Atgofion Abertawe - Yr Athro Geraint H Jenkins

Hanesydd, Academydd ac Awdur

Dywedwch ychydig wrthym am ddod i astudio yn Abertawe ac eich gyrfa wedi hynny. 

Agorodd pennod newydd yn fy mywyd ym mis Medi 1964 pan deithiais mewn bws Crosville o Aberystwyth i Abertawe i gofrestru fel glasfyfyriwr diniwed braidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe (fel y’i gelwid bryd hynny). A minnau’n ffrwyth dosbarth gweithiol pentref Penparcau, ger Aberystwyth, roeddwn am astudio hanes, yn enwedig hanes Cymru, wrth draed yr Athro Glanmor Williams a’r nythaid disglair o haneswyr a benodwyd ganddo. Bu’n agoriad llygad cyffrous i mi a graddiais yn hanes dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ôl fy rhieni, roedd fy mam-gu yn dal i guro’i dwylo ymhell ar ôl i mi adael llwyfan y Brangwyn!

Yr Athro Geraint H Jenkins

Hanesydd, Academydd ac Awdur

Geraint Jenkins yn arwyddo ei yfr diweddaraf

Euthum ymlaen i astudio am ddoethuriaeth, gan weithio dan gyfarwyddyd Glanmor Williams ar lenyddiaeth a chrefydd rhwng yr Adferiad a Methodistiaeth. Cofiaf am un tro trwstan yn Archifdy Morgannwg yng Nghaerdydd, pan agorais gwpwrdd a oedd yn llawn hen lyfrau Cymraeg llychlyd a charpiog, fe gwympodd y cyfan i’r llawr. Bu raid i mi godi pob un ohonynt ar fy mhen fy hun! Yna, yn gwbl annisgwyl, dywedodd Glanmor Williams wrthyf fod swydd darlithydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Adran Hanes Cymru yn Aberystwyth yn cael ei hysbysebu ac y dylwn ymgeisio amdani. Roeddwn yn gyndyn i anfon cais, ond fe’m perswadiwyd i wneud. Fe’m penodwyd a bûm, yn fy nhro, yn ddarlithydd, yn uwch-ddarlithydd, yn ddarllenydd, yn athro ac yn bennaeth adran dros y pum mlynedd ar hugain canlynol. Peidiwch â dweud wrth neb, ond un o’m myfyrwyr ym 1969 oedd y brenin Siarl III, profiad sobreiddiol i weriniaethwr rhonc fel fi! Ym 1993 fe’m penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, sefydliad ymchwil unigryw yn Aberystwyth lle cefais gyfle i arwain prosiectau ymchwil cyffrous fel Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg, Diwylliant Gweledol Cymru a Rhamantiaeth Iolo Morganwg. Ac yno y bûm nes i mi ymddeol yn gynnar yn 2008.

Castell Clyne

Castell Clyne / Clyne Castle

Soniwch ychydig am eich amser yn y Brifysgol a’ch hoff atgofion.

Bûm yn ddigon ffodus i gael byw am dair blynedd yng Nghastell Clyne a Neuadd Gilbertson yn Blackpill lle’r oedd llyfrgell a bwyd ardderchog.  Roedd disgwyl i ni wisgo gŵn wrth y bwrdd bwyd ac ar y noson gyntaf gofynnodd un o’r myfyrwyr hŷn o ble roeddwn yn dod. ‘Aberystwyth’, meddwn i. ‘Oh!’, meddai, ‘my grandmother taught me never to trust anyone north of Brecon.’ Sylweddolais fy mod ymhlith bechgyn ifanc a oedd yn cwestiynu popeth ac yn dweud eu barn heb flewyn ar dafod. Yn Abertawe y dysgais am Karl Marx a Che Guevara! A thrwy fynychu cyfarfodydd y GymGym dysgais ganu caneuon cyffrous Dafydd Iwan.

Enillais le yn nhîm pêl-droed y coleg a byddem yn chwarae ar feysydd Fairwood lle mae’r Elyrch yn ymarfer heddiw. 

Tim pêl-droed Coleg Prifysgol Abertawe

1965-66 (rhes flaen, yr ail o’r chwith)

Tim pêl-droed Coleg Prifysgol Abertawe 1965-66. Mae Geraint yn y rhes flaen, yr ail o’r chwith.

Cofiaf yn arbennig am un prynhawn Mercher pan chwaraeom yn erbyn ail dîm Abertawe. Roedd Eidalwr ifanc talentog a drygionus o’r enw Giorgio Chinaglia yn arwain ymosodwyr Abertawe. Trwy ymarfer pob tric dan haul a cholli’r bêl yn y broses, bu’n dreth ar amynedd y rheolwr, Trevor Morris. Cafodd wared ar y gwalch ond aeth Giorgio yn ei flaen i ennill capiau dros yr Eidal ac i chwarae gyda Pele a Beckenbauer yn nhîm y New York Cosmos!

Roeddwn yn fyfyriwr yn Abertawe yn ystod y ‘Swinging Sixties’ a byddai grwpiau fel y Moody Blues, y Tremeloes a the Who yn ein diddanu yn Fulton House ar y penwythnos. Fy ffefrynnau arbennig oedd Julie Driscoll a’r Brian Auger Trinity. Roedd gwrando arnynt yn perfformio ‘Wheels on Fire’ yn brofiad gwefreiddiol. Gallwch eu clywed o hyd ar You-Tube!

Rhag i chi feddwl nad oedd llawer o waith yn fy nghroen dylwn gyfaddef fy mod yn astudiwr diwyd iawn. Gwaetha’r modd, torrais asgwrn yn fy mhenelin wrth chwarae pêl-droed yn ystod fy mlwyddyn gradd. Doedd dim amdani ond dysgu sut i ysgrifennu â’m llaw chwith! A phan ddigwyddodd trychineb Aberfan ym mis Hydref 1966 ni fu modd i mi deithio yno gyda llawer o’m ffrindiau yn Clyne i geisio achub rhai o’r dioddefwyr.

Beth oedd eich hoff bethau am Abertawe pan oeddech chi yma?

  1. Y bysiau deulawr coch a oedd yn eich cario i lefydd diddorol fel Limeslade a Chwmrhydyceirw!
  2. Cae pêl-droed y Vetch lle bu’r digymar Ivor Allchurch yn dangos mai gêm i artistiaid yw pêl-droed.
  3. Y caffi sglodion a physgod gwych yn Blackpill ar y ffordd i’r Mwmbwls.
  4. Yr hen gampws ysblennydd ar lan y môr (heb sôn am atyniadau’r campws newydd).
  5. Maes Sain Helen lle gwelais gricedwyr gorau’r byd, yn eu plith Majid Khan, Viv Richards, Wes Hall, Bobby Simpson a Don Shepherd, yn disgleirio.

Beth fyddech chi’n dweud wrth rywun sy’n ystyried dod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Ar sail fy mhrofiadau personol, byddwn ar bob cyfrif yn annog darpar fyfyrwyr o bob oed i ddewis Abertawe fel man delfrydol i astudio ac i fwynhau bywyd. Mae dwy o’m merched wedi astudio yn Abertawe ac mae un arall ar staff y Brifysgol. Beth am i chi fanteisio ar y ddarpariaeth a’r profiadau rhagorol sydd gan Brifysgol Abertawe i’w cynnig?

 

Atgofion Abertawe

Cyfres o broffiliau ein cyn-fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Darllenwch weddill y proffiliau yn ein cyfres.

Graffeg Atgofion Abertawe