Beth yw astudio Geneteg?

Geneteg yw’r maes bioleg sy’n ystyried genynnau yn benodol, ac yn ehangach mae’n ystyried etifeddeg mewn organeddau byw. Yn ei hanfod mae’n astudio DNA a sut mae genynnau wedi’u codio gan DNA yn creu organeddau byw. Yn ddiweddarach, mae maes geneteg wedi datblygu er mwyn helpu i ddeall yr hyn sy’n digwydd pan fo genynnau a’u cynnyrch cysylltiedig yn methu gweithredu yn ôl eu bwriad, sy’n arwain at glefydau genetig sy’n cyfyngu ar fywyd a chanserau.

Mae Geneteg Feddygol yn creu effaith anferth ym maes diagnosio a thrin clefydau dynol. Mae gwybodaeth a gafwyd gan ddilyniannu’r genom dynol yn galluogi ymchwilwyr i ddeall y clefydau niferus sydd ag elfennau geneteg. Mae llawer o feddygon sy’n dod i ymchwilio yn canolbwyntio ar agweddau geneteg ar iechyd dynol a chlefydau. 

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Erin Macdonald
Llun Erin Macdonald

"Mae’r cwrs yn cyffwrdd ar amrywiaeth o bynciau fel Imiwnoleg, Sgiliau i Ymchwilwyr a Bioleg Celloedd Ewcaryotig. Mae astudio yn Abertawe wedi bod yn brofiad gwahanol i mi oherwydd dechreuais yn ystod Covid-19 ond rydw i wedi cael mwy o ddarlithoedd a gweithdai wyneb yn wyneb ar y campws eleni a bob amser yn edrych ymlaen atynt. Fy hoff bwnc ar fy nghwrs hyd yma yw Imiwnoleg a Ffisioleg Ddynol. Rydw i’n hoff iawn o ddysgu am systemau’r corff a sut mae triniaethau'n gweithio a thrin amrywiaeth o glefydau a hefyd sut mae’r corff yn ymateb i’r driniaeth."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Erin

Pa yrfaoedd sydd ar gael ym maes Geneteg?

Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth armystod eang o bynciau er mwyn eich paratoi ar gyfer swyddi mewn amrywiaeth eang o broffesiynau. Mae cyfleoedd gyrfaol yn gallu bod yn ddi-rif oherwydd y ffordd y mae geneteg yn sail i’r holl fywyd biolegol, felly mae gradd mewn geneteg yn gallu eich gwneud yn gystadleuol dros ben mewn llawer o feysydd biolegol.

Ym Mhrifysgol Abertawe, bydd eich gallu i ddewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau geneteg eich hun yn eich galluogi i lunio’ch gradd. Bydd ein teulu o raddau geneteg yn rhoi ichi fynediad i ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys y byd academaidd, ymchwil ddiwydiannol, cynnyrch fferyllol, cynghori genetigol, ysgrifennu meddygol a’r diwydiannau bwyd a diodydd i enwi ychydig ohonynt.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn un o'n graddau Llwybrau at Feddygaeth gan gynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth (i Raddedigion), gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg. Maent yn ddelfrydol i chi os ydych:

 

Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.

Geneteg

Bydd ein hystod o gyrsiau Geneteg yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi o flociau adeiladu sylfaenol pob bywyd ar y ddaear. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiant genynnau, rhyngweithiadau protein, strwythur a difrod DNA, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddi cyfrifiadurol uwch. Mae astudio geneteg yn faes cyffrous sy'n symud yn gyflym ac sy'n cael effaith enfawr mewn ystod o feysydd gwyddonol, gan gynnwys deall a thrin afiechydon, datblygiad fferyllol, esblygiad, a chadwraeth bioamrywiaeth.

Archwiliwch ein cyrsiau

 

Geneteg Feddygol Biocemeg a Geneteg