Defnyddio Bacteria i Dargedu Tiwmorau

Rydym yn targedu tiwmorau

Pengwiniaid Rokhopper y De

Yr Her

Mae ffyrdd cyffredin o drin canser, megis cemotherapi a radiotherapi, yn gallu bod yn annifyr iawn, gan eu bod yn effeithio ar y tiwmor a meinweoedd iach hefyd, gan achosi sgil effeithiau cas i'r claf. Er eu bod yn ddrud, mae mathau newydd o imiwnotherapi, yn targedu moleciwlau ar arwyneb allanol celloedd tiwmor a gallant ei dargedu'n fwy manwl gywir. Ond maent yn methu'n aml pan fydd y tiwmor yn datblygu a'r celloedd yn newid fel nad oes modd targedu moleciwlau'r arwyneb mwyach. Gall triniaeth sy'n manteisio ar briodweddau di-newid celloedd tiwmor ac sy'n gallu treiddio y tu mewn iddynt ddatrys y broblem.

Y Dull

Bydd rhai bacteria'n tyfu mewn tiwmor yn unig, nid mewn meinweoedd iach. Y rheswm am hyn yw bod metaboledd cell tiwmor yn wahanol i fetaboledd celloedd iach. Mae'r bacteria yn defnyddio'r maetholion a ddarperir gan y tiwmor i dyfu. Yn ogystal, mae'r tiwmor yn osgoi system imiwnedd yr organeb letyol drwy ei rhwystro. Felly, yn ogystal â chipio maetholion tiwmor, mae’r bacteria hyn hefyd yn defnyddio'r tiwmor i guddio rhag y system imiwnedd.

Yr Effaith

  • Rydym yn defnyddio'r bacteria hyn sy'n targedu tiwmorau drwy dreiddio i mewn i gelloedd i gyflenwi llwythi therapiwtig yn uniongyrchol i mewn i gelloedd tiwmor. O ganlyniad, dim ond celloedd y tiwmor sy'n cael eu rhwystro rhag lluosi, nid celloedd iach.
  • Mae canlyniadau o dreialon cyn-glinigol cyfredol a gefnogir gan Ymchwil Canser y DU yn galonogol iawn, gan awgrymu bod twf tiwmorau'n dod i ben heb sgil effeithiau difrifol.
  • Ein camau nesaf yw optimeiddio'r llwythi therapiwtig a symud ymlaen i dreialon clinigol. Mae'r dechnoleg yn agor y drws i feddygaeth wedi'i phersonoli: mae gan bob tiwmor ei hunaniaeth enetig ei hun, felly gellir addasu'r therapi i gydweddu â hynny.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health

Hoffech chi gydweithredu?

Cysylltwch â ni i ddysgu sut gallwch gydweithredu â ni drwy ymchwil

Cancer cells close up
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe