-
25 Ebrill 2024Mae myfyrwyr yn rhagnodi gwirfoddoli i gefnogi eu gyrfaoedd meddygol
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi rhoi hwb i'w huchelgeisiau i fod yn feddygon trwy wirfoddoli yn Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys.
-
24 Ebrill 2024Mae sganiau MRI manwl uchel yn helpu radiotherapi i dargedu tiwmorau yn fwy cywir
Mae pobl sy'n cael triniaeth canser yn Abertawe bellach yn elwa ar radiotherapi llawer mwy wedi'i dargedu - sy'n bosibl oherwydd rhoddion elusennol.
-
23 Ebrill 2024Academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol i Sefydliad Alan Turing
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol o fewn y rhaglen Innovate UK BridgeAI yn Sefydliad Alan Turing.
-
23 Ebrill 2024Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n cyhoeddi pedwar Cymrawd newydd o Brifysgol Abertawe
Mae pedwar academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
22 Ebrill 2024Cydweithrediad rhyngwladol newydd â'r nod o atal mathau ffliw pandemig
Mae Prifysgol Abertawe'n bartner mewn cydweithrediad rhyngwladol newydd i ddatblygu ffyrdd gwell o atal ffliw pandemig a diogelu iechyd byd-eang.
-
22 Ebrill 2024Icon Creative Design i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru
Bydd Icon Creative Design, asiantaeth ddylunio o Gymru, yn noddi Prifysgol Abertawe eto yn Varsity Cymru eleni.
-
18 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i gynnwys y gymuned drwy ddarparu mynediad am ddim i'r llyfrgell ar y campws
Mae Prifysgol Abertawe wedi adnewyddu ei hymroddiad i'r Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd a bydd yn parhau i gynnig mynediad am ddim at addysg a gwybodaeth o safon i'r gymuned leol drwy ei llyfrgelloedd.
-
18 Ebrill 2024UNESCO yn dyfarnu Cadair uchel ei bri i Athro o Brifysgol Abertawe
Mae UNESCO wedi dyfarnu Cadair mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy i'r Athro Matthew Davies, arweinydd Ffotocemeg Gymhwysol a’r Economi Gylchol yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.
-
17 Ebrill 2024Ymgyrch yn amlygu llwyddiant myfyrwyr a oedd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol
Mae llwyddiant anhygoel myfyrwyr megis Caitlin Tanner, a oedd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol, yn cael ei amlygu mewn ymgyrch genedlaethol newydd a arweinir gan Universities UK.
-
17 Ebrill 2024Mae barn athletwyr ar gynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon elît yn amrywio'n fawr fesul camp a lefel gystadlu
Mae astudiaeth newydd yn dangos bod y mwyafrif o athletwyr benywaidd (58%) yn cefnogi categoreiddio yn ôl rhyw biolegol, yn hytrach na hunaniaeth rhywedd, ond mae safbwyntiau'n amrywio yn ôl y cyd-destun chwaraeon.
-
16 Ebrill 2024Bydd ysgoloriaethau newydd yn helpu i ddenu myfyrwyr ymchwil tramor i Brifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio ysgoloriaethau mewn amrywiaeth eang o bynciau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig tramor ar lefel PhD dramor sy'n cyflwyno ceisiadau i ddechrau astudio ym mis Medi 2024 ac sy'n gallu dangos cyflawniad academaidd rhagorol.
-
12 Ebrill 2024Mae dewis diodydd llawn siwgr yn hytrach na sudd ffrwythau ar gyfer plant bach yn gysylltiedig â’r risg o ordewdra pan fyddant yn oedolion
Gall yfed diodydd sydd wedi’u melysu â siwgr yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn ystod plentyndod fod yn gysylltiedig â phatrymau deiet gwael sy’n cynyddu’r risg o ordewdra’n ddiweddarach mewn bywyd, yn ôl astudiaeth newydd gan Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.
-
11 Ebrill 2024Ymchwil newydd yn dangos bod arferion cysgu ceirw newydd-anedig yr un mor arbennig â babanod newydd-anedig
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod ceirw braenar newydd-anedig yn wahanol o ran patrymau cysgu a chyfradd datblygiad o enedigaeth ar sail unigol, fel y gwelwn mewn babanod newydd-anedig, yn yr astudiaeth gyntaf o'i bath gan Brifysgol y Frenhines Belfast.
-
11 Ebrill 2024SWITCH-On Skills: Hyfforddiant am ddim i wella sgiliau'r gweithlu dur er mwyn trawsnewid i sero net
Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig platfform hyfforddiant ar-lein am ddim i wella sgiliau'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y diwydiant dur. Gall pobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fanteisio ar y cyrsiau.
-
10 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n un o'r prifysgolion gorau yn y byd ar gyfer 25 o bynciau
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed mewn tabl flaenllaw o'r prifysgolion gorau'n fyd-eang yn ôl pwnc am y trydydd flwyddyn yn olynol.
-
9 Ebrill 2024Abertawe'n croesawu arweinwyr prifysgolion o bob rhan o Ewrop i gynhadledd ryngwladol o bwys
Bydd arweinwyr prifysgolion o wledydd ym mhob rhan o Ewrop yn dod ynghyd yn Abertawe o 11 tan 12 Ebrill am gynhadledd flynyddol Cymdeithas Prifysgolion Ewrop.
-
9 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n cefnogi rhaglen addysg arloesol ynghylch newid yn yr hinsawdd
Mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad allweddol at helpu Abertawe i gyflwyno ‘coed hylifol’ i bob ysgol gynradd – y ddinas gyntaf yn y DU i wneud hynny – gan addysgu disgyblion ynghylch newid yn yr hinsawdd a chreu amgylchedd dysgu iachach.
-
8 Ebrill 2024Graddedigion awtistig 'yn un o'r grwpiau lleiaf tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig'
Mae ymchwil newydd yn dangos y gallai dyblu'r gyfradd cyflogi pobl awtistig - sydd ar hyn o bryd tua hanner cyfradd cyflogaeth pobl niwronodweddiadol - hybu'r economi o hyd at £1.5 biliwn.
-
4 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n ennill £2m i ymchwilio i famau yng Nghymru a newid yn yr hinsawdd
Dyfarnwyd mwy na £2m o gyllid ymchwil i Brifysgol Abertawe i ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd ar fenywod beichiog.
-
4 Ebrill 2024Syniad dyfeiswyr sy'n astudio yn Abertawe am ddŵr yfed diogel yn cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth ddylunio ryngwladol
Cyrhaeddodd tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi llunio system hidlo i wneud dŵr afonydd yn ddiogel i'w yfed rownd gynderfynol Ewropeaidd cystadleuaeth ddylunio fyd-eang.
-
4 Ebrill 2024Technocamps yn rhoi sylw i fenywod sy'n ysbrydoli mewn digwyddiad blynyddol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Roedd y sbotolau ar fenywod sy'n ysbrydoli mewn cinio mawreddog yn Abertawe a drefnwyd gan Technocamps, rhaglen sgiliau Cymru gyfan, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024.
-
3 Ebrill 2024Astudiaeth yn amlygu’r sgiliau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â chyflyrau niwroddatblygiadol
Yn ôl ymchwil newydd, dylid dathlu'r amrywiaeth eang o sgiliau sy'n cael eu harddangos gan bobl sydd â chyflyrau megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyslecsia ac awtistiaeth, er mwyn helpu i leihau stigma a newid disgwyliadau cymdeithas.
-
27 Mawrth 2024Prifysgol Abertawe'n datblygu arweinwyr gofal iechyd y dyfodol
Mae Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr (SLA) Prifysgol Abertawe wedi croesawu grŵp newydd o fyfyrwyr gofal iechyd i'w rhaglen arweinyddiaeth, gan gefnogi eu gallu i ddarparu gofal o safon i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol.
