Ap newydd sy’n Arwain y ffordd i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Abertawe

Myfyrwyr ar y traeth mewn gwisg graddio a llun o'r ap ar ffon symudol

Gwella profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Abertawe

Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe wedi lansio ap dwyieithog newydd ar gyfer myfyrwyr a darpar fyfyrwyr y Brifysgol sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg. Mae Arwain yn dwyn ynghyd mewn un man, y wybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr sydd am astudio a byw drwy gyfrwng y Gymraeg tra ym Mhrifysgol Abertawe.

Gall myfyrwyr weld pa gyrsiau a modiwlau sydd ar gael yn y Gymraeg yn ystod pob blwyddyn academaidd, derbyn gwybodaeth am yr Academi a Changen Coleg Cymraeg y Brifysgol, a dysgu am y gefnogaeth academaidd, ariannol a bugeiliol sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.

Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: "Mae gwella profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Abertawe yn elfen bwysig o waith Academi Hywel Teifi ac rydym yn falch iawn o fedru darparu ap Arwain ar eu cyfer. Bydd yr ap, gobeithio, nid yn unig yn hwyluso sut y gall myfyrwyr dderbyn gwybodaeth gan, ac am, y Brifysgol, ond mae hefyd yn galluogi’r Academi i weithio mewn dull mwy gwyrdd, cyfoes a chynaliadwy.”

Un o brif nodweddion yr ap yw’r calendr digwyddiadau sy’n benodol i fyfyrwyr Cymraeg. Mae’r digwyddiadur yn cynnwys manylion am ddigwyddiadau academaidd eu naws ynghyd â digwyddiadau cymdeithasol yr Undeb, y GymGym a mentrau lleol. Gall myfyrwyr hefyd ddewis derbyn nodyn atgoffa ar gyfer digwyddiadau yn syth i’w ffônau!

Mae staff Academi Hywel Teifi wedi bod yn gweithio ar y cyd â’r myfyrwyr i ddatblygu’r ap gan gomisiynu Galactig Rondo Media i’w ddylunio a’i greu.

Dywedodd Derick Gwyn Murdoch, Rheolwr Digidol Galactig, “Roedd hi’n bleser gweithio ar Arwain gydag Academi Hywel Teifi. Bydd y porwr modiwl yn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr gynllunio eu gwaith. Roedd galluogi’r Academi i gychwyn sgwrs â’r myfyrwyr yn allweddol i ganlyniad y broses. Rydym yn edrych ymlaen at ychwanegu nodweddion newydd ac arloesol yn y dyfodol.”

Mae modd lawrlwytho ap Arwain yn rhad ac am ddim oddi ar yr App Store a Google Play.