Y Brifysgol yn noddi'r GwyddonLe am y nawfed flwyddyn yn olynol

Am y nawfed flwyddyn yn olynol, Prifysgol Abertawe oedd noddwr y GwyddonLe, pafiliwn gwyddoniaeth Eisteddfod yr Urdd. Bu'r GwyddonLe, sydd wedi’i gydlynu gan Academi Hywel Teifi, dan ei sang gydol yr wythnos gan ddenu ymhell dros 40,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos. Mae’r GwyddonLe yn rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc brofi gwefr astudio a gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, gwyddor dynol ac iechyd, peirianneg a thechnoleg o dan arweiniad gwyddonwyr Prifysgol Abertawe.

Ymhlith y gweithgareddau eleni, lansiwyd llong ymchwil newydd Prifysgol Abertawe, yr RV Mary Anning. Cafodd y llong ei hangori yn y Bae a’i lansio’n swyddogol gan seren y gyfres Game of Thrones, Iwan Rheon. Roedd hefyd cyfle i ymwelwyr fynd am daith o amgylch y llong gyda staff o’r Coleg Gwyddoniaeth yn ystod wythnos yr Ŵyl.

Cynhaliwyd cystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Academi Morgan ar ddydd Gwener 1 Mehefin. Noddwyd y gystadleuaeth gan Academi Morgan, canolfan ymchwilio materion polisi cyhoeddus Prifysgol Abertawe, ac fe’i trefnir ar y cyd â’r Adran Ddaearyddiaeth ac Academi Hywel Teifi. Lansiwyd y gystadleuaeth yn 2018 a’i nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan y beirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Jeremy Miles AC a Dr Aled Eirug, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Academi Morgan. Enillydd y gystadleuaeth, gan ennill ysgoloriaeth gwerth £250 i’r ysgol a phrofiad gwaith gan Academi Morgan, oedd Thomas Kemp o Ysgol Garth Olwg.

Roedd digwyddiadau rhyngweithiol eraill megis y cyfle i godio robotiaid, cael tro ar y beic hydrogen, dysgu am effaith plastig ar lygredd yn yr amgylchedd, helpu seryddwyr proffesiynol i ymchwilio i ryfeddodau’r bydysawd a llawer mwy.  Bu Prifysgol Abertawe hefyd yn cydweithio â phartneriaid allanol a ychwanegodd at y gweithgaredd a’r bwrlwm yn y GwyddonLe gan gynnwys y Sefydliad Ffiseg yng Nghymru, WWF Cymru, Gweld Gwyddoniaeth, Creadigidol, Finning Ltd, Astro Cymru, IBERS Prifysgol Aberystwyth a Gwyddoniaeth Gwyllt.

Uchafbwyntiau'r GwyddonLe 2019

GwyddonLe 2019