Gwyddonydd yn chwistrellu sampl â microchwistrell i'w dadansoddi yn y labordy.

Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at blatfform newydd sydd â'r nod o ddod â chryfderau'r DU wrth ymchwilio i glefydau prin ynghyd i feithrin dealltwriaeth a phennu diagnosisau a thriniaethau'n well ac yn gynt.

Mae Platfform Ymchwil Clefydau Prin y DU wedi cael ei greu drwy fuddsoddiad gwerth £14m dros bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. 

Gweithiodd yr Athro William Griffiths a'r Athro Yuqin Wang, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe , gyda'r pediatregydd Dr Graham Shortland a'r Athro Stuart Moat, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ar gais llwyddiannus am gyllid. 

Mae Abertawe bellach wedi cael ei dewis i fod yn un o 11 canolfan arbenigol y platfform mewn prifysgolion ledled y DU sy'n cynnig arbenigeddau gwahanol. Nod canolfan Abertawe yw cyflwyno gwyddor lipidomig sy'n seiliedig ar sbectrometreg màs i faes ymchwil i glefydau prin er mwyn galluogi diagnosisau cynharach, ymyriadau a chanlyniadau clinigol gwell. 

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cais llwyddiannus Abertawe i gronfa labordai o'r radd flaenaf y Cyngor Ymchwil Feddygol am ddyfarniad gwerth bron £800,000 am gyfarpar sbectrometreg màs o'r radd flaenaf i barhau â'i hymchwil i anhwylderau sy'n ymwneud â cholesterol ac ehangu'r gwaith hwnnw. Mae'r anhwylderau hyn yn amrywio o gyflyrau niwroddirywiol megis clefyd Parkinson, clefyd Huntington, clefyd Alzheimer, clefyd niwronau motor a sglerosis ymledol, i anhwylderau metabolig megis clefyd afu brasterog, a chlefydau etifeddol prin y mae’n anodd iawn eu diagnosio. 

Meddai'r Athro Griffiths, Cyfarwyddwr y ganolfan a arweinir gan Abertawe: “Un o'n cryfderau academaidd go iawn yn ne Cymru yw ymchwil lipidomig lle rydyn ni'n edrych ar frasterau yn y corff sy’n cyfrannu at weithrediadau iach y corff, ond sy'n gallu achosi clefydau os nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio'n gywir.” 

Meddai'r Athro Wang, cyd-ymchwilydd: “Mae'r grantiau gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn hwb go iawn i ymchwil yng Nghymru a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru, ochr yn ochr â'n partneriaid yn UCL a Phrifysgol Manceinion, i ddarparu'r prosiectau.” 

Ychwanegodd Dr Shortland: “Mae hi wedi bod yn bleserus iawn i Stuart a mi weithio gyda Bill ac Yuqin i sicrhau’r cyllid. Mae hyn yn dod â phrofiad unigryw'r DU o Glinig SWAN (Syndrome Without a Name) Cymru gyfan a phrofiad yr Athro Moat ym maes biocemeg a chlefydau prin i'r cais hwn ac yn sicrhau bod ein hadrannau perthnasol yng Nghaerdydd, Abertawe a'n canolfannau arweiniol eraill yn y DU yn cydweithredu.” 

Nod Platfform Ymchwil Clefydau Prin y DU yw dod â'r timau ynghyd â'r bobl, y cleifion, y rhanddeiliaid a'r technolegau cywir i gyflawni ymchwil sy’n cael mwy o effaith. 

Mae clefyd prin yn un sy'n effeithio ar lai nag un o bob 2,000 o bobl. Fodd bynnag, mae miloedd o'r cyflyrau hyn, ac mae clefyd prin yn effeithio ar oddeutu un o bob 17 o bobl yn y DU. Mae mwy na 30 y cant o blant â chlefyd prin yn marw cyn iddynt gyrraedd pump oed. 

Meddai'r Athro John Iredale, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol. “Mae gan y DU gryfderau mawr o ran ymchwil i glefydau prin. Bydd y platfform yn dod â phobl at ei gilydd, yn cysylltu cyfranogwyr ag adnoddau a gweithgareddau yn y DU ac yn rhyngwladol, ac yn cefnogi prosiectau sy'n gwella ymchwil i glefydau prin.”

 

Rhannu'r stori