Llun o'r Maes

Mae Prifysgol Abertawe yn edrych ymlaen yn fawr at Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las gydag wythnos lawn o ddigwyddiadau difyr ar y maes. Bydd ein prif arlwy yn y Babell Lên fel arfer, ac yn cynnwys Darlith Goffa Hywel Teifi a chynhelir bob blwyddyn ar y dydd Iau. Dewch i’n gweld ar y maes rhwng Awst 1 – 8.

Dyma sesiynau’r Brifysgol yn y Babell Lên:

Sgwennu yn lleddfu trawma| Dr Angharad Wyn yn sgwrsio â Mari Grug ac Ifan Phillips am y broses o ysgrifennu yn dilyn profiadau trawmatig. Bydd cyfraniad arbennig ar y sgrin hefyd gan yr Athro Brifardd Tudur Hallam. Trefnir ar y cyd â’r Lolfa a Barddas | Dydd Llun, 3 Awst am 11:45am

Y Chwiban Olaf | Y darlledwr a’r sylwebydd chwaraeon, Huw Llywelyn Davies, bydd yn holi’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, am hanesion y cae rygbi a’i hunangofiant. Trefnir ar y cyd â’r Lolfa | Dydd Mawrth, 4 Awst am 10:30am

Ar Daith | Dr Miriam Elin Jones yn cadeirio panel fydd yn trafod stori llenyddiaeth taith a’r Gymraeg, gyda Dr Grug Muse, Jon Gower a Dr Kathryn Jones | Dydd Mercher, 5 Awst am 12pm

Darlith Goffa Hywel Teifi – Barddoniaeth yn Oes yr Anwireddau: A oes angen beirdd yn nyddiau AI | Traddodir gan yr Athro Emerita Menna Elfyn, bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd sydd wedi ennill sawl gwobr | Dydd Iau, 6 Awst am 12pm

Tua’r Gorllewin | Beti George fydd yn cynnal sgwrs gyda Cleif Harpwood, Meinir Mathias ac Euros Lewis am y modd y mae celfyddyd yn ymateb i newid cymdeithas a cholli iaith yn y gorllewin| Dydd Gwener, 7 Awst am 10:30am

Bydd ambell ddigwyddiad a dathliad arall sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol yn cael eu cynnal ar draws y maes. Yn eu plith bydd Dr Geraldine Lublin yn cymryd rhan mewn panel i drafod Hanes, Hunaniaeth a’r Cwricwlwm i Gymru a drefnir gan Adnodd yn Cymdeithasau ar brynhawn dydd Sadwrn am 4:30pm. Ar fore Llun bydd ambell aelod o staff y Brifysgol ac Academi Hywel Teifi yn cael eu derbyn i’r Orsedd.  

Brynhawn dydd Mawrth am 12:30pm bydd Yr Athro Gwenno Ffrancon yn traddodi darlith ym Mhabell y Cymdeithasau 2, John Roberts Williams – Cofio Llais Cenedl, ac ar brynhawn dydd Mercher bydd cyn-fyfyrwraig sydd bellach yn diwtor yn Adran y Gymraeg, Emily Evans, yn derbyn Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am 4pm. Yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, bydd Yr Athro Siwan Davies yn traddodi darlith a drefnir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru dan y teitl ‘Edrych yn ôl ac i’r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd’, a hynny am 11:30 fore Iau. 

Meddai Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi:

“Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 a chael estyn croeso gwresog i gynulleidfa selog y pafiliwn llenyddiaeth. Yn ôl ein harfer mae cyfres o ddigwyddiadau difyr ac amserol wedi'u trefnu gan Academi Hywel Teifi fel rhan o arlwy'r Babell Lên. Yn eu plith, edrychwn ymlaen yn fawr at glywed Menna Elfyn yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi eleni a thrafod creadigrwydd yn oes deallusrwydd artiffisial ac anwireddau, ac at ddathlu yr Athro Siwan Davies yn cael ei gwobrwyo â Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod am gyfraniad aruthrol i ymchwil ac addysg gwyddoniaeth yn Gymraeg. Bydd hi'n braf unwaith eto cael bod ynghanol y bwrlwm creadigol, celfyddydol a diwylliannol ar faes ein Prifwyl a hithau'n nodi ei 850 mlwyddiant.”