Ymarfer Clywedeg Sylfaenol, Tystysgrif Addysg Uwch

Gwrs modiwlaidd rhan-amser 18 mis

audiology

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Clywedegol Sylfaenol yn gwrs rhan-amser 18 mis, wedi'i anelu at Gynorthwy-ydd GIG neu Awdiolegwyr Cyswllt a enwebir gan eu Pennaeth Gwasanaeth.

Trwy gydol y cwrs byddwch chi'n ennill y wybodaeth a'r dealltwriaeth sydd eu hangen i ymarfer ar lefel Cyswllt / Cynorthwyol mewn Adran Glywedeg ysbytai, gan gefnogi asesu meintiol a rheoli cleifion â phroblemau sy'n ymwneud â chlyw.

Byddwch yn dysgu sut mae asesu gallu clyw a natur glinigol y cwrs yn darparu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y proffesiwn. Mae'r gwaith yn cynnwys trin, monitro ac atal anhwylderau'r system glywedol.

Mae rhan helaeth o hyn yn cynnwys asesu gallu clyw cleifion sy'n oedolion yn ail-fyned y gwasanaeth clywedeg, a dilynir hyn gan adfer yr amhariad. Gwneir hyn i raddau helaeth trwy osod, dilysu ac addasu teclynnau clyw ac yna hyfforddi cleifion ar sut i ddefnyddio'r teclynnau clyw yn effeithiol.

PAM YMARFER CLYWEDEGOL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE?

Wedi'u lleoli ar ein Campws Parc Singleton ar lan y môr, mae ein cyrsiau Gwyddor Gofal Iechyd yn rhan o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lle gallwch chi elwa o arbenigedd ymchwilwyr ac addysgwyr blaenllaw yn y byd.

Mae Clywedeg yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Ail yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)*
  • Chweched yn y DU am Foddhad Addysgu (Guardian University Guide 2026)*
  • Wythfed yn gyffredinol yn y DU (Times Good University Guide 2026)**
  • Pumed yn y DU am Ymchwil (Times Good University Guide 2026)**

*Wedi'i rhestru o dan Anatomeg a Ffisioleg
**Wedi'i rhestru o dan Bynciau sy'n berthynol i Feddygaeth

Eich Profiad ym Mhrifysgol Abertawe

Mae ein cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys Canolfan Dysgu Trwy Elelychu a Throchi Prifysgol Abertawe, yn darparu efelychiadau gweithle realistig ac mae llawer o'n staff academaidd yn y Gwyddorau Iechyd yn glinigwyr sy'n ymarfer, gan ddarparu mewnwelediad ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy

Byddwch hefyd yn elwa o leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Lles, sef clinig ar y safle sy'n darparu gwasanaethau iechyd a lles i'r gymuned leol, gan gynnwys clinig clywedeg mewn cydweithrediad â'r GIG.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae ein cwrs wedi ei ddatblygu i roi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa ac ymarfer ar lefel Gysylltiol / Cynorthwyol mewn Adran Glywedegol ysbytai.

Ymarfer Clywedeg Sylfaenol, Tystysgrif Addysg Uwch