Adnodd newydd i gefnogi dysgwyr i gyfathrebu gyda chleifion yn y Gymraeg.

Yn 2011, cydweithiodd Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu yr ap Gofalu Trwy'r Gymraeg. Ers ei ddiweddaru a'i ehangu yn 2018, daeth yn amlwg bod heriau yn gallu wynebu gweithwyr gofal iechyd wrth geisio defnyddio dyfeisiau digidol wrth ddarparu gofal. Felly, penderfynwyd datblygu fersiwn newydd ar ffurf llyfryn poced gyda'r nod o greu adnodd ymarferol, bychan sy'n rhoi mynediad cyflym at ymadroddion defnyddiol Cymraeg.

Crëwyd y llyfryn gan staff Prifysgol Abertawe gyda chefnogaeth ariannol i'w argraffu gan sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW). Nod y llyfryn yw cefnogi gweithwyr gofal iechyd sy'n ddysgwyr Cymraeg i gyfathrebu'n fwy hyderus gyda chleifion dros Gymru gan helpu i ddarparu gwasanaeth sy'n wirioneddol berson-ganolog i siaradwyr Cymraeg.

Yn dilyn datblygiad cyffrous yma ym Mhrifysgol Abertawe eleni, sy'n galluogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i ddilyn darpariaeth Gymraeg ym maes Therapi Galwedigaethol, mae'r llyfryn yn cynnwys adran newydd gyda geirfa benodol i'r maes hwnnw. Bydd copi digidol o'r llyfryn ar gael i bawb ac hoffem estyn diolch arbennig i HEIW am ein galluogi i argraffu'r llyfryn.

Cynhelir lansiad swyddogol y llyfryn ar lwyfan y GwyddonLe, yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ar ddydd Llun, 25 Mai am 2 y prynhawn. Bydd aelodau o Fwrdd Cynghori Mwy na Geiriau yn bresennol, sef pwyllgor a grëwyd i wireddu cynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru i wreiddio'r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynnig y gofal haeddiannol sydd ei angen ar gleifion yng Nghymru. 

Mae Dr Alwena Morgan yn Athro Cyswllt Biofeddygaeth ac Arweinydd y Gymraeg yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe. Meddai Dr Morgan, sydd hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori 'Mwy na Geiriau':

"Rydym yn falch iawn o ddathlu cyhoeddiad y bedwaredd gyfrol o Gofalu trwy'r Gymraeg. Wedi’i anelu’n benodol at ddysgwyr, mae’r adnodd cryno hwn, sy’n llythrennol yn ffitio i mewn i boced, yn ategu’r Ap Gofalu yn Gymraeg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r gyfrol ddiweddaraf hon yn rhan o gyfres adnoddau sy’n cefnogi’r Cynnig Rhagweithiol a nodau 'Mwy na Geiriau' Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu iechyd dwyieithog ar gyfer Cymru. Hoffem ddiolch yn arbennig i HEIW am eu cefnogaeth hael wrth ariannu argraffu copïau o'r llyfryn, gan sicrhau y bydd yr adnodd ar gael i fyfyrwyr gofal iechyd ledled Cymru."

Llun o glawr y llyfryn gyda myfyriwr nyrsio yn dangos logo Cymraeg