Darlith Ddrama Abertawe

Theatr Genedlaethol Cymru: Theatr Rhwng Dau Fyd?

Eleni y mae Drama Abertawe yn dathlu ei chanmlwyddiant, ac er mwyn nodi’r achlysur mae’n sefydlu darlith gyhoeddus newydd ym maes y ddrama mewn perthynas â Phrifysgol Abertawe – y Ddarlith Ddrama.

Sefydlwyd Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe yn 1919, a bu’n weithgar iawn yn cynhyrchu dramâu ac yn rhoi cyfleoedd i actorion ac ymarferwyr theatr y ddinas a’r sir ddatblygu eu talent. Ymhlith yr enwau cyfarwydd a fu’n rhan o’r Gymdeithas y mae’r diweddar Islwyn Morris a Huw Ceredig, Victoria Plucknett a Steffan Rhodri. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, wrth i’r gweithgarwch cynhyrchu leihau, datblygodd y gymdeithas yn noddwr brwd i weithgarwch drama, a hynny’n bennaf drwy gyfrwng cynllun ei hysgoloriaethau. Cam arall i’r cyfeiriad hwn yw sefydlu’r ddarlith gyhoeddus hon – Y Ddarlith Ddrama. Y nod yw ei chynnal bob dwy flynedd mewn perthynas â Phrifysgol Abertawe. Un o Adran y Gymraeg y brifysgol sydd i draddodi’r ddarlith gyntaf, Dr. Hannah Sams, a hynny yn Stiwdio Theatr Taliesin am 5.30yh., dydd Mawrth y 10fed o Ragfyr.

Teitl y ddarlith yw ‘Theatr Genedlaethol Cymru: Theatr Rhwng Dau Fyd?’ Mi fydd y ddarlith yn tynnu ar waith ymchwil diweddar Dr. Sams. Bu’n craffu ar waith dau ddramodydd, sef y Cymro o ddramodydd Aled Jones Williams a'r dramodydd o Gatalwnia Sergi Belbel, ac yn y ddarlith bydd yn ystyried pa wersi y gall ein theatrau cenedlaethol eu dysgu gan ddau ddramodydd blaengar sy'n ysgrifennu rhwng gwahanol fydoedd – rhwng Cymru a Lloegr yn achos Aled Jones Williams a Chatalwnia a Sbaen yn achos Sergi Belbel.

Yn ôl Tudur Hallam, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Wrth edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol, mi fydd gan Dr. Sams rywbeth i’w ddweud yn sicr am gyflwr ein theatr ni yng Nghymru. Mae’n feirniad theatr craff ac mae’n wych fod Drama Abertawe yn rhoi’r cyfle hwn iddi fyfyrio ar gyflwr ein theatr a’n herio ni, heb os, i ehangu ein gorwelion.’

Cynhelir y ddarlith ar ddydd Mawrth, y 10fed o Ragfyr am 5.30yh yn stiwdio Theatr Taliesin, Prifysgol Abertawe (Campws Parc Singleton).

Yn ôl Geraint Davies, Gweinyddwr y Gymdeithas, ‘Gyda’r Gymdeithas yn dathlu canmlwyddiant eleni mae un llygad ar orffennol disglair, ond mae’r llall yn bendant ar y dyfodol, gyda’r bartneriaeth newydd â Phrifysgol Abertawe yn enghraifft glir o hynny. Daw’r ddarlith gyntaf hon â chyfle inni ddod ynghyd i drin a thrafod cyflwr y theatr yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac mae Dr. Sams wedi gosod y cywair iawn, drwy roi’r pwyslais ar y presennol a’r dyfodol. Fel Cymdeithas, ry’n ni’n croesawu’r cyfle i noddi’r math hwn o weithgaredd ac yn falch ein bod yn  gallu rhoi cyfle i leisiau beirniadol cyffrous ddweud eu dweud. Edrychwn ymlaen at weld ein perthynas newydd â’r brifysgol yn mynd o nerth i nerth.’

Llun: Pridd (2013) gan Kirsten McTernan

Llun o gynhyrchiad Pridd y Theatr Genedlaethol