Sefyllfa’r Gymraeg yn y ‘Normal Newydd’

Comisiynydd y Gymraeg yn un o brif siaradwyr y gynhadledd

Bydd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn un o brif siaradwyr cynhadledd undydd i ystyried sefyllfa’r Gymraeg yn sgil Covid19, sy’n cael ei gynnal gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe y gwanwyn hwn.

Nod y gynhadledd Gofid ynteu Gyfle? Y Gymraeg yn y 'Normal Newyddfydd bwrw golwg ar effaith y pandemig ar draws amrywiol agweddau o fywyd a gwaith yng nghyd-destun y Gymraeg.

Mae Academi Hywel Teifi wedi cyhoeddi galwad am bapurau ar gyfer y gynhadledd, a fydd yn cael ei chynnal ar Zoom ar 10 Mawrth 2021. 

Ymhlith y testunau y gellid eu hystyried yn ystod y trafodaethau, mae effaith y pandemig:

  • ar waead cymunedau Cymraeg eu hiaith
  • ar y defnydd o derminoleg newydd
  • ar bolisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau Cymraeg
  • ar arferion byw a gwaith siaradwyr Cymraeg
  • ar swyddi, gweithleoedd neu sefydliadau Cymraeg
  • ar ddulliau addysgu neu yr effaith ar y sector addysg ar ddefnydd iaith mewn cartrefi
  • ar y celfyddydau a’r sector adloniannol
  • ar ffurfio rhwydweithiau amgen
  • ar ddatblygiadau neu ddefnydd o dechnoleg yn Gymraeg

Croesewir papurau sy’n cyflwyno dadleuon cyflawn neu syniadau sydd yn cael eu datblygu; papurau sy’n taflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd nawr, ac sydd yn bwrw golwg i’r dyfodol gan geisio rhagweld effeithiau hir-dymor y pandemig. Mae’r gynhadledd yn agored i gyfranwyr o bob sector waith neu gefndir, yn academyddion, myfyrwyr, ymarferwyr, gweithwyr cymunedol, llunwyr polisi a charedigion yr iaith. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon:

“Ein gobaith yw adnabod patrymau, datrysiadau neu arferion da all gyfrannu at gefnogi siaradwyr Cymraeg yn ystod y cyfnod heriol hwn, ond hefyd gymryd camau i warchod yr iaith yn yr hir dymor wrth i’r pandemig fynd rhagddo a’i effeithiau barhau. Tra bod yma heriau amlwg i’r iaith yn sgil y pandemig a’i gyfnodau clo, mae yna hefyd gyfleoedd amlwg, ac mae’n bwysig taflu golau ar y rheini er mwyn manteisio i’r eithaf a sicrhau elfen o wytnwch i’r iaith rhag sefyllfaoedd o’r fath yn y dyfodol.” 

Cynhelir y gynhadledd ar Zoom, gyda phob papur yn para 20 munud gyda chwestiynau i ddilyn, ac amrywiaeth o sesiynau gydol y diwrnod. Traddodir y papurau yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd. Yn ddibynnol ar nifer y papurau a ddaw i’r fei, cyflwynir sesiynau cyfochrog. Bydd modd i bawb fynychu’r gynhadledd yn ddi-dâl a galw heibio’r sesiynau fel sy’n gyfleus yn ystod y dydd. Caiff manylion cofrestru ei rhyddhau ddechrau Chwefror.

Mae modd cynnig papur ar gyfer y gynhadledd drwy anfon crynodeb at academihywelteifi@abertawe.ac.uk erbyn 1 Chwefror 2021.

Comisiynydd y Gymraeg

yn un o brif siaradwyr y gynhadledd

Lluniau o feirws covid