Casglu eich canlyniadau

Mae ‘Cadarnhad’ yn cyfeirio at y cyfnod ym mis Awst bob blwyddyn pan fo'r brifysgol yn derbyn canlyniadau arholiadau TAG Safon Uwch neu gymwysterau eraill ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynigion amodol.

Mae rhestr o'r canlyniadau arholiadau rydym yn eu derbyn yn uniongyrchol gan UCAS ar gael ar wefan UCAS – gwiriwch y rhestr, ac os NAD yw'r gymhwyster rydych chi'n ei chyflawni ar y rhestr, bydd angen i chi anfon y canlyniadau atom yn uniongyrchol drwy e-bost neu yn y post. Bydd angen i chi wneud hyn cyn gynted ag y gwyddech eich canlyniadau er mwyn cadarnhau eich lle yn gyflym, ac er mwyn atal unrhyw oedi wrth ddyrannu eich llety, manylion cofrestru ac ati.

Cynghorion ar gyfer Diwrnod Canlyniadau

Byddwn “ar agor” ar gyfer ymweliadau ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau, (bydd manylion ein diwrnodau agored Clirio yn cael eu cyhoeddi yn agosach at yr amser). Yn ystod rhain gallwch ymweld â’ch adran o ddiddordeb, gweld ein llety, mynd ar daith o’r campws ac ymweld â’n cyfleusterau chwaraeon arobryn. Bydd myfyrwyr wrth law i’ch arwain a rhoi mewnwelediad i fywyd myfyrwyr Prifysgol Abertawe, sydd wedi ennill sawl gwobr.

Clirio ac Addasu

Os na chewch eich derbyn gan eich Prifysgol Cadarn nac Yswiriant byddwch yn gymwys, yn uniongyrchol, i’r broses Glirio. Dylech fynd i wefan UCAS i gael y cyngor diweddaraf ar y Prifysgolion sydd â lleoedd Clirio.

Os byddwch yn rhagori ar delerau eich cynnig - ‘Addasiad’

Bob blwyddyn mae rhai ymgeiswyr yn pasio’u harholiadau gyda chanlyniadau gwell na’r disgwyl; gallai hyn olygu eu bod nhw nid yn unig wedi bodloni amodau eu dewis cadarn, ond wedi rhagori arnynt. Mae’r cyfnod Addasu ar gyfer yr ymgeiswyr hyn – mae’n rhoi cyfle iddynt ailystyried ble a beth yr hoffent astudio. Edrychwch ar wefan UCAS neu ein gwefan Clirio ac Addasu am ragor o wybodaeth am hyn. Mae Addasu yn gwbl ddewisol, ac nid pawb fydd am geisio lle arall. Does dim hafal i’r gwaith ymchwil gofalus y gwnaethoch i gael hyd i’r cwrs cywir a’r Brifysgol gywir ar hyd y broses ymgeisio.

Pryd fyddwch yn cael gwybod am eich Llety?

Tu allan i Neuaddau Preswl Campws y Bae

Ni fydd Gwasanaethau Preswyl yn cadarnhau eich llety hyd nes bod cynnig diamod gennych. I’r mwyafrif o fyfyrwyr, dylech ddisgwyl cael cynnig llety y Brifysgol ar ôl dydd Gwener 14 Awst drwy ebost.

 

Cymhwysedd ar gyfer Ysgoloriaethau Rhagoriaeth a Theilyngdod

Delwedd yn dangos gliniadur, cyfrifiannell a phen yn edrych i lawr ar y ddesg.

Os byddwch yn ennill AAA neu AAB yn eich lefelau A, byddwch yn cael Ysgoloriaeth yn uniongyrchol ar ôl i chi gofrestru a byddwn yn ysgrifennu atoch pan fydd canlyniadau lefel A yn cael eu cyhoeddi er mwyn cadarnhau p’un a ydych wedi bod yn ddigon ffodus i gael un. Nid yw pob cwrs yn gymwys; am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen ysgoloriaethau.  

Os byddwch yn newid eich meddwl, am newid cwrs neu ohirio

Ebostiwch ni

Trwy dderbyn cynnig rydych yn ymrwymo i gytundeb contractiol difrifol, ac ni allwch wrthod lle yn syml pan fyddwch wedi cymryd y cam hwn. Bydd angen i chi anfon ebost atom i drafod eich opsiynau; caiff eich cais ei gyfeirio at Diwtor Derbyn ac mae’n bosibl y byddant yn eich ffonio chi i drafod eich rhesymau am eisiau cael eich rhyddhau. Dylech ystyried pam rydych wedi newid eich meddwl am eich cynnig gwreiddiol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau: os byddwn yn cytuno i dynnu’r cynnig yn ôl, caiff y lle ei gynnig i rywun arall.

Unwaith ichi dderbyn eich canlyniadau efallai y byddwch yn penderfynu eich bod am wneud cwrs gwahanol gyda ni. Os bydd hyn yn digwydd, anfonwch ebost atom gan grynhoi pam rydych wedi newid eich meddwl. Yna byddwn yn anfon eich cais ymlaen at y Ddetholwr Derbyn y cwrs amgen er mwyn cael penderfyniad.

Gallwn ohirio’ch lle chi; nid yw hyn yn broblem. Y cyfan sydd angen ei wneud yw anfon ebost atom sy’n cadarnhau mai dyma rydych am ei wneud, a byddwn yn trefnu hyn ar eich rhan chi drwy UCAS.

Derbyn penderfyniad terfynol ynghylch eich lle

Os oes gennych gynnig cadarn amodol neu yswiriant gennym ac rydych yn bodloni'r gofynion, byddwch yn cael eich derbyn yn awtomatig i'ch rhaglen (bydd eich statws yn newid i Yswiriant neu Gadarn Diamod), gwiriwch statws eich cais ar-lein yn UCAS. Os yw eich lle wedi'i gadarnhau, nid oes angen cysylltu â'r brifysgol hefyd. Caiff gwybodaeth yn eich croesawu i'r brifysgol ei hanfon atoch o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf.

Os na lwyddoch i gael y graddau gofynnol yn eich arholiadau, byddwn yn ailystyried ein cynnig ym mis Awst ar sail eich gwir berfformiad a pherfformiad pobl eraill sy'n ymgeisio ar gyfer yr un raglen, ac mewn rhai achosion efallai y byddwn yn gallu cynnig lle i chi o hyd neu gynnig le ar raglen arall.  Byddwn yn anfon e-bost atoch ar ddiwrnod y canlyniadau i roi gwybod i chi os ydych yn y categori hwn.