Mae eich gyrfa yn dechrau yma

Mae ein canllawiau cyflym wedi'u cynllunio i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich cwrs a'ch gyrfa ddewisol trwy wasgu botwm.

Pe bai chi am ddod yn Feddyg neu â diddordeb mewn bod yn Fydwraig, Nyrs, neu Seicolegydd, ein nod yw ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, a’ch helpu i ddeall mwy am y gyrfaoedd hyn, a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi ar ôl i chi gymhwyso.

myfyrwyr yn cerdded ar y traeth

Beth sydd o ddiddordeb i chi?

Gyrfaoedd GIG

Rydym yn arwain y ffordd o ran hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a Gofal Iechyd. Ers bron i dri degawd rydym wedi bod ar flaen y gad o ran hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG. Beth bynnag fo'ch dyheadau gyrfa, yn Abertawe mae ein hymagwedd arloesol a'n hymroddiad i wella darpariaeth gofal iechyd yn ein gwneud yn lle delfrydol ar gyfer y cam cyntaf ar eich gyrfa wrth i ni ddatblygu'r GIG a gofal iechyd ar gyfer anghenion cymdeithas yn y dyfodol.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Seicoleg Gwyddorau Meddygol

Diddordeb mewn astudiaeth Ôl-raddedig?

Archwiliwch ein hystod o Hysbysiadau Hwylus Ôl-raddedig.

Cofrestwch ar gyfer Diwrnod Agored
Ysgol Iechyd a Gwyddor Bywyd

Rydym yn datblygu cyrsiau, modiwlau a phrosiectau ymchwil mewn ymateb i alw gan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn dod â buddion bywyd go iawn i'r sectorau gofal iechyd, gofal cymdeithasol, gwirfoddol a phreifat, gan arwain yn y pen draw at welliannau i blant, rhieni, ymarferwyr, rheolwyr a llunwyr polisi.

Ysgol Seicoleg Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe