Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), BSc (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu yn cael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio

Cardiac Featured

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs wedi'i achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gofal Iechyd a Gwyddoniaeth a'r Cyngor Cofrestru Ffisioleg Glinigol.

Byddwch yn cael y wybodaeth wyddonol, glinigol a thechnegol sydd ei hangen arnoch i roi gofal arbenigol i bobl sy'n byw gyda chlefyd cardiaidd neu yr amheuir bod ganddynt glefyd cardiaidd.

Byddwch yn astudio anatomi a ffisioleg y galon a'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf ac yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Mae Ffisioleg Gardiaidd yn faes cyffrous sy'n datblygu'n gyflym sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a'r gallu i ddatrys problemau. Fel ffisiolegydd cardiaidd, bydd disgwyl i chi ymgymryd â rhywfaint o waith a arferai gael ei wneud gan feddygon a bydd llawer o gyfleoedd i arbenigo mewn maes penodol wrth i chi ddatblygu eich gyrfa.

Pam astudio Ffisioleg Gardiaidd yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar ein Campws Parc Singleton ar lan y môr, mae ein cyrsiau Gwyddor Gofal Iechyd yn rhan o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lle gallwch fanteisio ar arbenigedd ymchwilwyr ac addysgwyr blaenllaw. 

Eich profiad ym maes Ffisioleg Gardiaidd

Mae ein cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe, yn cynnwys ystafell glinigol realistig i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau y byddwch chi'n cael profiad ohonynt ar leoliad gwaith.

Byddwch hefyd yn elwa o leoliad sydd â chleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Lles arobryn, sef clinig ar y safle sy'n cynnig gwasanaethau iechyd a lles i’r gymuned leol mewn cydweithrediad â'r GIG.

Addysgir hanner eich cwrs ar ein Campws Parc Singleton ar ymyl  Penrhyn Gŵyr hardd a bydd yr hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gysylltiadau cryf â darparwyr gofal iechyd a Byrddau Iechyd Cymru, sy'n agor ystod eang o gyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi.

Mae llawer o'n staff academaidd hefyd yn wyddonwyr gofal iechyd cymwysedig, gan ddarparu cyfuniad o fanwl gywirdeb gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol heb ei ail.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gall eich ffioedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Ewch i’n tudalen we Cyllid y GIG i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid cyn gwneud cais.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch chi'n gymwys i ymuno â'r gofrestr wirfoddol gyda'r Cyngor Cofrestru ar gyfer Ffisioleg Glinigol neu'r Academi Gwyddor Gofal Iechyd i ymuno â’r gweithle fel ymarferydd annibynnol.

Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Ffisiolegwyr Cardiaidd yw £32,073 gan godi i £39,043 gyda'r potensial am ddilyniant gyrfa pellach gydag astudiaethau ychwanegol. Mae hefyd ragolygon ardderchog i weithio ym meysydd ymchwil, addysgu, rheolaeth, adrannau’r llywodraeth a'r sector preifat.

Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), BSc (Anrh)