Ystyried apelio eich canlyniadau Lefel A?

Gan fod canlyniadau eleni wedi cael eu rhoi yn absenoldeb arholiadau, rydym yn deall os ydych chi'n awyddus i wneud apêl am eich canlyniadau. Os ydych chi wedi derbyn cadarnhad o'ch lle ar eich prif ddewis o gwrs, nid oes angen i ni aros am ganlyniad eich apêl, mae eich lle yn Abertawe wedi ei sicrhau a gallwch ddechrau gynllunio ar gyfer dechrau'r tymor.

Os ydych chi wedi derbyn cynnig newid cwrs, mae modd i ni eich symud i'ch prif ddewis o gwrs os yw'ch graddau newydd yn cyrraedd gofynion mynediad y cwrs rydych chi'n ei ffafrio.

Bydd angen i ni weld eich graddau newydd erbyn 30ain o Hydref. Os ydyn ni'n derbyn cadarnhad o'ch graddau newydd cyn i'r cwrs ddechrau, bydd modd i chi ddechrau ar eich prif ddewis o gwrs. Bydd hefyd modd i ni eich symud rhwng y cyrsiau os ydyn ni'n derbyn y graddau rhwng dechrau'r tymor a Hydref y 30ain.

Bydd angen i chi dderbyn eich 'cynnig newid cwrs' yn UCAS i hyn ddigwydd. Golyga hyn nad oes oedi wrth i ni ddyrannu lle i chi mewn llety.

Nodwch os gwelwch yn dda bod cyrsiau sydd wedi eu comisiynu/cyrsiau clinigol sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi eu heithrio.

Os ydych yn dymuno ail-sefyll eich arholiadau, ac yn dal cynnig wedi ei gadarnhau ar naill ai eich prif ddewis o gwrs neu gynnig newid cwrs, nid oes angen i chi ohirio eich lle i astudio gyda ni.

Apelio'ch canlyniadau ar ôl Clirio

Os ydych chi'n gwneud cais am le yn Abertawe drwy'r broses Glirio ac rydym yn gwneud cynnig ar gwrs sylfaen i chi neu gwrs arall, nodwch bod siawns y gallwn eich symud i'ch prif ddewis o gwrs os yw eich graddau newydd yn cyrraedd gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwnnw.

Os ydyn ni'n derbyn eich graddau newydd erbyn dechrau'r tymor, bydd modd i chi ddechrau ar eich prif ddewis o gwrs. Os ydyn ni'n eu derbyn ar ôl i'r cwrs ddechrau, a chyn Hydref 30ain, bydd modd i chi symud i'ch prif ddewis o gwrs yn ystod y tymor. 

Derbyniwch eich cynnig Clirio cyn Awst y 18fed am le wedi ei warantu mewn llety. 

Nodwch os gwelwch yn dda bod cyrsiau sydd wedi eu comisiynu/cyrsiau clinigol sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi eu heithrio.

Ewch i'n canllaw Clirio am ragor o wybodaeth am y broses Glirio a phrif ddyddiadau.

Cysylltwch â'n llinellau cymorth

Mae ein tîm cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y broses apelio: