Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2023
  • Astudio
    • Clirio 2023
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Drws i ddyfodol disglair

      Darganfod mwy
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  • Clirio
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2023

Newyddion Diweddaraf 2023

Tudalennau cysylltiedig
  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
        • Medi
        • Awst
        • Gorffennaf
        • Mehefin
        • Mai
        • Ebrill
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2022
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff

Gweld ein Straeon diweddaraf

  • 21 Medi 2023
    Matthew G Rees yn ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023

    Mae'r awdur Matthew G Rees wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023 am ei stori Harvest.

  • 18 Medi 2023
    Disgyblion o Abertawe’n cael cipolwg ar ochr wyddonol Cwpan Rygbi’r Byd

    Mae disgyblion ysgol wedi cael cipolwg unigryw ar ochr wyddonol Cwpan Rygbi'r Byd mewn digwyddiad allgymorth arbennig a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe. 

  • 14 Medi 2023
    Abertawe i arwain y ffordd yn y DU wrth arloesi cynhyrchion naturiol

    Bydd Abertawe yn arwain y ffordd yn y DU yn y sector ymchwil a menter o ran cynhyrchion naturiol, gan fod y Brifysgol wedi llwyddo mewn cais am gyllid gwerth £587,000 i greu canolfan newydd a adwaenir fel y BioHYB. 

  • 14 Medi 2023
    Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe'n estyn eu partneriaeth

    Mae'n bleser gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe gyhoeddi estyniad i'w bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe am sawl blwyddyn arall.

  • 13 Medi 2023
    Dathlu 25 mlynedd o'r Ganolfan Eifftaidd

    Mae Canolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe'n gwahodd gwirfoddolwyr o’r gorffennol a’r presennol i helpu i ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.

  • 8 Medi 2023
    Galwad am welliannau brys ar ôl i astudiaeth ddatgelu diffygion yn y Pasbort Iechyd Awtistiaeth

    Mae ymchwilwyr wrthi'n galw am ymagweddau newydd at leihau anghydraddoldebau gofal iechyd ar gyfer pobl awtistig pan fydd angen triniaeth feddygol arnynt ar ôl i ddiffygion difrifol ddod i'r amlwg yn y pasbortau iechyd a argymhellir gan NICE.

  • 31 Awst 2023
    Un o raddedigion Abertawe'n ennill gwobr fyd-eang uchel ei bri i gyn-fyfyrwyr yn y DU

    Mae Oluwaseun Ayodeji Osowobi, a raddiodd o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y Wobr Fyd-eang yn y categori Effaith Gymdeithasol yng ngwobrau uchel eu bri Study UK y British Council i gyn-fyfyrwyr eleni.

  • 30 Awst 2023
    Cyhoeddi rhestr o awduron arobryn ar gyfer Gŵyl Llên Plant Abertawe

    Mae rhestr o’r awduron sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Llên Plant Abertawe a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn ystod penwythnos 7-8 Hydref, wedi’i chyhoeddi.

  • 29 Awst 2023
    Prosiect clirio yn sicrhau bod pentref y myfyrwyr yn gadael etifeddiaeth werdd ar ei ôl

    Bu Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn gartref i filoedd o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am fwy na hanner canrif cyn i'r safle gau am y tro olaf yn gynharach eleni.

  • 22 Awst 2023
    Myfyriwr Graddedig Affganaidd yn goresgyn Cynnwrf y Taliban, gan ganfod gobaith a llwyddiant ym Mhrifysgol Abertawe

    Mae myfyriwr graddedig rhagorol o Brifysgol Abertawe'n dechrau ar bennod nesaf ei bywyd ddwy flynedd ar ôl gorfod ffoi o'i chartref yn Affganistan i ddianc rhag y Taliban.

  • 21 Awst 2023
    Datgelu cyfrinachau arferion teithio anifeiliaid: sut mae nodweddion rhywogaethau wedi dylanwadu ar eu teithiau ar draws y byd

    Mae gallu anifeiliaid i deithio ar draws rhwystrau mawr, megis cefnforoedd neu gadwyni mynyddoedd, wedi bod o ddiddordeb mawr i wyddonwyr ers amser maith oherwydd ei ddylanwad ar fioamrywiaeth y Ddaear. Mae astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu gwybodaeth sy'n torri tir newydd am y broses hon, gan ddangos sut mae nodweddion, megis maint corff a hanes bywyd, yn gallu dylanwadu ar ymlediad anifeiliaid dros y byd.

  • 21 Awst 2023
    Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn fwy tebygol o fod wedi cael y brechiadau diweddaraf

    Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod cyfraddau brechu cyffredinol plant sy'n derbyn gwasanaethau dan gynllun gofal a chymorth yn uwch, a bod mwy ohonynt wedi cael y brechiadau diweddaraf, na phlant yn y boblogaeth yn gyffredinol yng Nghymru.

  • 18 Awst 2023
    Dadorchuddio cerflun newydd yn Nhwyni Crymlyn sy’n dathlu bioamrywiaeth a'r gymuned leol

    Mae cerflun newydd wedi'i osod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, sy'n gartref i Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, i ddathlu bywyd gwyllt ac amrywiaeth y safle arfordirol gwarchodedig a'i bwysigrwydd i'r gymuned leol.

  • 17 Awst 2023
    Cydweithio'n helpu Prifysgol Abertawe i ennill dyfarniad Masnach Deg

    Mae staff Prifysgol Abertawe yn dathlu ar ôl ennill  Dyfarniad Prifysgol Masnach Deg am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

  • 16 Awst 2023
    Grant gan Sefydliad Wolfson yn hybu ymchwil a datblygu ym maes lled-ddargludyddion

    Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant uchel ei fri gan Sefydliad Wolfson a fydd yn rhoi hwb sylweddol i'w Chanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) wrth greu'r technolegau lled-ddargludol a ddefnyddir mewn bron pob dyfais dechnolegol soffistigedig fodern.

  • 14 Awst 2023
    Dr Rhian Hedd Meara yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Mae Dr Rhian Hedd Meara, Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, am ei hymroddiad wrth ddatblygu elfen sylweddol o'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes Daearyddiaeth yn y brifysgol.

  • 14 Awst 2023
    Gwarchod rhag COVID-19: archwilio'r polisi

    Mae astudiaeth newydd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi archwilio'r rhesymeg dros greu’r polisi i warchod pobl agored i niwed yn glinigol rhag COVID-19. Mae wedi canfod bod llunwyr y polisi wedi bwriadu iddo wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ond nad oeddent yn gwybod i ba raddau y byddai'n llwyddo na pha effeithiau eraill y byddai'n eu cael.

  • 14 Awst 2023
    Yr Athro Alan Llwyd yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol

    Alan Llwyd, Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

  • 11 Awst 2023
    Tîm meddygol o Brifysgol Abertawe’n rhannu ei arbenigedd mewn efelychu clinigol â Zambia

    Mae tîm o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ymweld â Zambia er mwyn hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd sy'n addysgu yn y wlad honno i ddefnyddio efelychu clinigol, sy'n galluogi myfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd heb roi cleifion mewn perygl. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i'r tîm ddysgu gan eu cydweithwyr yn Zambia a thrafod partneriaethau ymchwil a chyfleoedd i fyfyrwyr yn y dyfodol.

  • 10 Awst 2023
    Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gweithgynhyrchu yn ne Cymru

    Cafodd disgyblion ysgol lleol gyfle'n ddiweddar i ddysgu am gynaliadwyedd a gweithgynhyrchu yn ne Cymru mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 9 Awst 2023
    Arbenigwyr Rhith-realiti yn ymuno i greu hyfforddiant iechyd arloesol

    Mae cwmni rhith-realiti o Gymru wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu hyfforddiant gofal iechyd arloesol.

  • 8 Awst 2023
    Cloc ffynnon atomig yn ceisio datrys dirgelion gwrthfater

    Gallai dyfais sy'n cynhyrchu ffynnon o atomau cesiwm hybu dealltwriaeth o'r bydysawd drwy fesur amledd y golau sy'n cael ei amsugno gan wrthfater.

  • 2 Awst 2023
    Astudiaeth newydd yn dangos cynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn ystod y pandemig

    Dangosodd astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe y bu cynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn ystod y pandemig.

  • 1 Awst 2023
    Baneri gwyrdd yn chwifio eto ym Mhrifysgol Abertawe

    Mae Prifysgol Abertawe'n parhau i arwain y ffordd o ran pwysigrwydd mannau gwyrdd yng Nghymru.

  • 1 Awst 2023
    Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn cael cipolwg ar ymchwil ddiweddaraf Prifysgol Abertawe

    Cafodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru gipolwg ar feysydd ymchwil gwahanol sydd ar y gweill ym Mhrifysgol Abertawe, gan amrywio o feddygaeth i led-ddargludyddion, yn ystod ymweliad diweddar â'r Brifysgol.

  • 1 Awst 2023
    Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

    Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd rhwng 5-12 Awst 2023.

  • 1 Awst 2023
    Myfyrwraig o Abertawe'n ennill Gwobr Myfyriwr Gorau uchel ei bri'r Cyngor Pwyllgorau Addysg Filwrol

    Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Myfyriwr Gorau uchel ei bri'r Cyngor Pwyllgorau Addysg Filwrol (COMEC).

  • 28 Gorffennaf 2023
    Llwyddiant academaidd i fyfyrwraig sydd am gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf

    Mae myfyrwraig sy'n gobeithio cystadlu yn y rasys bobsled am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2026 yn dathlu cwblhau ei hastudiaethau israddedig mewn Eifftoleg a Gwareiddiad Clasurol ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 28 Gorffennaf 2023
    Astudiaeth newydd yn dangos pŵer cysylltu data'r heddlu â data gofal iechyd i nodi pobl sy'n agored i niwed

    Mae cysylltu data'r heddlu â data gofal iechyd wedi datgelu bod modd canfod pobl sy'n agored iawn i niwed cyn i'r heddlu ymwneud â hwy. Nawr, mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n datgan y gallai rhannu a chysylltu data helpu i leihau nifer y galwadau ar yr heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.

  • 19 Gorffennaf 2023
    Arweinwyr o brifysgol bartner yn Wcráin yn ymweld ag Abertawe i gryfhau cysylltiadau addysgu ac ymchwil

    Mae pedwar uwch-arweinydd o brifysgol bartner Abertawe yn Wcráin yn ymweld â Chymru er mwyn helpu i gryfhau'r cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad o ran ymchwil, addysgu a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr.

  • 18 Gorffennaf 2023
    Gall hyfforddi staff ar ymyriadau seicolegol dwysedd isel ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl leihau salwch yn y man gwaith

    Gall gwella dealltwriaeth gweithlu o strategaethau triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl leihau salwch staff yn sylweddol yn ogystal ag annog pobl i ofyn am gymorth, yn ôl ymchwil newydd.

  • 13 Gorffennaf 2023
    Y Brifysgol yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cyfamod i gydnabod y gwerth y mae'r rhai hynny sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, boed yn aelodau rheolaidd neu’n aelodau wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn ei gyfrannu at y brifysgol a'r wlad.

  • 7 Gorffennaf 2023
    Ymweliad gan ddisgyblion yn helpu i hybu dealltwriaeth o'r argyfwng hinsawdd

    Cafodd mwy na 250 o bobl ifanc gyfle i ddarganfod mwy am ganlyniadau go iawn newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau sy'n wynebu amgylchiadau heriol yn ystod digwyddiad arbennig a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe.

  • 7 Gorffennaf 2023
    Oriel Science Prifysgol Abertawe yn dadorchuddio arddangosfa newydd drawiadol: IMAGING

    Mae Oriel Science yn falch o gyhoeddi lansiad ei harddangosfa ddiweddaraf, IMAGING sy'n addo rhoi golwg unigryw a rhyngweithiol ar sut mae ymchwilwyr uchel eu bri o Brifysgol Abertawe'n delweddu, yn cofnodi ac yn dehongli'r byd y tu mewn i ni ac o'n cwmpas.

  • 7 Gorffennaf 2023
    Clinig y Gyfraith yn cynnig sesiynau cyngor cyfreithiol am ddim i breswylwyr Abertawe ym mis Gorffennaf

    Bydd preswylwyr Abertawe'n gallu elwa o sesiynau cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim ym mis Gorffennaf.

  • 7 Gorffennaf 2023
    Prifysgolion yn ennill £15m ar gyfer Canolfan Ymchwil ac Arloesi Rheilffyrdd newydd yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ne Cymru

    Mae UKRPIF (Cronfa Buddsoddi Partneriaethau Ymchwil y DU) wedi dyfarnu £15m i Brifysgol Birmingham a chonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i sefydlu canolfan ymchwil ac arloesi rheilffyrdd newydd a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang.

  • 5 Gorffennaf 2023
    Y Brifysgol i gynnal canolfan fel rhan o fuddsoddiad gwerth £14m mewn ymchwil i glefydau prin

    Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at blatfform newydd sydd â'r nod o ddod â chryfderau'r DU wrth ymchwilio i glefydau prin ynghyd i feithrin dealltwriaeth a phennu diagnosisau a thriniaethau'n well ac yn gynt.

  • 30 Mehefin 2023
    Cynhadledd AIMLAC yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol

    Daeth myfyrwyr ac ymchwilwyr ynghyd i drafod deallusrwydd artiffisial a'i amrywiaeth eang o ddibenion mewn digwyddiad arbennig a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe.

  • 30 Mehefin 2023
    Ymchwil arloesol yn archwilio sut mae dilyniant caffael afiechyd yn effeithio ar ddisgwyliad oes

    Mae ymchwil newydd, dan arweiniad Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd yn The Lancet Public Health, yn archwilio sut mae clefydau sy'n cydfodoli yn datblygu dros amser a sut maent yn effeithio ar ganlyniadau cleifion ac adnoddau gofal iechyd.

  • 28 Mehefin 2023
    Abertawe'n cyrraedd y safle uchaf erioed yn nhablau prifysgolion y byd

    Mae Prifysgol Abertawe'n dringo 118 o leoedd i gyrraedd y 307 safle ar y cyd, ei safle uchaf erioed, yn y rhifyn diweddaraf o Dablau Prifysgolion y Byd QS 2024.

  • 27 Mehefin 2023
    Ymchwil yn y gymuned: Dadansoddi tueddiadau pleidleisio ac archwilio materion addysg ar gyfer y dyfodol

    Bydd dau academydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn y sgyrsiau arbennig diweddaraf mewn cyfres sydd â nod o gyflwyno ymchwil i'r gymuned.

  • 27 Mehefin 2023
    Prosiect newydd i gynyddu sgiliau sero net yn ne-orllewin Cymru

    Mae Prifysgol Abertawe ar fin gwneud cyfraniad allweddol at lywio'r sgiliau y bydd eu hangen ar y gweithlu i gyflawni sero net, ar ôl sicrhau cyllid gan raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe i sefydlu prosiect Sgiliau Sero Net Cymru (NØW).

  • 26 Mehefin 2023
    Cyfres newydd o'r podlediad ‘Archwilio Problemau Byd-eang’

    Beth yw dyfodol Deallusrwydd Artiffisial a ChatGPT? A all technoleg ddigidol helpu i atal aildroseddu?  A allwn greu systemau sy'n ddiogel ac yn wydn yn wyneb bygythiadau i ddiogelwch?

  • 23 Mehefin 2023
    Mapio'r ddaear o dan y rhewlif sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn Antarctica am y tro cyntaf

    Mae'r ddaear o dan y rhewlif sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn Antarctica wedi'i mapio am y tro cyntaf, gan dîm sy'n cynnwys arbenigwr o Abertawe, gan helpu gwyddonwyr i feithrin dealltwriaeth well o effaith newid yn yr hinsawdd arno.

