Pam astudio Gwyddorau Meddygol yn Abertawe?

Yma yn Abertawe, rydym o ddifrif ynghylch gwyddoniaeth feddygol a natur drawsnewidiol y sector hwn i iechyd, cyfoeth a lles ein cymunedau yn fyd-eang, ac rydym wedi gwneud ein cenhadaeth i ddefnyddio ein gwybodaeth wyddonol er mwyn gwella canlyniadau iechyd cleifion go iawn.

Mae ein graddau BSc ac MSci israddedig yn cynnig cyfle i chi arbenigo mewn gwahanol feysydd gwyddor feddygol, deall sut mae'r corff yn gweithredu, sut mae'n ymateb i wahanol ysgogiadau a sut, gyda gwell dealltwriaeth o'r adweithiau hyn, gallwn ddarparu gofal iechyd wedi'i dargedu at yr unigolyn, archwilio a goresgyn yr heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel rhywogaeth a pharatoi ein myfyrwyr i gwrdd â'r heriau hyn yn uniongyrchol fel gwyddonydd.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Mae eich gyrfa yn dechrau yma

Mae gan ein graddau israddedig mewn gwyddor bywyd wedi gwreiddio ynddynt, ffocws gyrfaoedd. P'un a ydych chi'n chwilio am Lwybr at Feddygaeth ac yn gwireddu eich breuddwyd o ddod yn feddyg, neu'n dymuno dilyn un o'n graddau ymchwil dwys MSci a sefydlu'ch hun ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa mewn ymchwil, mae gan ein cyrsiau a'n darlithwyr eich gyrfa mewn golwg.

Diddordeb mewn meddygaeth?

Mae llawer o'n graddau Gwyddor Bywyd hefyd yn Llwybrau at Feddygaeth, sy'n cynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion, gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg.

Ein heffaith ymchwil

I’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes ymchwil, byddwch yn ymuno â sefydliad sydd ag enw rhagorol am ymchwil, fel y cydnabyddir gan berfformiad cryf iawn yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021) gan arwain at welliannau iechyd i gleifion, i ddiwydiant a’r cyhoedd yn ehangach.

Cewch eich addysgu gan academyddion sy’n arwain y byd a chael eich amgylchynu gan ymchwilwyr o safon fyd-eang sydd ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol ym maes gwyddor bywyd sy’n archwilio’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu ym maes iechyd.

Blog Myfyriwr: Ffion Evans, MSci Biocemeg

Astudiodd Ffion Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio gyda'i Msci yn 2020. Dyma ei phrofiad o astudio yn Abertawe:

"Wrth benderfynu ar brifysgol, roedd y cyfle i astudio trwy’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y cwrs Biocemeg yn rhannol trwy’r Gymraeg. Wrth ddod i ddiwrnod agored roedd y campws yn teimlo’n gartrefol i mi ac roedd y staff yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn frwdfrydig iawn am y cwrs.

Yn yr ysgol, Bioleg a Chemeg oedd fy hoff bynciau. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y newidiadau sy’n digwydd yn y corff wrth ddioddef o glefydau gwahanol, yn enwedig cyflyrau niwroddirywiol. 

Felly, roedd astudio Biocemeg yn ehangu fy nealltwriaeth o’r pynciau yma a chefais gyfle i wneud prosiect ymchwil ar glefyd niwroddirywiol yn fy mhedwaredd flwyddyn."

 

Am ddarganfod mwy am Abertawe?

Wedi'ch ysbrydoli i astudio gradd Gwyddor Feddygol? Cymerwch amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein taith rithwir, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr presennol am sut beth yw astudio yn Abertawe a gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch chi brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau yn bersonol.