Siwan Davies yn ennill medal wyddoniaeth

Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026

Llantwd ger Aberteifi oedd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac fe brofodd Prifysgol Abertawe wythnos hyfryd yn heulwen y gorllewin. Cafwyd wythnos brysur gyda sesiynau dyddiol yn y Babell Lên ac ambell ddigwyddiad arbennig arall ar y maes hefyd.

Un o uchafbwyntiau'r wythnos yn sicr, oedd gweld Yr Athro Siwan Davies, sy'n Ddirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, Arloesi a Menter,ac yn aelod o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, yn ennill Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg 2026. Caiff y wobr hon ei rhoi am gyfraniad eithriadol i ymchwil wyddonol, addysg a chyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhaliwyd seremoni arbennig i wobrwyo Siwan yn y Pentref Gwyddoniaeth fore Iau ac yna ar lwyfan y Pafiliwn yn y prynhawn gydag Elin Rhys, Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Abertawe, yn llywio'r ddwy. Gyda Siwan yn ferch o'r ardal, roedd hi'n briodol iawn mai eleni enillodd y fedal. I gyfarch Siwan ar ei champ, cyfansoddodd Grug Muse, cyn-fyfyrwraig Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe gerdd iddi ac roedd Grug yno i'w darllen yn y ddwy seremoni:

Mae un sy’n clywed stori;

clywed straeon hen, mor hen â’r graig –

na, hŷn, yng ngwich a chlec

ac ochain plymen las.

 

Mae’n deall iaith yr ia,

yr hanesion sydd i’w darllen

yng ngronynnau llwch rhyw dannau hen,

ym mhaill rhyw flodau diarth nad yw’n bod.

 

Mae’n gyfarwydd, sy’n troi’r sibrydion

yn ddamhegion, yn ffordd o ddeall.

Yn fodd o weld yr hyn sy’n dod

trwy ddallt yr hyn a fu.

 

Yn gynharach ddydd Iau, cynhaliwyd Darlith Goffa Hywel Teifi yn y Babell Lên. Eleni, Yr Athro Emerita Menna Elfyn draddododd y ddarlith flynyddol dan y teitl amserol, "Barddoniaeth yn oes yr anwireddau: A oes angen beirdd yn nyddiau AI?" Trafododd Menna weithiau gan awduron a beirdd, o Emily Dickinson i Gwenallt gan fyfyrio ar yr anhysbys, yr anfarwol a gwir rôl y bardd yn ein hoes ni. Roedd hi'n ddarlith ddychmygus, creadigol a hynod berthnasol.

Ar ddiwedd prynhawn Iau, trefnwyd derbyniad ar gyfer myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion y Brifysgol a braf iawn oedd croesawu wynebau hen a newydd i'r digwyddiad. Estynnodd Yr Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, air o groeso i'r cyfeillion gan sôn am ddatblygiadau a llwyddiannau Cymraeg y Brifysgol dros y flwyddyn ddiwethaf. Cafodd y gynulleidfa ddiddanwch hefyd wrth i'r Athro Gwynedd Parry o Adran y Gyfraith, rannu cân gyda ni. Roedd y derbyniad yn ffordd hyfryd i gloi dydd Iau llwyddiannus tu hwnt i Brifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod.

Uchafbwynt arall yn ystod yr wythnos oedd gweld Jonathan Davies, sy’n diwtor gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, yn ennill tlws Dysgwr y Flwyddyn. Daw Jonathan o Lwchwr ar gyrion Abertawe, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu gyda’i dreftadaeth a’i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain.

Llwyddiant arall a ddathlwyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni oedd yn nerbyniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol pan dderbyniodd un o gyn-fyfyrwyr yr Adran Gymraeg, Emily Evans, dlws Gwobr Mered 2026. Mae Emily bellach yn diwtor yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe ond enillodd y wobr am ei chyfraniad eithriadol i fywyd a diwylliant Cymraeg yn ystod ei hamser fel myfyrwraig.

Cafodd myfyriwr arall, Cynir Hedd Davies, sy'n astudio Cyfryngau a Chyfathrebu yn y Brifysgol, gydnabyddiaeth am ennill bwrsariaeth arbennig sy'n bartneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg ac S4C.

Ar fore Llun yr Eisteddfod, cafodd nifer o staff yr Academi eu derbyn i Orsedd Cymru. Roedd Lynsey Thomas, Saran Thomas, Meinir Hutchings a Michelle Thomas ymysg yr aelodau newydd a urddwyd yn ystod seremoni agoriadol yr Orsedd. Yn ogystal â’r pedair, cafodd Cara Medi Walters, un o fyfyrwyr ôl-raddedig Adran y Cyfryngau ei hurddo hefyd.

Ein sesiwn gyntaf yn y Babell Lên oedd 'Sgwennu yn lleddfu Trawma', a dan gadeiryddiaeth Dr Angharad Wyn, rhannodd Mari Grug ac Ifan Phillips eu profiadau o ddelio gyda'u heriau personol o ganlyniad i drawma. Cafwyd cyfraniad arbennig iawn ar y sgrin hefyd gan yr Athro Brifardd Tudur Hallam a soniodd y tri am eu cyfrolau a'r effaith therapiwtig y mae'r broses o ysgrifennu yn gallu ei chael.

Ddydd Mawrth, daeth torf i wrando ar Huw Llywelyn Davies yn holi Nigel Owens am ei hunangofiant 'Y Chwiban Olaf'. Cafwyd nifer o straeon o'r cae rygbi a thu hwnt ganddynt, ill dau yn Gymrodyr er Anrhydedd i Brifysgol Abertawe, a'r gynulleidfa wrth ei bodd yn gwrando ar yr hanesion. Sesiwn yn trafod Llenyddiaeth Taith a'r Iaith Gymraeg oedd ar ddydd Mercher, gyda Dr Miriam Elin Jones yn llywio trafodaeth ddifyr dros ben rhwng Dr Grug Muse, Jon Gower a Dr Kathryn Jones.

I gloi ein harlwy yn y Babell Lên ar gyfer 2026, cadeiriodd Beti George, un arall o'n Cymrodyr er Anrhydedd, sgwrs banel 'Tua'r Gorllewin', rhwng Cleif Harpwood, Meinir Mathias ac Euros Lewis, yn trafod ymateb celfyddyd i'r newid ieithyddol a chymdeithasol yn y Gorllewin. Soniwyd am y frwydr i amddiffyn cymdogaeth a'r heriau sy'n dod yn sgil esblygiad cymunedau.

Bu nifer o'n staff yn cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill a drefnwyd gan bartneriaid allanol ar faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos hefyd. Roedd Dr Geraldine Lublin yn aelod o banel a drefnwyd gan Adnodd, oedd yn trafod hanes, hunaniaeth a'r Cwricwlwm i Gymru. Traddododd Yr Athro Gwenno Ffrancon ddarlith a drefnwyd gan Gymdeithas Bob Owen dan y teitl ‘John Roberts Williams – Cofio llais cenedl’, a’r Athro Siwan Davies draddododd ddarlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn rhannu ei harbenigedd wrth edrych yn ôl ac i’r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd. Cafwyd trafodaeth banel gydag awduron y gyfrol ‘Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru’ a’r Athro Andrew Davies yn un ohonynt, a bu’r Athro Gwynedd Parry yn cymryd rhan mewn noson i gofio’r cerddor Meirion Williams fu farw 50 mlynedd yn ôl i eleni.

Gwych oedd gweld St John Ambulance Cymru, oedd ar faes yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos i helpu gydag unrhyw ymholiadau neu achosion cymorth cyntaf, yn defnyddio’r llyfryn Gofalu Trwy’r Gymraeg. Crëwyd y llyfryn gan Brifysgol Abertawe fel adnodd i helpu staff gofal iechyd i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i gleifion a dyma enghraifft berffaith ohono yn cael ei ddefnyddio at yr union ddiben hwn!

Meddai'r Athro Gwenno Ffrancon:

"Bu'n wythnos fendigedig i Brifysgol Abertawe ar faes Prifwyl y Garreg Las. Braf oedd gweld cynifer yn mynychu ein digwyddiadau yn Y Babell Lên ac ar draws pafiliynau eraill y Maes. Braint oedd cael tystio i, a dathlu llwyddiant rhai o'n staff arbennig - Yr Athro Siwan Davies yn ennill y Fedal Wyddoniaeth ac un o'n tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, Jonathan Davies, yn ennill Medal y Dysgwyr. Bu'n hyfryd hefyd cael croesawu ein cyn-fyfyrwyr, ein staff a'n myfyrwyr cyfredol i'n derbyniad blynyddol a hynny eleni ym mhabell y Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth." 

Dyma ddolen i albwm o luniau'r wythnos: https://flic.kr/s/aHBqjD2bMT