  • 22 Mehefin 2023
    Deg ymchwilydd wedi'u dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru

    Mae deg ymchwilydd o Brifysgol Abertawe – traean o'r garfan eleni – wedi'u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2023, rhaglen datblygu personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth arobryn ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

  • 22 Mehefin 2023
    Arbenigwr mewn eithafiaeth o Abertawe yn ennill gwobr am ymchwil a gwaith cymunedol i wrthsefyll casineb

    Mae arbenigwr mewn eithafiaeth o Abertawe sydd wedi cyfranogi mewn gweithgarwch cymunedol i wrthsefyll negeseuon casineb wedi ennill gwobr am ei gwaith gan Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig. 

  • 22 Mehefin 2023
    Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi partneriaethau llety myfyrwyr swyddogol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cytuno ar bartneriaeth â dau ddarparwr llety myfyrwyr a adeiladwyd at y diben (PBSA) i gynnig llety o safon uchel i fyfyrwyr yn y ddinas.

  • 22 Mehefin 2023
    Technoleg y gofod i grebachu wrth i derfynau ffiseg cwantwm gael eu profi ar y Ddaear a'r tu hwnt

    Mae consortiwm ledled y DU yn datblygu technolegau i ddefnyddio nanoronynnau fel synwyryddion o'r radd flaenaf ar loerennau'r un maint â blwch esgidiau a elwir yn CubeSats.

  • 20 Mehefin 2023
    Prosiect ymchwil newydd yn archwilio profiadau iechyd meddwl academyddion benywaidd

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n lansio astudiaeth newydd a fydd yn archwilio profiadau academyddion benywaidd o ran gwaith ac iechyd meddwl yn sector addysg uwch y DU.

  • 20 Mehefin 2023
    Abertawe ymysg sefydliadau gorau'r DU am gwmnïau deillio

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei statws ymysg y sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw yn y DU am greu cwmnïau deillio, yn ôl adroddiad newydd gan gwmni dadansoddi data Beauhurst.

  • 19 Mehefin 2023
    Caitlin yn defnyddio ei phrofiad ei hun fel nyrs byddar i helpu eraill

    Byddai dechrau eich swydd gyntaf fel nyrs sydd newydd gymhwyso ychydig cyn i'r pandemig daro yn ddigon o her i unrhyw un.

  • 16 Mehefin 2023
    Tîm o fyfyrwyr yn cyrraedd yr entrychion i ennill cystadleuaeth peirianneg awyrofod

    Cyrhaeddodd tîm o fyfyrwyr o Abertawe yr entrychion i ennill her unigryw â'r nod o ddathlu doniau peirianwyr awyrofod y dyfodol.

  • 15 Mehefin 2023
    Y Brifysgol yn croesawu partneriaid prosiect CutCancer

    Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu cynrychiolwyr o Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) Slofenia fel rhan o brosiect gefeillio CutCancer.

  • 15 Mehefin 2023
    Ymchwil newydd yn dangos manteision addysgu disgyblion am iechyd meddwl yn yr ystafell ddosbarth

    Gall rhoi’r adnoddau a’r hyfforddiant cywir i ysgolion addysgu disgyblion am iechyd meddwl gael effaith gadarnhaol ar lesiant pobl ifanc.

  • 15 Mehefin 2023
    Rhestr fer wedi'i chyhoeddi ar gyfer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023

    Mae cynorthwy-ydd llyfrgell, dau athro Saesneg a myfyriwr prifysgol ymhlith y 12 awdur sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023.

  • 14 Mehefin 2023
    Academydd yn rhan o’r tîm sy'n arwain rhaglen deallusrwydd artiffisial gwerth £31m

    Academydd o Brifysgol Abertawe yn rhan o’r tîm sy'n arwain rhaglen gwerth £31m sydd â'r nod o sicrhau bod deallusrwydd artiffisial y dyfodol yn gyfrifol ac yn ddibynadwy.

  • 13 Mehefin 2023
    Academydd i arddangos ymchwil i adeiladau solar yn Arddangosiad yr Haf yr Academi Brydeinig

    Bydd ffilm sy'n portreadu effeithiau trawsnewidiol adeilad solar mewn pentref yn India, wedi'i datblygu drwy bartneriaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn cael ei harddangos yn Arddangosiad o fri yr Haf yr Academi Brydeinig. 

  • 12 Mehefin 2023
    Dyddiadau yn yr Unol Daleithiau i hyrwyddo llyfr newydd arbenigwr ar freuddwydion

    Mae'r arbenigwr mewn cwsg o Brifysgol Abertawe, Mark Blagrove, yn mynd i Galiffornia ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo ei lyfr newydd.

  • 6 Mehefin 2023
    Ymchwilwyr yn datblygu deunydd storio gwres arloesol newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni gwell

    Mae ymchwilwyr o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC a rhaglen COATED M2A ym Mhrifysgol Abertawe wedi cydweithio â Phrifysgol Caerfaddon i wneud cynnydd arloesol mewn ymchwil i storio thermol, gan ddatblygu deunydd effeithlon newydd sy'n hawdd ei uwchraddio ac y gellir ei fesur a'i siapio i gyd-fynd â chymwysiadau niferus.

  • 6 Mehefin 2023
    Myfyriwr PhD Ysgrifennu Creadigol yn ennill cystadleuaeth 3MT Prifysgol Abertawe

    Mae Eilian Richmond, sy'n astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, wedi ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.

  • 31 Mai 2023
    Tîm yn archwilio’r heriau y mae gofal cymdeithasol ataliol yn eu hwynebu

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn ymchwilio’n fanylach i’r cyfraniad y gall gwaith atal ei wneud at wella gofal cymdeithasol y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

  • 31 Mai 2023
    Gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan Dylan Thomas yn cael ei arddangos ym Mhrifysgol Abertawe

    Mae casgliad o lithograffau gan yr artist uchel ei fri o Gymru Ceri Richards, a ysbrydolwyd gan gerddi Dylan Thomas, yn cael eu harddangos yn barhaol yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

  • 26 Mai 2023
    Olrhain drwy GPS yn datgelu sut rhoddodd babŵn benywaidd y gorau i ddefnyddio mannau trefol ar ôl rhoi genedigaeth

    Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cape Town yn darparu'r dystiolaeth ddogfennol gyntaf o fabŵn benywaidd yn rhoi'r gorau i ddefnyddio mannau trefol ar ôl rhoi genedigaeth: enghraifft arall o'r ffordd y mae anifeiliaid gwyllt yn ymateb i drefoli drwy ymaddasu.

  • 26 Mai 2023
    Prifysgol Abertawe'n lansio Canolfan newydd ar gyfer datblygu ymchwil addysgol

    Mae Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe wedi lansio Canolfan newydd ar gyfer Ymchwil i Ymarfer (CRIP) a fydd yn helpu addysgwyr i wella eu harferion addysgu.

  • 25 Mai 2023
    Tri academydd yn rhan o grŵp o arbenigwyr sy'n ceisio cyflawni targed sero net Cymru ynghynt

    Mae academyddion o Abertawe yn chwarae rhan allweddol wrth archwilio sut y gall Cymru gyflymu'r broses o newid i sero net a helpu i ddiwygio ei tharged i 2035 o 2050.

  • 24 Mai 2023
    Astudiaeth newydd: gallai cyffur ar gyfer diabetes math 2 drin anhwylderau awtoimiwnedd

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi canfod y gall cyffur a ddefnyddir yn gyffredin i drin diabetes helpu i drin anhwylderau awtoimiwnedd o bosib.

  • 17 Mai 2023
    Y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyrraedd carreg filltir bwysig o ran lleihau gwastraff

    Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd a lleihau gwastraff wedi cael ei gydnabod gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

  • 16 Mai 2023
    Cenhadaeth tîm arbenigol i helpu pobl â diabetes ar ynys Bermuda

    Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol y Frenhines, Belfast wedi helpu i ddarparu gofal llygaid sy'n newid bywydau pobl â diabetes ar ynys Bermuda.

  • 12 Mai 2023
    Adnodd dysgu arloesol yn helpu academydd i ennill gwobr addysgu o fri

    Mae'r academydd Tom Wilkinson wedi cael ei anrhydeddu am helpu i ddatblygu ffyrdd o addysgu imiwnoleg a wnaeth ysbrydoli myfyrwyr yn ystod Covid.

  • 11 Mai 2023
    ARINZE IFEAKANDU YN ENNILL GWOBR DYLAN THOMAS PRIFYSGOL ABERTAWE 2023 AR GYFER EI LYFR, GOD’S CHILDREN ARE LITTLE BROKEN THINGS

    Mae Arinze Ifeakandu, awdur o Nigeria, wedi ennill un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei lyfr cyntaf gwefreiddiol, God’s Children Are Little Broken Things, casgliad nodedig o ffuglen fer, y mae ei naw stori yn mudlosgi ag unigrwydd a chariad, ac yn darlunio goblygiadau bod yn hoyw yn Nigeria heddiw.

  • 11 Mai 2023
    Sesiwn Codi Sbwriel Prifysgol Abertawe i nodi coroni'r Brenin

    Cyfrannodd dwsinau o aelodau staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe at sesiwn codi sbwriel leol mewn sawl lleoliad ar 10 Mai fel rhan o The Big Help Out i nodi coroni'r Brenin.

  • 11 Mai 2023
    Arwr rygbi Cymru, Ryan Jones yw llysgennad Hanner Marathon Abertawe Prifysgol Abertawe

    Enwyd Ryan Jones, cyn-gapten Camp Lawn Cymru, yn llysgennad swyddogol Hanner Marathon Prifysgol Abertawe, a gynhelir ar 11 Mehefin 2023.

  • 10 Mai 2023
    Y Pwynt Tyngedfennol: Lle nesaf i iechyd a gofal?

    Comisiwn Bevan yn cynnal cynhadledd bwysig

    Wedi ei eni o adfeilion byd mewn argyfwng, mae’r GIG yn dyst parhaus i’r pethau anhygoel sy’n digwydd pan mae pobl yn dod ynghyd er lles pawb.

  • 9 Mai 2023
    Myfyrwyr o Wcráin yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi i ddathlu pen-blwydd y bartneriaeth efeillio

    Mae dau fyfyriwr o Wcráin sy'n astudio ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe wedi mynd i dderbyniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan nodi diwedd blwyddyn gyntaf partneriaeth efeillio rhwng prifysgolion yn y DU ac Wcráin.

  • 28 Ebrill 2023
    Canolfan ymchwil Prifysgol Abertawe i arwain partneriaeth newydd gwerth £1.4m

    Mae cydweithrediad ymchwil newydd sydd â'r nod o sbarduno galluoedd a gwella ymchwil i iechyd mamau a babanod wedi derbyn hwb ariannol gwerth £1.4m.

  • 27 Ebrill 2023
    Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Abertawe'n dathlu 10 mlynedd gyda gweithgareddau ar-lein am ddim

    I ddathlu ei 10fed flwyddyn, mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe (S4) yn rhoi mynediad agored at ei holl gynnwys gwyddoniaeth ar-lein i athrawon a dysgwyr yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.

  • 27 Ebrill 2023
    Galw am weithredu i gasglu data am fwydo ar y fron er mwyn mesur effaith meddyginiaethau

    Prin yw'r wybodaeth yn aml i fenywod sy'n defnyddio meddyginiaethau ar bresgripsiwn wrth fwydo ar y fron.

  • 26 Ebrill 2023
    Abertawe yw'r ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru

    Abertawe yw'r ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru, yn ôl astudiaeth gan y Complete University Guide (CUG), sy'n ddibynadwy ac yn annibynnol.

  • 25 Ebrill 2023
    Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n cyhoeddi pedwar Cymrawd Prifysgol Abertawe newydd

    Mae pedwar o academyddion o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • 24 Ebrill 2023
    Cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe'n dathlu entrepreneuriaeth ac arloesedd ymysg myfyrwyr

    Dychwelodd cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi’i noddi gan Brifysgolion Santander, yn ddiweddar, gan gynnig hwb mawr i fyfyrwyr entrepreneuraidd am eu syniadau busnes.

  • 24 Ebrill 2023
    Arbenigwyr yn archwilio sut mae gweithgarwch corfforol yn newid bywydau

    Mae effeithiolrwydd chwaraeon fel ffordd o fynd i'r afael â throseddau ieuenctid wedi cael ei ddadansoddi gan academyddion o Gymru a bydd eu canfyddiadau bellach yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i lywio arweinwyr yr heddlu.

  • 21 Ebrill 2023
    Astudiaeth newydd: Dim tystiolaeth bod gwarchod wedi lleihau heintiadau COVID-19 yng Nghymru

    Ni wnaeth gwarchod leihau heintiadau COVID-19 yng Nghymru: astudiaeth newydd yn cwestiynu buddion y polisi i bobl agored i newid.

  • 18 Ebrill 2023
    Astudiaeth yn dangos sut gall dysgu peirianyddol nodi ymddygiad tacluso cymdeithasol o signalau cyflymu mewn babŵns gwyllt

    Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cape Town wedi olrhain ymddygiad tacluso cymdeithasol mewn babŵns gwyllt gan ddefnyddio mesuryddion cyflymu ar goleri.

  • 14 Ebrill 2023
    Ymchwilwyr yn datgelu sut gall yr economi sylfaenol hybu ffyniant Cymru

    Mae ymchwil newydd sy'n archwilio sut y gellir cefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru yn helpu i lywio polisi'r llywodraeth ar gyfer y dyfodol.

  • 14 Ebrill 2023
    Prifysgol Abertawe'n rhoi iwnifformau nyrsys i sefydliadau meddygol ledled Affrica islaw'r Sahara

    Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi mwy na 600 o iwnifformau myfyrwyr nyrsio amrywiol i sefydliadau difreintiedig yng ngwledydd Affrica islaw'r Sahara, gan helpu i ddiogelu gweithwyr gofal iechyd rhag dal clefydau trosglwyddadwy wrth iddynt ddarparu cymorth meddygol i gleifion sy'n agored i niwed.

  • 13 Ebrill 2023
    Fideo o'r Antarctig i ysgolion ar doddi iâ a lefel y môr yn codi'n ennill gwobr nodedig The Geographical Association (GA)

    Mae ffilm i ddisgyblion ysgol am doddi iâ yn Antarctica a lefel y môr yn codi, a wnaed gan dîm sy’n cynnwys arbenigwr pegynol o Brifysgol Abertawe, wedi ennill Gwobr Arian   nodedig The Geographical Association (GA).

  • 13 Ebrill 2023
    Ymchwil y Brifysgol i ganser y prostad yn cael hwb gwerth £400,000

    Gallai ymchwil gan wyddonwyr o Abertawe sy'n archwilio siwgrau yn y gwaed arwain at brofion mwy effeithiol a diagnosisau cynharach o ran canser y prostad – a fyddai'n achub bywydau dynion di-rif.

  • 12 Ebrill 2023
    Melysydd artiffisial yn gallu lleihau ymateb imiwnyddol llygod i glefydau

    Mae gwyddonwyr yn Sefydliad Francis Crick wedi darganfod bod bwyta llawer o felysydd artiffisial cyffredin, sef sucralose, yn lleihau'r broses o actifadu celloedd T, cydran bwysig o'r system imiwnedd, mewn llygod.

  • 5 Ebrill 2023
    Grant yn hybu cenhadaeth ymchwilydd i archwilio niwed i'r nerfau yn yr ymennydd

    Dr Roberto Angelini yw'r academydd diweddaraf ym Mhrifysgol Abertawe i dderbyn anrhydedd gwobr Academy of Medical Science Springboard.

