Datblygu Gwasanaeth Iechyd Gwladol cynaliadwy

Rydym yn datblygu Gwasanaeth Iechyd Gwladol cynaliadwy

Rydym yn datblygu Gwasanaeth Iechyd Gwladol cynaliadwy

Yr Her

Mae portffolio o ymchwil o Brifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar reoli gweithrediadau, arloesi sefydliadol ac ymchwil i gadwyni cyflenwi yng nghyd-destun darpariaeth iechyd a gofal yn GIG Cymru. Yr uchelgais yw creu gwasanaethau iechyd a gofal economaidd sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol i'r gymuned drwy fanteisio ar ddoniau staff y GIG gyda chymorth ymchwil gadarn effaith uchel.

Y DULL

Gan ganolbwyntio ar ysgogi gwelliannau i brosesau, cynaliadwyedd ac arloesi, mae prosiectau diweddar wedi cynnwys:

  • Addasu ystad ffermio i dyfu cynnyrch ffres a chynaliadwy, a darparu therapïau, ymarfer corff, rhyngweithio cymdeithasol ac iechyd meddwl gwell i gleifion;
  • Ailystyried llifoedd gwastraff a newid ffyrdd o feddwl;
  • Casglu a glanhau stêm a gwres o brosesau ysbyty i'w defnyddio i gefnogi tyfu cnydau;
  • Defnyddio tir gwastraff ar gyfer ffermio solar i gydbwyso biliau ynni a sicrhau gwasanaeth GIG cynaliadwy cost-isel;
  • Ailgylchu cyfarpar a deunyddiau sydd o fudd i'r gymdeithas, gan gynnwys addasu gwelyau o ysbytai Covid dros dro i blant lleol i liniaru tlodi cysgu;
  • Ailfeddwl rôl y fferyllfa ganolog wrth leihau gwastraff meddyginiaeth a phecynnu;
  • Ailgylchu eitemau a ddefnyddir yn yr ysbyty i'w troi'n gynnyrch newydd o werth i gadwyni cyflenwi nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd;
  • Cwestiynu dyluniad ysbytai'r dyfodol a sut y gellir bod yn fwy effeithlon drwy wella dyluniad theatrau llawdriniaeth a chreu llifoedd diwastraff.

Mae astudiaethau wedi bod yn gyd-destunol ac yn gyfranogol, ac roedd y methodolegau a ddewiswyd yn cynnwys y rhai hynny â'r nod o ddatrys problemau - dadansoddi astudiaethau achos, ymchwil weithredu gyfranogol a chylchoedd arbrofi sy'n uno academyddion a gweithwyr proffesiynol.

EFFAITH

Mae'r ymchwil yn cyflawni effaith sylweddol i randdeiliaid (staff y GIG, Llywodraeth Cymru, proffesiynau clinigol allweddol, cleifion, y gymuned leol a'r amgylchedd lleol) ac academyddion o amrywiaeth o feysydd astudio (rheoli gweithrediadau, rheoli amgylcheddol, rheoli cadwyni cyflenwi, rheoli arloesi a rheoli newid). Yr effaith uniongyrchol yw ar ffurf effeithlonrwydd adnoddau'r sefydliad a chyfanswm cost lleihad mewn perchnogaeth. Mae effaith newydd hefyd wedi cael ei chreu drwy sefydlu cwmnïau effaith gymunedol newydd sy'n gallu creu elw a refeniw sy'n gwneud y gwasanaethau a ddarperir yn rhai 'am ddim'.

Ond, yng nghyd-destun iechyd a gofal lle mae llywodraethu'n allweddol, mae’r ymchwil wedi cael llawer o fuddion diriaethol ac anniriaethol eraill, gan gynnwys gwelliannau ym morâl staff a chleifion, diogelwch cleifion a phrosesau, a darpariaeth gofal (o ran mynediad, lleoliad a ffurf), a chostau gweithredol (arbedion gwirioneddol, llai o gostau y gellir eu hosgoi, llai o wastraff, llai o ymdrech ac yn y blaen).

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe