Campws Singleton a Champws y Bae

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed mewn tabl flaenllaw o'r prifysgolion gorau'n fyd-eang yn ôl pwnc am y trydydd flwyddyn yn olynol.

Mae rhifyn 2024 o Dablau Prifysgolion y Byd QS yn ôl pwnc, a gyhoeddwyd gan y dadansoddydd addysg uwch byd-eang, QS Quacquarelli Symonds, yn darparu dadansoddiad cymharol annibynnol ar berfformiad dros 16,400 o raglenni prifysgol unigol, sydd wedi'u dilyn gan fyfyrwyr mewn mwy na 1,500 o brifysgolion mewn 96 o leoliadau ledled y byd, ar draws 55 o ddisgyblaethau academaidd a phum maes cyfadran eang.

Yn ôl y tablau diweddaraf, mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni'r canlynol:

  • Cynyddu nifer y pynciau penodol sydd wedi cyrraedd rhestr y pynciau gorau yn y byd o 23 i 25, gan gynnwys ychwanegu Nyrsio a Marchnata.
  • Cynyddu nifer ei phynciau sydd ymysg y 100 o bynciau gorau o bedwar i chwech, gyda 10 ohonynt yn ymddangos ymysg y 200 o bynciau gorau'n gyffredinol.
  • Mae pedwar o'i phynciau wedi cyrraedd rhestr y pynciau gorau yn y byd - Nyrsio, Cyllid a Chyfrifeg, Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu a Marchnata.

Yn nhablau QS, mae prifysgolion yn cael eu cymharu ar draws amrywiaeth o fetrigau sydd wedi'u llunio i fesur eu perfformiad yn erbyn rhagoriaeth ymchwil (enw da am ymchwil ac effaith dyfyniadau ymchwil) a hoffterau cyflogwyr o ran recriwtio myfyrwyr graddedig.

Mae'r pynciau o Brifysgol Abertawe sy'n ymddangos yn rhestr y 200 o bynciau gorau'n fyd-eang bellach yn cynnwys:

  • Marchnata 21-50
  • Pynciau sy'n gysylltiedig â chwaraeon 51-100
  • Y Clasuron a Hanes yr Hen-fyd 51-100
  • Astudiaethau Busnes a Rheoli 78
  • Gwyddor Deunyddiau 97
  • Peirianneg - Mecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu 97
  • Iaith Saesneg a Llenyddiaeth 101-150
  • Y Gyfraith 101-150
  • Nyrsio 151-200
  • Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth 198

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe (Rhyngwladol), “Mae'r safleoedd diweddaraf hyn yn nhablau pynciau QS yn ailddatgan ein safle fel sefydliad byd-eang o fri sy'n cwmpasu disgyblaethau amrywiol, gan gydnabod yr ymchwil a'r dylanwad rhagorol y mae ein staff yn eu cyfrannu ym Mhrifysgol Abertawe.

“Rydym yn falch bod sawl un o'n rhaglenni unwaith eto wedi cael eu cydnabod fel rhai o'r goreuon yn fyd-eang, ac mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu ymroddiad parhaus ein cydweithwyr wrth ein helpu ni i gyflawni'r llwyddiannau hyn, gan ategu ein hymrwymiad i gyflawni ymchwil ac addysg arloesol.”

Meddai Uwch Is-lywydd QS, Ben Sowter, “Mae dadansoddiad QS o dueddiadau perfformiad ar draws bron 16,000 o adrannau prifysgolion yn fyd-eang yn parhau i daflu goleuni ar ffactorau sy'n dylanwadu ar ansawdd sefydliadau addysg uwch yn fyd-eang. Mae cynnal safbwynt rhyngwladol yn hollbwysig o hyd, a dangosir hyn drwy ein hamrywiaeth o fyfyrwyr, staff a pherthnasoedd ymchwil. Yn ogystal, mae prifysgolion sydd wedi bod yn gwella eu safleoedd yn y tablau wedi elwa o fuddsoddiad pwrpasol a chyson, sy'n amlygu pwysigrwydd cymorth gan y llywodraeth. Yn y cyfamser, mae meithrin partneriaethau â'r diwydiant yn gydberthynol â pherfformiad gwell o ran cyflogaeth ac ymchwil."

Rhannu'r stori