  • 5 Ebrill 2023
    Astudiaeth newydd yn dangos potensial dysgu peirianyddol i nodi pobl ag arthritis llidiol yn gynnar

    Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut gall dysgu peirianyddol helpu i ganfod yr arthritis llidiol sbondylitis ymasiol (AS) yn gynnar a gweddnewid sut mae meddygon teulu'n nodi pobl ac yn rhoi diagnosis iddynt.

  • 3 Ebrill 2023
    £900,000 o gyllid i ddatblygu hyfforddiant VR ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn y dyfodol

    Mae menter uwch-dechnoleg gan Brifysgol Abertawe i ddatblygu hyfforddiant rhith-wirionedd arbenigol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi sicrhau hwb ariannol mawr.

  • 31 Mawrth 2023
    Y cyflwynydd teledu Owain Wyn Evans yn annog cynulleidfa i fentro

    Mae Owain Wyn Evans, darlledwr ar y teledu a'r radio, wedi annog aelodau cynulleidfa yn Abertawe i fod yn driw iddynt hwy eu hunain a pheidio â bod yn rhy ofnus i fentro.

  • 31 Mawrth 2023
    “Asim Hafeez – O fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i Gyfarwyddwr yn y Swyddfa Gartref”: Gŵr Graddedig uchel ei fri'n rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar y Gwasanaeth Sifil

    Dychwelodd Asim Hafeez, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Strategaeth, Ymgysylltu a Datganoli yn y Swyddfa Gartref, i'w alma mater yn ddiweddar i rannu llwybr trawiadol ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 30 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli 2023

    Mae gwyddoniaeth a chelf breuddwydio, yr argyfwng cyfergydion ym myd chwaraeon a theitl buddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymysg y pynciau a fydd yn difyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 36ed tro rhwng 25 Mai a 4 Mehefin.

  • 29 Mawrth 2023
    Astudiaeth arloesol o effaith technoleg ddigidol ar sgiliau cyfathrebu plant: gwahodd pobl i gyfrannu at arolwg ar-lein

    Mae ymchwilwyr prifysgol yn chwilio am gyfranogwyr i gwblhau arolwg ar-lein a fydd yn cynorthwyo gyda'r astudiaeth fanylaf hyd yn hyn o'r ffordd y mae cysylltiad beunyddiol babanod a phlant ifanc iawn â thechnolegau digidol yn dylanwadu ar sut maent yn siarad ac yn rhyngweithio ag eraill.

  • 29 Mawrth 2023
    Y pwmp sy'n gwneud dŵr llygredig yn ddiogel i'w yfed - syniad dyfeiswyr sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth fyd-eang

    Mae tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi dyfeisio pwmp sy'n gwneud dŵr afonydd llygredig yn ddiogel i'w yfed wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ddylunio fyd-eang, a gynhelir yn Nhecsas ym mis Ebrill.

  • 28 Mawrth 2023
    Tîm rhyngwladol yn defnyddio catalyddion naturiol i ddatblygu ffordd rad o gynhyrchu hydrogen gwyrdd

    Mae arbenigwyr o Abertawe a Grenoble wedi dod at ei gilydd er mwyn datblygu ffordd ymarferol o gynhyrchu hydrogen gwyrdd gan ddefnyddio catalyddion cynaliadwy.

  • 27 Mawrth 2023
    Ffilm yn amlygu gweithredu cymunedol ar adeg argyfwng o ran yr hinsawdd ac ecoleg

    Mae ffilm newydd sy'n amlygu sut mae grŵp cymunedol o ffrindiau a chymdogion yng Nghastell-nedd yn gweithio'n gadarnhaol i liniaru newid yn yr hinsawdd wedi cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf i gyd-fynd ag Awr y Ddaear.

  • 23 Mawrth 2023
    Myfyriwr o Abertawe'n cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i helpu i ddatblygu model arwynebedd tir

    Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i nodi sut gellir gwella un o'i modelau arwynebedd tir, gan hwyluso rhagamcanion mwy cywir o ryngweithiadau rhwng yr hinsawdd a llystyfiant yn y dyfodol.

  • 23 Mawrth 2023
    Llyfrau newydd yn dwyn y sylw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

    Heddiw, cyhoeddir rhestr fer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd sy'n dathlu llenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - gan amlygu ehangder a dyfnder doniau ysgrifennu rhyngwladol newydd.

  • 22 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n sicrhau rhan o £40m o gyllid i hybu buddion ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol

    Mae Prifysgol Abertawe'n un o 32 sefydliad ymchwil ledled y DU a fydd yn elwa o gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) drwy ddyfarniad Cyfrif Cyflymu Effaith gwerth £1.25m dros bum mlynedd.

  • 22 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n parhau i wella ei safle yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed yn un o’r tablau pwysicaf sy’n rhestru prifysgolion y byd fesul pwnc am yr ail flwyddyn yn olynol.

  • 21 Mawrth 2023
    Rhaglen y Brifysgol yn derbyn cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Gemeg America

    Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang am safon uchel yr addysg gemeg y mae'n ei chynnig.

