Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi (SUSIM)
Mae Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi (SUSIM) yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychu i gefnogi dysgwyr a thimau i drochi, myfyrio a datblygu drwy senarios byd go iawn mewn athroniaeth un rhaglen ar amrywiaeth o safleoedd.
Ein gweledigaeth ar gyfer addysg sy'n seiliedig ar efelychu yw ymgorffori dysgu rhyngbroffesiynol drwy gydol ein cyfres o raglenni clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein henw da byd-eang am addysg gofal iechyd yn ein gosod yn y sefyllfa orau i ddatblygu'r enw da hwn ac i gynyddu defnydd o ddulliau addysg ar sail efelychu a throchi yn ein cwricwlwm er budd ein myfyrwyr ac athrawon a datblygu arferion diogelwch cleifion, timau a systemau drwy ddysgu ymarferol.
SUSIM yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael offeryn awduro efelychiad IRIS i wella’r safonau a’r cydweithio wrth ddatblygu addysg seiliedig ar efelychiad.
Ymchwil ac Arloesi
Ers iddi ddechrau yn 2021, mae rhaglen SUSIM wedi dechrau ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil ac arloesi.
Mae gan dimau a rhaglenni SUSIM genhadaeth gref i sicrhau bod ymagwedd hynod gydweithredol gennym at hyrwyddo ac ehangu dysgu ar sail efelychu ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Gyda'n partneriaid ymchwil, rydym yn datblygu partneriaethau, cydweithrediadau a chyfleoedd ymgysylltu ar draws partneriaid addysg glinigol, Byrddau Iechyd lleol, cymdeithasau efelychu proffesiynol ac yn datblygu cyfleoedd mewn cymunedau a busnesau lleol.
Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan
Mae Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan yn brosiect ymchwil ac arloesi ar y cyd sy'n Datblygu Amgylchedd Clinigol Rhithwirl ar gyfer Dysgwyr Gofal Iechyd yng Nghymru. Ei nod yw pennu amgylchedd rhithwir amlddisgyblaeth a thraws-arbenigedd ar-lein ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig (Ysbyty Rhithwir Cymru).
Partneriaid y prosiect: Virtus Tech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Rhwydwaith Trawma Mawr De Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Canolfan Arloesi Technoleg Gynorthwyol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd
Dysgu cyfrifiadurol fel Moddolrwydd ar gyfer Addysgu Timau Clinigol
Mae tîm SUSIM yn gweithio gyda Body Interact ar hyn o bryd ar beilot i brofi a gweithredu platfform senario efelychu cyfrifiadurol ymysg ein timau addysg ryngbroffesiynol. Bydd y prosiect hwn yn para 12 mis a'i nod yw mesur effeithiolrwydd ac ymgysylltiad y dull hwn o addysg ar sail efelychu ar gyfer dysgwyr ac ystyriaethau o ran ei roi ar waith yn y Gyfadran.