Strwythur LLB yn y Gyfraith

Ein LLB yn y Gyfraith Anrhydedd Sengl yw ein gradd graidd yn y gyfraith. Wrth astudio'r rhaglen hon, byddwch yn astudio'r pynciau cyfreithiol sylfaenol yn eich blwyddyn gyntaf a'ch ail flwyddyn.

Ochr yn ochr â'r meysydd gorfodol hyn, yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn dechrau dewis o restr hir o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i lywio eich gradd o amgylch eich diddordebau sy’n datblygu.

Erbyn eich trydedd flwyddyn, mae'r radd yn cynnwys modiwlau dewisol yn unig, sy'n rhoi'r cyfle i chi deilwra eich astudiaethau o amgylch eich diddordebau a'ch dewisiadau. Mae strwythur llawn y radd gyda rhestrau o'r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gael i chi isod.Sylwer, er ein bod bob amser yn cynnig ystod eang o bynciau i ddewis ohonynt, mae'r rhestr o fodiwlau dewisol sydd ar gael yn amodol inewid o bryd i'w gilydd.

A student working at a laptop