-
26 Mawrth 2024Arolwg yn datgelu lefelau o ddiogelwch haul ffurfiol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
Gallai ysgolion cynradd yng Nghymru wneud mwy i helpu i ddiogelu pobl ifanc rhag peryglon dod i gysylltiad â'r haul, yn ôl astudiaeth newydd.
-
25 Mawrth 2024Penodi academydd o Brifysgol Abertawe'n Gadeirydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Annibynnol newydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS.
-
22 Mawrth 2024Academyddion o Abertawe'n cael grant Horizon Ewrop gwerth €480,000 i gefnogi prosiect ymchwil ac arloesi newydd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn grant newydd gan Horizon Ewrop i roi'r genhedlaeth nesaf o asesiadau peryglon a risgiau cemegolion a deunyddiau newydd ar waith, gan leihau'r angen am brofi ar anifeiliaid wrth ddiogelu iechyd dynol.
-
21 Mawrth 2024Oriel Science Prifysgol Abertawe'n dathlu prosiect arloesol ar y cyd ym maes Rhagnodi Cymdeithasol
Mae Oriel Science, canolfan arddangosiadau cyhoeddus arloesol Prifysgol Abertawe, wedi bod yn helpu cleifion ag anaf i'r ymennydd sy'n cael triniaeth adsefydlu i wella eu hiechyd a'u lles drwy ei phrosiect Rhagnodi Cymdeithasol cyntaf.
-
21 Mawrth 2024Cyhoeddwyr annibynnol yn achub y blaen ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2024
Mae'r rhestr fer ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei datgelu. Mae’n cynnwys chwe llais eithriadol, datblygol sy'n defnyddio dyfeisgarwch ffurfiol wrth ysgrifennu er mwyn archwilio themâu tragwyddol galar, hunaniaeth a theulu.
-
19 Mawrth 2024Abertawe'n croesawu ymweliad gan uwch-arweinwyr o brifysgol bartner yng Nghanada
Mae arweinwyr o un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Canada, sydd wedi bod yn cyfnewid myfyrwyr ag Abertawe fel rhan o bartneriaeth ffyniannus am dros 30 o flynyddoedd, wedi bod yn ymweld â'r campws i ddatblygu cysylltiadau pellach.
-
19 Mawrth 2024Astudiaeth newydd yn rhoi cipolwg ar y nifer sydd wedi manteisio ar frechlynnau Covid ymhlith plant a phobl ifanc
Roedd nifer y bobl sydd wedi cael brechlyn Covid-19 ymhlith plant a phobl ifanc yn isel ar draws y pedair gwlad, o'i gymharu â grwpiau oedran eraill, yn ôl yr astudiaeth ymchwil gyntaf i ystyried data gan bedair gwlad y DU.
-
18 Mawrth 2024Cyhoeddi prosiect mawr i ailddatblygu adeilad eiconig Tŷ Fulton
Mae adeilad eiconig Tŷ Fulton ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe'n mynd i gael ei ailddatblygu a'i adnewyddu yn sgîl cyhoeddi prosiect buddsoddiad mawr i adfer yr adeilad hanesyddol er mwyn creu canolfan gymdeithasol fywiog, gan adlewyrchu ei ddiben gwreiddiol pan gafodd ei agor ym 1961.
-
18 Mawrth 2024Abertawe yn yr 11eg safle yn y DU am brofiad gwaith i fyfyrwyr
Mae Prifysgol Abertawe yn yr 11eg safle yn y DU yn Nhabl Prifysgolion Gorau am Brofiad Gwaith RateMyPlacement 2024/25, gan roi llwyfan i'r 50 prifysgol orau yn y DU sy'n adnabyddus am eu hymrwymiad i gynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr.
