Diabetes ac Ymarfer Corff

Rydym yn darganfod ymagweddau gwell at reoli glwcos ar gyfer diabetes math 1

Rydym yn darganfod ymagweddau gwell at reoli glwcos ar gyfer diabetes math 1

Yr Her

Mae athletwyr sydd â diabetes math 1 yn wynebu risgiau cynyddol yn ystod ac ar ôl ymarfer corff o lefelau siwgr gwaed yn gostwng (hypoglycemia) neu lefelau siwgr gwaed uwch (Hyperglycemia). Oherwydd rhyngweithiadau gwahanol baratoadau inswlin, gwahanol ddosau, cymeriant bwyd, ac amseriad rhoi inswlin cyn ymarfer corff, mae darparu cyngor diffiniol ar therapi inswlin a diet cyn ymarfer yn gymhleth.

Y Dull

Ymunodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, gan gynnwys Dr Richard Bracken, â thîm byd-eang yn Sbaen i fonitro'r galwadau ar feicio proffesiynol Tîm Novo Nordisk - yr unig dîm beicio proffesiynol yn y byd sy'n cynnwys beicwyr â Diabetes Math 1 - i chwilio am gliwiau am reoli glwcos yn well.

Casglodd yr ymchwilwyr ddata maeth, glwcos a ffisioleg yn ystod hyfforddiant dwys y tîm a phrotocolau profi cynhwysfawr y gamp.

Yr Effaith

Llwyddodd y tîm ymchwil i:

  • ddeall yn well y ffactorau sy'n esbonio galluoedd y timau beicio
  • ymchwilio i'w harferion dietegol wrth hyfforddi a rasio a
  • nodi manylion arferion rheoli'r glwcos yn y gwaed sy'n caniatáu lefelau mor uchel o ymarfer corff

Bydd ymchwil i ofynion beicwyr elît, proffesiynol â Diabetes math 1 yn chwarae rhan bwysig o ran deall y cyflwr yn well i lawer o bobl eraill. Bydd y canfyddiadau'n llywio cyngor gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i unrhyw un mae'r cyflwr yn effeithio arno ac sydd am fod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe