Amserlen gwneud cais ar gyfer 2023

Canol mis Medi

 

Anfonir ceisiadau at UCAS o ganol mis Medi.

29 Hydref
& 19 Tachwedd

 

Diwrnodau Agored Prifysgol Abertawe

15 Hydref

 

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yn UCAS ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion

25 Ionawr

 

Dyddiad cau yn UCAS ar gyfer derbyn ceisiadau am yr holl gyrsiau er mwyn iddynt dderbyn ystyriaeth gyfartal.  

Fel arfer bydd Abertawe'n derbyn ceisiadau hwyr drwy weddill y flwyddyn geisiadau, fodd bynnag bydd rhai cyrsiau eisoes yn llawn erbyn yr adeg honno ac ni ellir gwarantu y rhoddir yr un lefel o ystyriaeth iddynt â cheisiadau a dderbynnir erbyn 25 Ionawr. Edrychwch ar Chwiliwr Cyrsiau UCAS am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa gyrsiau sy'n dal i dderbyn ceisiadau.

Tachwedd - Mawrth

 

Cynhelir Cyfweliadau.

Mae'n bosib y gwneir cynnig i chi ac yna cewch eich gwahodd i fynychu Diwrnod Agored, neu mae'n bosib y cewch eich gwahodd i gyfweliad cyn y gwneir penderfyniad ar eich cais.

23 Chwefror

 

Os ydych yn gymwys i ddefnyddio 'Extra', gallwch eich cyfeirio eich hun at ddewis arall.

25 Chwefror a 25 Mawrth

 

Diwrnodau Agored Prifysgol Abertawe

18 Mai

 

Os gwnaethoch gyflwyno'ch cais erbyn 25 Ionawr, byddwch yn gallu penderfynu pwy ddylai eich dewisiadau cadarn ac yswiriant fod.

8 Mehefin

 

Dyma pryd y dylech fod wedi penderfynu pwy ddylai eich dewisiadau cadarn ac yswiriant fod.

Yn gynnar ym mis Mai - 30 Mehefin

 

Os ydych wedi derbyn ein cynnig, bydd Gwasanaethau Preswyl yn e-bostio manylion atoch ynghylch sut i wneud cais am lety.

Os gwnewch gais cyn 30 Mehefin, gwarentir lle i chi yn llety'r Brifysgol.

30 Mehefin

 

Y dyddiad olaf y gallwch gyflwyno cais i UCAS. Caiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried dan y broses Glirio.

4 Gorffennaf

 

Hwn yw'r dyddiad olaf i wneud cais drwy 'Extra'.

5 Gorffennaf

 

Clirio yn agor: dysgwch ragor ar ein tudalennau Clirio penodol.

Canol mis Awst

 

Caiff eich canlyniadau arholiadau eu cyhoeddi - Pob lwc!