-
14 Mawrth 2024Astudiaeth yn dangos bod cawodydd mwy pwerus yn well i'r amgylchedd
Gallai mwynhau cawod fwy pwerus yn y bore eich helpu i leihau allyriadau carbon eich aelwyd, yn ôl ymchwilwyr.
-
14 Mawrth 2024Gwaith adnewyddu gwerth £1.2m ar labordai yn rhoi hwb mawr i ymchwil i'r biowyddorau a daearyddiaeth
Bydd gwaith adnewyddu gwerth £1.2m ar labordai ym Mhrifysgol Abertawe sydd newydd ei gwblhau'n rhoi hwb enfawr i ymchwil i'r biowyddorau a daearyddiaeth.
-
6 Mawrth 2024Effaith COVID ar bobl ag epilepsi: cyfradd uwch o farwolaethau a chyfnodau yn yr ysbyty, yn ôl ymchwil newydd
Roedd pobl ag epilepsi yn fwy tebygol o dreulio cyfnodau yn yr ysbyty o ganlyniad i COVID ac o farw o COVID yn ystod 15 mis cyntaf y pandemig, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caeredin.
-
5 Mawrth 2024Anne Boden, sefydlydd Starling Bank, yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid benywaidd mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe
Rhannodd Anne Boden, MBE, sefydlydd Starling Bank, sylwadau amhrisiadwy ar oresgyn yr heriau sy'n wynebu entrepreneuriaid benywaidd yn ystod sesiwn ddifyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe ddydd Llun 4 Mawrth.
-
4 Mawrth 2024Academydd o Abertawe wedi'i enwi'n un o gymrodyr yr Academy of Social Sciences
Mae'r Academy of Social Sciences wedi croesawu 41 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i'w chymrodoriaeth uchel ei bri – gan gynnwys yr Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe.
-
1 Mawrth 2024Gwaith celf yr archaeolegydd Howard Carter bellach yn cael ei arddangos yn y Ganolfan Eifftaidd
Mae paentiad prin gan Howard Carter, yr archaeolegydd uchel ei fri a ddarganfu feddrod Tutankhamun, bellach yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe.
-
1 Mawrth 2024Tri academydd o Abertawe'n cael eu henwi’n gymrodyr Turing newydd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol
Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith carfan newydd o 51 o gymrodyr Turing sydd wedi ymuno â Sefydliad Alan Turing o brifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y DU.
-
29 Chwefror 2024Metel sgrap gwell ar gyfer economi wyrddach: arbenigedd Abertawe wrth wraidd canolfan ymchwil newydd a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig
Bydd arbenigedd Abertawe mewn ailgylchu'n well drwy atgyfnerthu ansawdd metel sgrap wrth wraidd canolfan newydd, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn ymchwilio i sut gallwn ailddefnyddio adnoddau amhrisiadwy – o fetelau i fwynau – yn ehangach.
-
29 Chwefror 2024Lansio'r clinig cyntaf yng Nghymru dan arweiniad prifysgol sy'n rhoi cyngor ar anafiadau personol
Mae Clinig y Gyfraith Abertawe wedi lansio'r clinig pwrpasol cyntaf yng Nghymru sy'n rhoi cyngor ar anafiadau personol mewn cydweithrediad â Hodge Jones & Allen, cwmni arobryn o Lundain.
-
27 Chwefror 2024Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe’n llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i’w helpu i weithio’n agosach ar feysydd hanfodol o ddiddordeb cyffredin fel gweithio’n effeithiol gyda diwydiant a chefnogi datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer y rhanbarth.
-
26 Chwefror 2024Astudiaeth newydd yn datgelu pwysigrwydd ecosystemau dŵr dwfn i rywogaethau mewn perygl
Gan ddefnyddio data olrhain, mae astudiaeth newydd wedi datgelu, am y tro cyntaf, fod môr-grwbanod gwalchbig yn bwydo ar safleoedd rîff sy’n llawer dyfnach nag y credid o’r blaen.
