Effaith colesterol ar iechyd a chlefydau dynol

Rydym yn astudio cemeg colesterol yng ngweithgarwch yr ymennydd

Rydym yn astudio cemeg colesterol yng ngweithgarwch yr ymennydd

Yr Her

Sylwedd brasterog y mae pob cell yn ei wneud ac a geir mewn rhai bwydydd yw colesterol. Ac yntau’n un o’r moleciwlau a welir fwyaf yn y corff dynol, mae’n chwarae rôl hanfodol o ran sut mae ein corff, ac yn benodol, ein hymennydd, ein nerfau a’n hafu’n gweithio. Er gwaethaf ei bwysigrwydd ymhlith yr holl anifeiliaid, ychydig a wyddys am sut mae celloedd gwahanol yn y corff yn ymdopi â gormod o golesterol a’i newid yn foleciwlau eraill. Mae gormod o golesterol yn gysylltiedig â chlefydau’r 21ain ganrif gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd yr afu a diabetes. Bydd gwell dealltwriaeth o sut mae celloedd yn rheoli’u colesterol yn arwain at wella’r gwaith o wneud diagnosis a thriniaeth bosibl ar gyfer y rhain a chlefydau cysylltiedig eraill.

Dulliau

Mae'r Athro William J Griffiths, ar y cyd â’r Athro Yuqin Wang a Dr Eylan Yutuc, yn arwain Grŵp Ymchwil Ocsysterol Prifysgol Abertawe. Datblygodd y Grŵp ddull “tagio gwefrau” sef wrth iddyn nhw ddadansoddi moleciwlau sy’n gysylltiedig â cholesterol mewn celloedd a hylifau yn y corff gan ddefnyddio offeryn o’r enw “sbectromedr màs” bydd y rhain yn “ymoleuo” a bydd hyn yn ei gwneud hi’n rhwydd i’w canfod a’u hynodi. Mae hyn hefyd yn ein caniatáu i “fapio” eu lleoliad a’u niferoedd mewn unrhyw fath o feinwe. Mae trwydded y dechnoleg “tagio gwefrau” yn perthyn i’r cwmni biotechnolegol Cayman Chemical Company yn yr Unol Daleithiau a nhw sy’n ei marchnata fel un o’u hoffer wrth ymchwilio i feirws Corona.

Goleuo moleciwlau sy'n gysylltiedig â cholesterol

Goleuo moleciwlau sy'n gysylltiedig â cholesterol

Yr Effaith

Gan ddefnyddio’r dull “tagio gwefrau” mae’r tîm wedi cynorthwyo clinigwyr i roi diagnosis ar gyfer clefydau sy’n gysylltiedig â cholesterol ac i fonitro canlyniad biocemegol treialon clinigol. Maen nhw’n creu Atlas 3D o’r Ymennydd ar gyfer colesterol a’i ddeilliadau, gan ymchwilio i’r ffyrdd gwahanol y mae pobl sy’n dioddef o anhwylderau megis clefyd Alzheimer, Parkinson, Huntington, sglerosis ymledol a’r clefyd niwron echddygol yn ymdopi â cholesterol. 

Gan ddefnyddio’u dull ‘tagio gwefrau’ maen nhw wedi darganfod metabolyn colesterol penodol sy’n diogelu niwronau echddygol ac wedi datblygu rhaglen darganfod cyffuriau sy’n seiliedig ar y canfyddiad hwn. Bydd gwell dealltwriaeth o sut mae’r ymennydd yn gofalu am ei golesterol yn helpu wrth ddatblygu triniaethau ac efallai iachâd yn achos rhai clefydau niwroddirywiol.

Mae Platfform Ymchwil Clefydau Prin y DU wedi cael ei greu drwy fuddsoddiad gwerth £14m dros bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. 

Gweithiodd yr Athro William Griffiths a'r Athro Yuqin Wang, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe , gyda'r pediatregydd Dr Graham Shortland a'r Athro Stuart Moat, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ar gais llwyddiannus am gyllid. 

Darllenwch fwy am y buddsoddiad o £14m mewn ymchwil i glefydau prin.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Affordable and clean energy UNSDG
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe