Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe 2019

Academi Hywel Teifi yn cefnogi Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe 2019

Mae Academi Hywel Teifi yn falch o groesawu’r Eisteddfod Ryng-golegol i Brifysgol Abertawe ar 1-2 Mawrth 2019. 

Bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn cael ei chynnal ar gampws Parc Singleton y Brifysgol dros benwythnos Gŵyl Ddewi ac mae fel arfer yn denu dros 400 o fyfyrwyr Cymraeg o bob prifysgol yng Nghymru. Mae Academi Hywel Teifi, sy’n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ac yn cefnogi staff a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe, wedi bod yn cefnogi’r tîm o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg sydd wedi bod yn gwneud y paratoadau ar gyfer ymweliad yr ŵyl ag Abertawe.

Bydd yr Eisteddfod a fydd yn dechrau am 10yb ar fore Sadwrn 2 Mawrth yn cynnwys cystadlaethau amrywiol a safonol – yn gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref sy’n cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith, celf a gwyddoniaeth. Mae hefyd cystadlaethau penodol i fyfyrwyr sy’n ddysgwyr Cymraeg.

Yn ogystal â’r Eisteddfod ar y dydd Sadwrn, cynhelir cystadlaethau chwaraeon ryng-golegol ar brynhawn Gwener 1 Mawrth, gan gynnwys twrnament rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd ac yna i gloi’r penwythnos bydd gig ar y nos Sadwrn gyda rhai o’r bandiau Cymraeg gorau sef Candelas, Mellt a HMS Morris.

Ymhlith y beirniaid a fydd yn tafoli gwaith cartref y myfyrwyr fydd y Prifardd Robat Powell, y golygydd a’r beirniad llenyddol Bethan Mair, yr awdur Elin Meek, yr artist Rhys Padarn a’r gwyddonydd Dr Angharad Puw Davies. Bydd y cyflwynydd Siân Thomas, sy’n gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe, yn un o’r arweinwyr llwyfan, ynghyd â Mari Grug a’r comedïwr o Gwmtawe Noel James.   

Mae’r myfyrwyr sy’n trefnu’r Eisteddfod wedi bod yn defnyddio gwefan cyllido torfol newydd Prifysgol Abertawe – Ton – i’w helpu i godi arian ar gyfer llwyfannu’r Eisteddfod gyda nifer dda o gwmnïau a sefydliadau lleol wedi cyfrannu nawdd, gan gynnwys cwmni cyfryngau Telesgôp, Bwydydd Castell Howell, Tŷ Tawe a Thŷ’r Gwrhyd.

Disgyblion o Ysgol Gymraeg Ystalyfera sydd wedi dylunio’r Gadair, a’r artist gwydr lleol Nikki Cass sydd wedi creu’r Goron. Mae’r medalau – gydag un newydd yn eu plith er mwyn adlewyrchu un o brif feysydd astudio Prifysgol Abertawe sef y Fedal Wyddoniaeth, wedi’u creu gan artist cerameg lleol, Jess Harker.

Dywedodd Rebecca Martin, Swyddog Iaith Gymraeg Undeb y Myfyrwyr: "Mae'r holl drefniadau yn eu lle ac rydyn ni'n edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn fawr. Bydd yr Eisteddfod Rhyng-gol yn dod â phawb at ei gilydd i ddathlu a hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg yn Abertawe."

Dywedodd Gwyn Aled, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Mae'n wych bod yr Eisteddfod Rhyng-gol nôl yn Abertawe eleni, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr Cymru yma i gystadlu. Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn falch o gefnogi ein myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a bydd yr Eisteddfod yn gyfle arbennig i rwydweithio a mwynhau gyda myfyrwyr o bob cwr o Gymru .”

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi : “ Mae staff Academi Hywel Teifi wrth ein bodd bod yr Eisteddfod Ryng-golegol yn dod i Brifysgol Abertawe eleni.  Rydym yn edrych yn fawr at yr achlysur ac wedi mwynhau cefnogi cynlluniau uchelgeisiol a threfniadau trylwyr ein myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr Eisteddfod. Rydym ar ddechrau ar flwyddyn o ddathliadau i nodi canmlwyddiant Prifysgol Abertawe, ac mae cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Abertawe yn sicr yn ffordd wych o ddathlu treftadaeth a bywyd Cymraeg y sefydliad. Pob lwc i bawb a fydd yn cystadlu a gobeithio y caiff myfyrwyr Cymru amser wrth eu bodd yma yn Abertawe!”   

Logo Eisteddfod Ryng-gol