-
22 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am waith banc data o bwys byd-eang
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod gwaith ei banc data o fri rhyngwladol, SAIL, yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau wrth ddefnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles poblogaethau.
-
21 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi partneriaeth am sawl blwyddyn â Hoci Cymru
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi partneriaeth arloesol â Hoci Cymru, y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru.
-
19 Chwefror 2024Mae angen cymorth iechyd meddwl ar anweddogion anwirfoddol (‘incels’)l yn hytrach nag ymyrraeth gwrthderfysgaeth, yn ôl astudiaeth fwyaf y byd ohonynt
Mae astudiaeth arloesol wedi darganfod y berthynas gymhleth rhwng iechyd meddwl, meddylfryd byd-eang cyffredin a rhwydweithio cymdeithasol unigolion sy'n anweddog yn anwirfoddol ('incels').
-
15 Chwefror 2024Astudiaeth newydd yn dadansoddi'r cysylltiad rhwng cymhareb bysedd a defnydd o ocsigen mewn pêl-droedwyr
Mae effeithlonrwydd y cyflenwad ocsigen i feinweoedd yn ffactor o ran difrifoldeb afiechydon pwysig fel Covid-19 a chyflyrau'r galon.
-
15 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe yn cyflwyno llety tymor byr ar y safle i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr
Fel rhan o ddarpariaeth gampws Prifysgol Abertawe, mae'n cynnig llety byr dymor ar y safle i staff, myfyrwyr a chydweithwyr sy'n ymweld.
-
14 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i weithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel
Mae cydweithrediad newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n ceisio helpu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel i gynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol ar raddfa fwy.
-
13 Chwefror 2024Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd i Abertawe
Mae disgwyl i dros 500 o fyfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru heidio i Abertawe ar 1-2 Mawrth wrth i’r Eisteddfod Ryng-golegol ail-ymweld â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf ers 2019.
-
9 Chwefror 2024Arbenigwyr yn parhau i weithio i helpu i lywio ffordd iachach o fyw ledled Cymru
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi amlygu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i bobl o bob oedran.
-
8 Chwefror 2024Gwyddonwyr yn arwain y ffordd i ddatblygu cadwraeth ac adnewyddu bywyd y môr hanfodol
Mewn astudiaeth newydd, mae tîm rhyngwladol o academyddion wedi nodi'r cwestiynau pwysicaf y mae'n rhaid eu hateb er mwyn datblygu gwaith cadwraeth ac adfer dolydd morwellt yn Ewrop.
-
7 Chwefror 2024Gallai pwerau prawf datganoledig a 'dull cryfach seiliedig ar dystiolaeth' wella diogelwch cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol
Mae grŵp o academyddion o brifysgolion Cymru, ynghyd â swyddogion prawf presennol a chyn-swyddogion prawf, wedi cyhoeddi syniadau ar ddyfodol y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru.
-
7 Chwefror 2024Athro'n derbyn £2.2m i archwilio dyfodol digidol i bawb
Mae'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) wedi dyfarnu cymrodoriaeth bersonol uchel ei bri dros bum mlynedd i'r Athro Matt Jones o Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe i ddilyn agenda fentrus ac uchelgeisiol i ymchwilio i ddeallusrwydd artiffisial.
-
5 Chwefror 2024Prosiect cwiltiau arloesol yn dod â mamau newydd at ei gilydd i rannu profiadau bwydo
Mae prosiect unigryw dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n cofnodi ac yn rhannu teimladau cymhleth mamau newydd am fwydo eu babanod.
-
31 Ionawr 2024Gradd hyblyg newydd i helpu myfyrwyr i gynnwys astudiaethau nyrsio o amgylch eu bywydau
Mae Prifysgol Abertawe'n lansio gradd hyblyg newydd a fydd yn helpu nyrsys y dyfodol i gydbwyso eu hastudiaethau â gofynion eu bywydau bob dydd.
