Ran-amser Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu), BSc (Anrh)

Cwrs rhan-amser wedi'i ariannu'n llawn

Myfyriwr sy'n gweithio ar offer peirianneg feddygol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BSc ran-amser (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol) wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer unigolion sy'n cael eu cyflogi yn y GIG. Mae'r rhaglen yn darparu'r hyfforddiant arbenigol sy'n ofynnol i ddatblygu gyrfa foddhaus a hynod fedrus fel peiriannydd meddygol. Fel ymarferydd, bydd gennych rôl ymarferol gyda dyfeisiau meddygol, gan weithio gydag amrywiaeth eang o gyfarpar a ddefnyddir yn gyffredin mewn ysbytai. Gallwch hefyd ddewis arbenigo mewn meysydd penodol, megis cyfarpar arennol neu radiotherapi.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn dysgu am gylch oes llawn cyfarpar meddygol, o brofi am dderbynioldeb a rhoi dyfeisiau newydd ar waith i gynghori clinigwyr ar ddefnydd cywir, ymdrin â materion ynghylch diogelwch cleifion a rheoli prosesau i gael gwared â hen gyfarpar. Byddwch yn cyfuno astudiaethau academaidd manwl â phrofiad clinigol a thechnolegol ymarferol mewn amgylcheddau gofal iechyd arbenigol. Byddwch yn astudio ar lefelau FHEQ 5 a 6 dros dair blynedd, gan gyfuno dysgu academaidd â phrofiad helaeth sy'n seiliedig ar ymarfer yn eich rôl bresennol yn y GIG. 

Mae peirianneg feddygol yn faes amrywiol sy'n datblygu'n barhaus. Byddwch yn rhoi gwybodaeth o beirianneg electronig a mecanyddol ar waith i asesu, cynnal a chadw, addasu ac, mewn rhai achosion, helpu i ddylunio dyfeisiau meddygol a ddefnyddir mewn triniaeth a diagnosis cleifion.

Fel dysgwr cyflogedig, byddwch yn elwa o ddysgu drwy ymarfer yn eich bwrdd iechyd eich hun, â chymorth un diwrnod a hanner o absenoldeb astudio yr wythnos. Mae un diwrnod llawn yn cael ei  ddynodi  i addysgu dan arweiniad y brifysgol, a  hanner diwrnod ychwanegol ar gyfer gwaith aseiniadau a datblygu portffolio. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)  yn rhoi cymorth ariannol i fyrddau iechyd drwy daliadau ôl-lenwi ar fand canol pwynt 4 i  hwyluso eich cyfranogiad yn y rhaglen. 

PAM PEIRIANNEG FEDDYGOL YN ABERTAWE?

Mae astudio Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol) yn Abertawe yn golygu dysgu mewn amgylchedd sydd wedi'i ddylunio i gefnogi eich datblygiad academaidd a'ch paratoad proffesiynol. Mae ein partneriaethau cryf â byrddau iechyd y GIG ledled Cymru yn sicrhau amgylchedd dysgu sy'n adlewyrchu ymarfer clinigol go iawn ac yn cefnogi'n llawn ddilyniant gyrfa yn y gwasanaeth iechyd. 

 Byddwch yn elwa o ddysgu cyfunol wedi'i gynllunio o amgylch eich ymrwymiadau cyflogaeth, gyda chymysgedd o gyflwyno o bell,  adnoddau  ar-lein ac wythnosau sgiliau clinigol ar y campws. Cynhelir y sesiynau addysgu ar ein campws ym Mharc Singleton a chant eu hategu gan fynediad at gyfleusterau rhagorol,  gan gynnwys  Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSiM),  labordai  clinigol  arbenigol ac offer digidol fel systemau realiti rhithwir. 

Byddwch yn cael eich addysgu a'ch cefnogi gan ein staff academaidd profiadol, y mae llawer ohonynt yn wyddonwyr gofal iechyd wrth eu gwaith. Mae eu cyfuniad o  arbenigedd  gwyddonol a dealltwriaeth broffesiynol yn golygu y byddwch chi'n dysgu gan bobl sy'n deall realiti peirianneg feddygol ac anghenion datblygol cleifion a gwasanaethau. 

EICH PROFIAD PEIRIANNEG FEDDYGOL

Yn ystod eich astudiaethau rhan-amser, byddwch chi'n cael profiad o gymysgedd cyfoethog o addysgu academaidd, clinigol ac ymarferol i ddatblygu eich hyder a’ch parodrwydd proffesiynol fel peiriannydd meddygol. Mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth a addysgir â dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer eang, gan eich galluogi i roi egwyddorion peirianneg ar waith yn uniongyrchol i ddatrys heriau gofal iechyd go iawn. 

 Byddwch yn mynychu'r brifysgol am un diwrnod yr wythnos, a cheir hanner diwrnod ychwanegol o amser astudio gwarchodedig wedi'i gefnogi gan eich cyflogwr. Cynhelir tua 75% o'r sesiynau addysgu o bell, wedi'u hategu gan gyfnodau ar y campws  fesul semester,  lle byddwch yn datblygu sgiliau clinigol a thechnegol ymarferol, yn  cymryd rhan  mewn gweithgareddau efelychu ac yn rhyngweithio â chyd-fyfyrwyr ar draws y gyfres o raglenni Gwyddor Gofal Iechyd. 

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae galw mawr am raddedigion Peirianneg Feddygol ledled Cymru ac yn y DU ehangach. Mae'r rhaglen wedi cael ei chomisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn ymateb uniongyrchol i anghenion cynllunio'r gweithlu ar ôl i sefydliadau'r GIG nodi angen brys a chynyddol am beirianwyr meddygol hyfforddedig.

Mae'r rhan fwyaf o raddedigion yn symud ymlaen i rolau Peiriannydd Meddygol neu Beiriannydd Clinigol Band 5 yn y GIG. Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, gallwch symud i rolau arbenigol, uwch neu reoli, neu weithio mewn ymchwil, addysg neu yn y diwydiant dyfeisiau meddygol.

Drwy gydol eich gradd, byddwch yn cael cymorth cyflogadwyedd gan arweinydd cyflogadwyedd y rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd, gan gynnwys llunio CV, paratoi am gyfweliadau a rhwydweithio â mentoriaid yn y GIG a darpar gyflogwyr yn ystod lleoliadau gwaith. Bydd eich portffolio clinigol a'ch profiad helaeth o ymarfer yn rhoi mantais gystadleuol gref i chi hefyd.

Ran-amser Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu), BSc (Anrh)