Profiad gwych i enillydd Her Sefydliad Morgan 2022

Enillydd Her Sefydliad Morgan 2022

Hanna Morgans o Ysgol Bro Teifi

Hanna Morgans, Sioned Williams AS a Llyr Griffydd AS

Profiad gwaith yn y Senedd i gael blas o’r byd gwleidyddol

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae’r gystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan a gynhelir fel rhan o arlwy’r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd, wedi cynnig cyfle gwych i’r cystadleuwyr leisio barn a dangos eu sgiliau rhesymu a dadlau o flaen cynulleidfa fyw a beirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth.

Cafodd y beirniaid dipyn o dasg y llynedd yn dewis enillydd ond fe benderfynodd Llŷr Gruffydd AS, a’r arbenigwr ar ficrobioleg, Yr Athro Angharad Puw Davies, mai Hanna Morgans o Ysgol Bro Teifi oedd y siaradwr gorau ar y pwnc ‘Dylai fod yn orfodol i bobl gael eu brechu yn erbyn heintiau difrifol er lles cymdeithas’.

Yn ogystal ag ennill Tlws Her Sefydliad Morgan a gwobr ariannol i’w hysgol, roedd Hanna hefyd yn cael cyfle i fynd ar brofiad gwaith o'i dewis hi wedi'i drefnu gan Academi Hywel Teifi. Mae gan Hanna ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth ac yn gobeithio gweithio ym maes newyddiaduriaeth fel gohebydd yn y dyfodol. Felly, fe drefnwyd iddi dreulio diwrnod yn y Senedd gyda Sioned Williams AS ac wrth lwc, roedd Llŷr Gruffydd AS yno hefyd!

Meddai Sioned Williams, “Roedd hi’n bleser croesawu Hanna i’r Senedd fel rhan o’i gwobr a rhoi blas iddi o’r byd gwleidyddol a fy nyletswyddau a chyfrifoldebau fel Aelod Senedd. Mae’n wych gweld angerdd a brwdfrydedd pobl ifanc Cymru tuag at wleidyddiaeth ac mae’n bwysig ein bod yn eu hannog a’u cefnogi trwy gynnig y cyfleoedd arbennig hyn iddynt.”