-
30 Ionawr 2024O'r stryd i ystafell y bwrdd: Cwrs newydd i ddysgu sgiliau busnes i bobl ddifreintiedig
Mae Prifysgol Abertawe ar fin cynnal cwrs newydd unigryw gyda'r nod o gael y gorau o bobl ddifreintiedig a'u hysbrydoli i ddilyn llwybr gwahanol mewn bywyd.
-
29 Ionawr 2024Myfyriwr sy'n gwirfoddoli fel arweinydd sgowtiaid lleol yn cael ei hanrhydeddu â Gwobr Gymdogol
Mae myfyriwr sy'n gwirfoddoli gyda grŵp sgowtiaid lleol yn Abertawe wedi derbyn Gwobr Gymdogol am ei chyfraniad i'r gymuned, ar ôl cael ei henwebu gan arweinydd y sgowtiaid.
-
25 Ionawr 2024Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe'n datgelu rhestr hir ryngwladol 2024
Mae'r rhestr hir ryngwladol ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi.
-
24 Ionawr 2024Llyfryn newydd yn codi pryderon ynghylch bygythiad cyfrifiadurol i ddiogelwch cleifion
Ar ôl i sgandal Horizon Swyddfa'r Post amlygu natur annibynadwy tystiolaeth gyfrifiadurol, mae llyfryn newydd wedi cael ei gyhoeddi sy'n rhybuddio am faterion TG a allai fod yn niweidiol ym maes gofal iechyd.
-
23 Ionawr 2024StreetSnap: Lansio ap cyntaf o'i fath i feithrin gwydnwch y gymuned i gasineb
Mae'r gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw o Brifysgol Abertawe Dr Lella Nouri a'i thîm wedi datblygu ap newydd sy'n chwyldroi'r ffordd y gall cymunedau olrhain ac adrodd am graffiti casineb gyda'r nod o ddeall tensiynau mewn cymuned a llunio rhaglenni ymyrraeth er mwyn rhoi diwedd ar y problemau.
-
18 Ionawr 2024Arbenigwr i ymchwilio i hanes brechiadau yn erbyn TB fel rhan o brosiect ymchwil gofal iechyd mawr
Bydd hanesydd o Brifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect sydd am ddefnyddio arbenigedd yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol er mwyn helpu i gynnwys lleisiau cleifion mewn ymchwil ac ymarfer gofal iechyd.
-
17 Ionawr 2024Arbenigwr o Abertawe wedi'i benodi'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Mae Llywodraeth y DU wedi penodi arbenigwr mewn polisi digidol o Abertawe'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, er mwyn rhoi arweinyddiaeth wyddonol, goruchwylio blaenoriaethau ymchwil a chynghori gweinidogion a swyddogion.
-
17 Ionawr 2024Mynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein: arbenigwyr o Abertawe'n ysgrifennu adroddiad newydd ar y cyd am botensial a pheryglon deallusrwydd artiffisial
Gall deallusrwydd artiffisial wneud cyfraniad hollbwysig at nodi cynnwys terfysgol ar-lein, ond mae mewnbwn gan bobl yn dal i fod yn hanfodol er mwyn diogelu hawliau dynol ac atal grwpiau cyfreithlon rhag cael eu targedu ar gam, yn ôl adroddiad newydd gan dîm sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
10 Ionawr 2024Cyllid newydd i helpu busnesau Abertawe adeiladu dyfodol glanach
Gall busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yn Abertawe gael mynediad at gymorth sydd wedi'i ariannu'n llawn ac sydd wedi’i fwriadu i'w helpu i sbarduno arloesedd a hybu cynaliadwyedd o fis Chwefror 2024 ymlaen, diolch i gyllid newydd sydd wedi’i sicrhau gan Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC).