Adnoddau ar-lein fel rhan o Eisteddfod T

Yn ystod wythnos Eisteddfod T eleni, mae gwyddonwyr Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o weithgareddau ar-lein cyfrwng Cymraeg fel rhan o'r digwyddiad. Mae fideos ar gael ac adnoddau i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.

Mae pafiliwn y GwyddonLe wedi bod yn bartneriaeth rhwng yr Urdd a Phrifysgol Abertawe ers 2010, ac mae'n un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, wrth i arbenigwyr ddod â gwyddoniaeth yn fyw gydag arddangosion a gweithdai gwyddonol rhyngweithiol ar gyfer y miloedd o bobl ifanc sy'n ymweld â'r pafiliwn bob dydd.

Gyda'r Eisteddfod yn cael ei symud ar-lein llynedd, mae’r Urdd yn anelu at gynnal Eisteddfod T fwy arloesol fyth eleni drwy gynnwys mwy o gystadlaethau ac elfennau newydd er mwyn cynnig profiadau unigryw i holl blant a phobl ifanc Cymru, eu hathrawon a’u teuluoedd. Mae Prifysgol Abertawe'n parhau i gynnig gweithgareddau gwyddoniaeth bob dydd yn ystod yr wythnos ar Ap yr Eisteddfod ac isod.

Digwyddiadau Byw y GwyddonLe

Bydd Technocamps yn cynnal dwy sesiwn fyw ‘Achub y Gofodwr’ ar Zoom yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni fel rhan o arlwy’r GwyddonLe. Mae’r sesiynau, a fydd yn cael eu cynnal ar brynhawn Mawrth, 1af Mehefin, a bore Gwener 4ydd Mehefin, yn addas ar gyfer plant 9-13 oed. Bydd angen i blant ddatrys problemau i achub "gofodwr" a bydd cyfle iddynt holi cwestiynau am y gofod hefyd!

I gofrestru, cliciwch ar y dolenni isod;

Ganol dydd ar ddydd Gwener, 4ydd o Fehefin, bydd Her Sefydliad Morgan – ein cystadleuaeth ddadl gyhoeddus – yn cael ei chynnal yn fyw. Ewch i dudalen Her Sefydliad Morgan am fanylion. 

Mae fideos newydd eleni ar gael isod ac yn cynnwys y canlynol;

  • Sut mae planhigion yn cymryd dŵr wrth ddefnyddio'r sylem gyda Dr Gethin Thomas
  • Llosgfynyddoedd gyda Tom Kemp
  • Y Synhwyrau gyda Dr Alwena Morgan
  • Arbrawf Batri Ceiniog gyda Carys Worsley, Specific IKC, Prifysgol Abertawe
  • Toddion ac Osmosis  gyda Dr Gethin Thomas
  • Sut mae dull Gauss yn gweithio i gyfrifo cyfanswm gyda Dr Kristian Evans
  • Haematoleg: Grwpio Gwaed gyda Dr Alwena Morgan

 

Fideos ac adnoddau'r GwyddonLe

 

Sut mae planhigion yn cymryd dŵr wrth ddefnyddio'r sylem gyda Dr Gethin Thomas

Fideo gyda Dr Gethin Thomas, Uwch-ddarlithydd Biowyddorau Prifysgol Abertawe, yn dangos arbrawf syml i ddangos sut mae planhigion yn cymryd dŵr wrth ddefnyddio'r sylem. Mae'r fideo'n addas i blant Cynradd.

Llosgfynyddoedd gyda Tom Kemp

Fideo gyda Tom Kemp, Myfyriwr Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, yn dangos arbrawf syml i greu llosgfynydd y gall plant a phobl ifanc gynnal yn ddiogel adref. Mae'r fideo'n addasi blant Cynradd. 

Y Synhwyrau gyda Dr Alwena Morgan

Fideo gyda Dr Alwena Morgan, Uwch-ddarlithydd Biofeddygaeth Prifysgol Abertawe, yn esbonio'r synhwyrau. Mae'r fideo'n addas i blant Cynradd.

Toddion ac Osmosis gyda Dr Gethin Thomas

Fideo i blant Cynradd gyda Dr Gethin Thomas, Uwch-ddarlithydd Biowyddorau Prifysgol Abertawe, yn dangos arbrawf syml i weld pa effaith mae newid y toddion yn cael ar osmosis.

Arbrawf Batri Ceiniog gyda Carys Worsley, Specific IKC, Prifysgol Abertawe

Fideo i blant Cynradd gyda Carys Worsley, Specific IKC, Prifysgol Abertawe, yn dangos arbrawf syml i greu batri y gall plant a phobl ifanc eu gynnal yn ddiogel gartref.

Sut mae dull Gauss yn gweithio i gyfrifo cyfanswm gyda Dr Kristian Evans

Fideo i ddisgyblion Uwchradd yng nghwmni Dr Kristian Evans, Athro Cyswllt Mathemateg Prifysgol Abertawe, yn dangos sut mae dull Gauss yn gweithio i gyfrifo cyfanswm. Dysgwch fwy am Dull Mathemategol Gauss.

Haematoleg: Grwpio Gwaed gyda Dr Alwena Morgan

Fideo i ddisgyblion Uwchradd gyda Dr Alwena Morgan, Uwch-ddarlithydd Biofeddygaeth Prifysgol Abertawe, yn dangos arbrawf Grwpio Gwaed ABO a Rhesws. Os ydych chi'n dymuno cynnal yr arbrawf hon yn eich ysgol, lawrlwythwch yr adnodd Grwpio Gwaed sy'n cydfynd â'r fideo. 

Adnoddau i chi eu lawrlwytho

I gydfynd â’r fideos mae adnoddau ar gael i’w lawrlwytho. Mae'r adnoddau'n amrywio ac yn addas i ystod oed rhwng 2-16 oed. Mae lluniau i'w lliwio, taflenni gwaith, cwis emojis, chwileiriau  a mwy. 

I lawrlwytho'r pecynnau, cliciwch ar y llun.