Trosolwg o'r Cwrs
Mae ceisiadau ar gyfer ein rhaglen Bydwreigiaeth BMid bellach wedi cau ar gyfer mynediad 2023. Os ydych chi’n chwilio am le ar gyfer Medi 2023, mae gennym ni gyrsiau eraill ar gael o hyd yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gallwch feithrin y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar yrfa werthfawr sy'n llawn boddhad fel bydwraig gyda'n cwrs gradd uchel ei barch a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn Bydwreigiaeth.
Byddwch yn datblygu'r arbenigedd clinigol a rhyngbersonol i sicrhau llesiant corfforol ac emosiynol menyw yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ar ôl geni.
Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau ymarfer, gan weithio gyda bydwragedd mewn timau cymunedol, canolfannau geni a arweinir gan fydwreigiaeth ac unedau mamolaeth mewn ysbytai.
Mae gennym gysylltiadau ardderchog â byrddau iechyd yng Nghymru, felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau ledled de-orllewin Cymru. Mae'r ysbyty mamolaeth agosaf drws nesaf i gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr.