Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

Roedd Prifysgol Abertawe yn falch unwaith eto yn 2018 o noddi un o brif atyniadau maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef pafiliwn y GwyddonLe a chynnig wythnos lawn o weithgareddau addysgiadol difyr i’r teulu cyfan.  Roedd modd i ymwelwyr i’r Eisteddfod, a chafodd ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd rhwng 28 Mai a 2 Mehefin 2018, fwynhau arlwy amrywiol o weithgareddau o fyd gwyddoniaeth, technoleg a’r digidol dan arweiniad gwyddonwyr Prifysgol Abertawe.  Mae’r GwyddonLe yn denu miloedd o ymwelwyr bob dydd  ac yn cynnig rhaglen gyffrous o weithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau gwyddonol i bobl o bob oed. 

Am y tro cyntaf yn 2018, cynhaliwyd cystadleuaeth siarad gyhoeddus newydd yn y GwyddonLe. Cystadleuaeth i ddisgyblion ysgol hŷn yw Her Academi Morgan a’r testun gosod yn 2018 oedd ‘Mae ynni niwclear yn hanfodol er mwyn sicrhau cyflenwad ynni cynaliadwy i Gymru’. Trefnir y gystadleuaeth gan Academi Morgan, canolfan ymchwilio materion polisi cyhoeddus Prifysgol Abertawe, ar y cyd â’r Adran Ddaearyddiaeth ac Academi Hywel Teifi. Nod y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan y beirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth, sef Simon Thomas AC a Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan.  Mae'r siaradwr gorau o blaid ac yn erbyn y testun gosod yn derbyn £250 yr un i’w hysgolion a’r unigolyn buddugol yn ennill Ysgoloriaeth Academi Morgan ac yn cael y cyfle i fynd ar brofiad gwaith wedi’i drefnu gan Academi Morgan. 

Ymhlith yr atyniadau eraill yn y GwyddonLe roedd cyfle i godio robotiaid, gwneud gwaith ditectif DNA, profi sgiliau gyrru car rasio, dysgu mwy am ryfeddodau’r sêr a llawer mwy.  Yn ogystal roedd cyfle i ymwelwyr ennill gwobrau mewn cystadlaethau dyddiol a chanfod mwy am y cyrsiau a’r cyfleoedd y gall Prifysgol Abertawe eu cynnig.  Roedd partneriaid y GwyddonLe, sef Creadigidol, Parciau Cenedlaethol Cymru, cwmni peirianneg cynaliadwy Riversimple, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed a Sefydliad Ffiseg yng Nghymru, hefyd yn darparu gweithgareddau amrywiol yn ystod yr wythnos. 

Delwedd o'r Ysbyty Tedi yn y GwyddonLe

Eisteddfod yr Urdd 2018

GwyddonLe 2018