadau gorau cyn cychwyn eich cwrs prifysgol ond efallai y bydd rhywfaint o bethau y bydd angen i chi eu hystyried cyn i chi dderbyn eich cynigion, derbyn eich cynnig a chael eich canlyniadau.

Rydym wedi creu llinell amser i ddangos y camau nesaf yn eich proses ymgeisio.

Gallwch weld y llinell amser yma.

Sut rydyn ni'n delio â'ch cais

Unwaith y bydd UCAS wedi prosesu'ch cais, caiff copi o'ch ffurflen ei argraffu a'i bostio at y sefydliadau yr ydych wedi'u rhestru. 

Gallwch wirio cynnydd eich cais unrhyw bryd drwy ddefnyddio UCAS.

Mae tri cham i'w brosesu:

Cyfweliadau

Nid yw'n bosib cyfweld â phob ymgeisydd, serch hynny mae cyfweliadau'n rhan hanfodol o'r broses ddethol ar gyfer nifer o feysydd pwnc megis Meddygaeth, Gwaith Cymdeithasol ac ar gyfer cynlluniau Nyrsio/perthynol ag iechyd.

Mewn meysydd eraill nid yw'n debygol y caiff ymgeiswyr a roddwyd ar y rhestr fer eu cyfweld, er byddwch yn derbyn cyfle i ymweld â'r Brifysgol naill ai cyn neu ar ôl derbyn cynnig.  

Yn Aflwyddiannus?

Peidiwch â phoeni! Rydym wastad yn dal nifer bach o lefydd ar ôl i ymgeiswyr â chymwysterau da ar y rhan fwyaf o'n cyrsiau yn ystod y cyfnod Clirio felly gwnewch nodyn yn eich dyddiadur i gysylltu â ni pan fo Clirio'n dechrau!

UCAS Extra

Os ydych wedi gwneud cais cyn y dyddiad cau ond heb gadarnhau lle addas (os ydych wedi cael eich gwrthod gan eich holl ddewisiadau a/neu wedi gwrthod unrhyw/pob cynnig) unrhyw bryd rhwng 15fed Mawrth a 30ain Mehefin, cewch gyfle arall drwy UCAS Extra.

Bydd UCAS yn anfon gwybodaeth am y cynllun UCAS Extra atoch os ydych yn gymwys.

Sylwer os gwnaethoch gais am gwrs â galw uchel yn eich cais gwreiddiol ac roeddech yn aflwyddiannus, mae'n bosib y byddwch am ystyried cyrsiau arall tebyg neu gyrsiau gwahanol. Os oes unrhyw amheuon gennych, cysylltwch â ni am gymorth.