Enillydd yr Her a deiliad tlws Her Sefydliad Morgan 2023 oedd Mali Jones

Mali Jones gyda Cefin Cambell a Dr Angharad Closs Stephens

Cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Gwyddonle 2023

Mae Prifysgol Abertawe yn noddi ac yn cynnal gweithgareddau yn y GwyddonLe, Pafiliwn Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae Her Sefydliad Morgan wedi bod yn rhan o weithgareddau’r GwyddonLe ers 2018. 

Ar ddydd Gwener yr Wyl, fe gynhaliwyd y gystadleuaeth ddadl gyhoeddus Her Sefydliad Morgan, dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, canolfan Prifysgol Abertawe sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol.Nod y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan feirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth. Yn plethu gyda thema'r GwyddonLe ar gyfer 2023 sef 'Cynefin', testun y ddadl oedd “Nid yw’r syniad o gynefin yn gallu cydnabod hanes hiliaeth ac amrywiaeth yng Nghymru”.

Daeth cynulleidfa i wylio'r ddadl a chlywed disgyblion o Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ac Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur yn mynd ben ben. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Cefin Campbell AS, a Dr Angharad Closs Stephens, o Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg y Brifysgol gyda’r cystadleuwyr yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y datganiad “Nid yw’r syniad o gynefin yn gallu cydnabod hanes hiliaeth ac amrywiaeth yng Nghymru”.

Thomas Howells o Ysgol Gwent Is Coed agorodd y gystadleuaeth gan gyflwyno’i ddadl ef o blaid y pwnc a Mea Verallo o Ysgol Gyfun Ystalyfera ymatebodd i'w bwyntiau ef gan ddadlau yn erbyn. Yna, tro Mali Jones, Gwent Is Coed, oedd hi i ddarbwyllo’r gynulleidfa o’i safbwynt hi yn erbyn y datganiad ac Efa Jones o Ystalyfera ymatebodd yn dadlau o blaid. Er mai pwnc digon heriol oedd dan sylw, roedd y pedwar disgybl wedi siarad yn ardderchog a chyflwyno’u safbwyntiau yn glir ac yn gelfydd a delio gyda chwestiynau’r beirniaid mewn ffordd aeddfed a deallus. Roedd hi’n dipyn o dasg i'r ddau feirniad benderfynu rhwng y pedwar ond dyfarnwyd mai Efa Jones oedd y Siaradwr Gorau o Blaid y Pwnc, a Mali Jones oedd y Siaradwr Gorau yn Erbyn. Mae’r ddwy wedi ennill £250 yr un i'w hysgolion. Enillydd yr Her a deiliad tlws Her Sefydliad Morgan 2023 oedd Mali Jones. Bydd Prifysgol Abertawe yn trefnu profiad gwaith o’i dewis i Mali hefyd fel rhan o’i gwobr.

 

Lluniau'r Gwyddonle 2023

GwyddonLe 2023