Adnoddau ar-lein fel rhan o Eisteddfod rithiwr

Yn ystod wythnos Eisteddfod T eleni, bu gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o weithgareddau ar-lein cyfrwng Cymraeg fel rhan o'r digwyddiad. Mae fideos ar gael ac adnoddau i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.

Mae pafiliwn y GwyddonLe wedi bod yn bartneriaeth rhwng yr Urdd a Phrifysgol Abertawe ers 2010, ac mae'n un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, wrth i arbenigwyr ddod â gwyddoniaeth yn fyw gydag arddangosion a gweithdai gwyddonol rhyngweithiol ar gyfer y miloedd o bobl ifanc sy'n ymweld â'r pafiliwn bob dydd.

Gyda'r Eisteddfod yn cael ei symud ar-lein, roedd Prifysgol Abertawe'n parhau i gynnig gweithgareddau gwyddoniaeth drwy ryddhau fideo newydd bob dydd yn ystod yr wythnos gan un o arbenigwyr gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, gan ddangos arbrofion syml y gall plant a phobl ifanc eu gwneud yn ddiogel gartref. 

Mae'r fideos ar gael isod ac yn cynnwys y canlynol:

  • ‘Deinosoriaid’ gyda Dr Rhian Meara, Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth
  • ‘Beth sydd yn y Gwaed?’ gyda Dr Alwena Morgan, Darlithydd Biocemeg
  • ‘Sut i Greu Enfys’ gyda Dr Aled Isaac, Uwch-ddarlithydd Ffiseg
  • ‘Tisiw!’ gydag Amanda Jones, Uwch-ddarlithydd Nyrsio
  • ‘Her Technocamps’ gyda Luke Clement, Swyddog Addysg Technocamps

Deinosoriaid gyda Dr Rhian Meara

Beth sydd yn y gwaed gyda Dr Alwena Morgan

Sut i greu enfys gyda Dr Aled Isaac

Gweithgaredd tisian gyda Amanda Jones

Her Technocamps gyda Luke Clement, Swyddog Addysgu Technocamps

Adnoddau i chi eu lawrlwytho

I gydfynd â’r fideos mae adnoddau ar gael i’w lawrlwytho. Mae'r adnoddau'n amrywio ac yn addas i ystod oed rhwng 2-14 oed. Mae lluniau i'w lliwio, taflenni gwaith, cwis emojis, chwileiriau, top trumps, darllen a deall a mwy. Mae'r adnoddau yma wedi'u hariannu gan Grantiau Prosiect Bach 2020 SAILS. 

I lawrlwytho'r pecynnau, cliciwch ar y llun.