Ethol Swyddog Materion Cymraeg amser llawn cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Academi Hywel Teifi yn croesawu ethol Swyddog Materion Cymraeg llawn amser

Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu ethol Megan Colbourne yn Swyddog Materion Cymraeg amser llawn cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Mae'r Swyddog Materion Cymraeg ar hyn o bryd yn rôl ran-amser a gwirfoddol, ond bydd y swydd newydd yn gyflogedig ar sail amser llawn.

Bydd Megan, myfyriwr Daearyddiaeth sy’n dod o Landysul, yn dechrau yn ei swydd fis Mehefin.

Gan gydweithio’n agos â swyddogion amser llawn eraill yr Undeb, yn ogystal ag Academi Hywel Teifi, bydd Megan yn darparu cymorth a chynrychiolaeth i fyfyrwyr Cymraeg, gan sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn lles, diwylliant, chwaraeon a gweithgareddau eraill yn y Brifysgol.

Dywedodd Gwyn Aled, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: "Roedd hi'n wych bod myfyrwyr wedi pleidleisio dros gael Swyddog Materion Cymraeg amser llawn y llynedd, gan eu bod nhw'n teimlo nad oedd digon o gynrychiolaeth i siaradwyr Cymraeg na'r iaith Gymraeg o fewn y Brifysgol. Nawr mae Megan wedi ennill yr etholiad, mae’r Undeb yn edrych ymlaen at gydweithio â hi i sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu cynrychioli'n deg, a bod myfyrwyr rhyngwladol yn cael blas ar ddiwylliant Cymreig yn ystod eu hastudiaethau yma yn Abertawe.”

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Hoffai Academi Hywel Teifi longyfarch Megan ar gael ei hethol yn Swyddog Materion Cymraeg amser llawn cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Bydd y cam blaengar hwn yn sicrhau bod llais cryfach o fewn yr Undeb i’r miloedd o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yn y Brifysgol. Edrychwn ymlaen fel Academi at gydweithio’n agos â Megan wrth gefnogi, datblygu a hyrwyddo’r ddarpariaeth addysgol a’r gwasanaethau Cymraeg o fewn yr Undeb a’r Brifysgol.”

Megan Colbourne