  • 20 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n cyrraedd y rhestr fer am wobr recriwtio gyrfaoedd cynnar o fri

    Mae Rhaglen Cymorth i Raddedigion Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd addysg uwch y flwyddyn yng Ngwobrau Recriwtio Graddedigion Cenedlaethol targetjobs 2023.

  • 20 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni eleni.

  • 17 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Amaeth a Thechnoleg Tokyo i arwain prosiect pwysig i ganfod clefyd Alzheimer yn gynnar

    Dyfarnwyd £1.3 miliwn i wyddonwyr o Sefydliad Arloesol Prifysgol Abertawe ym maes Deunyddiau, Prosesau a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT) ac o Japan, er mwyn datblygu pecyn newydd “profion pwynt gofal” sy’n gallu canfod biofarcwyr Clefyd Alzheimer.

  • 17 Mawrth 2023
    Astudiaeth newydd yn cyfrif cost amgylcheddol rheoli clymog

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi ystyried effaith amgylcheddol dulliau gwahanol o reoli clymog Japan yn y tymor hir.

  • 17 Mawrth 2023
    £1 miliwn ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys arbenigwyr o Abertawe yn mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith cyn-filwyr y lluoedd arfog

    Mae ymchwil i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog wedi derbyn hwb sylweddol gyda thri dyfarniad, cyfanswm o £1 miliwn, ar gyfer prosiectau newydd yn y maes sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 16 Mawrth 2023
    Cydweithrediad yn sicrhau grant gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol i ddatblygu maes newydd sef Deunyddiau ar gyfer Gwytnwch Cymdeithasol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant ymchwil gyda Sefydliad Technoleg Massachusetts a Phrifysgol Cornell noddir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol ar gyfer project ymchwil aml-sefydliadol.

  • 16 Mawrth 2023
    Aelod o Staff Prifysgol Abertawe'n cael ei chydnabod mewn Gwobrau Prentis o Fri

    Mae Katie Harris o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi'n Brentis Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad ar Yrfaoedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe eleni.

  • 15 Mawrth 2023
    Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn dathlu 20 mlynedd o Technocamps

    Cynhaliwyd digwyddiad ITWales, wedi’i drefnu gan Technocamps, i ddathlu menywod ym meysydd STEM ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Arena Abertawe.

  • 15 Mawrth 2023
    Academyddion o Brifysgol Abertawe'n datblygu'r celloedd solar perofsgit cyntaf yn y byd y gellir eu hargraffu'n llwyr o rolyn i rolyn

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau dull inc carbon rhad y gellir ei ehangu sy'n gallu manteisio, am y tro cyntaf, ar botensial celloedd solar perofsgit i gael eu gweithgynhyrchu ar raddfa fawr.

  • 14 Mawrth 2023
    Llyfr newydd yn datgelu sut gall breuddwydion greu cysylltiadau rhwng pobl

    Bydd llyfr newydd gan Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cael ei lansio yn ystod digwyddiad y gwerthwyd pob tocyn ar ei gyfer yn ddiweddarach yr wythnos hon.

  • 13 Mawrth 2023
    Effaith pandemig Covid-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru

    Mae astudiaeth cyswllt data poblogaeth sy’n defnyddio cofnodion iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd yn datgelu bod llai o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o gyflyrau hirdymor na’r disgwyl yn 2020 a 2021.

  • 13 Mawrth 2023
    Cynhadledd sy'n amlygu sut y gall economy gylchol lywio dyfodol Cymru

    Cynhelir Cynhadledd Wanwyn Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) ar ddydd Gwener, 24 Mawrth  yn Stadiwm Swansea.com. Mae'r gynhadledd yn wahoddiad agored i hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o Dde Cymru a thu hwnt i drafod sut y gall ymdrechion cynyddrannol sydd wedi'u cynllunio'n dda gael effaith sylweddol.

  • 10 Mawrth 2023
    Tîm ymchwil yn ymestyn cysylltiadau rhyngwladol i Awstralia

    Mae ymchwilwyr gartref ac oddi cartref wedi dod at ei gilydd ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol newydd gyda'r nod yn y pen draw o wella gofal cleifion.

  • 9 Mawrth 2023
    Tîm rhyngwladol yn archwilio sut gallai seleniwm helpu i ymladd canser yr ofari

    Mae seleniwm yn ficro-faetholyn sy'n chwarae rôl hanfodol mewn iechyd dynol ond mae'n wenwynig mewn lefelau uchel. Fodd bynnag, dengys ymchwil fiofeddygol newydd fod gan seleniwm nodweddion gwrth-ganser pan gaiff ei ddefnyddio mewn dosau uchel.

  • 8 Mawrth 2023
    Ap yn ceisio cyflwyno artist i gynulleidfa newydd ac ehangach

    Mae ap newydd wedi cael ei lansio i geisio dathlu ac amlygu gwaith Gwen John, yr artist o Gymru.

  • 7 Mawrth 2023
    Arbenigwyr o'r Ganolfan Eifftaidd yn barod i ddatgelu hanes arteffactau hynafol

    Mae llu o henebion Eifftaidd wedi cyrraedd Abertawe cyn cael eu harddangos i'r cyhoedd a chael eu hastudio gan arbenigwyr o'r Brifysgol am y tro cyntaf.

  • 6 Mawrth 2023
    Ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella eich iechyd

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella iechyd cyffredinol a gweithrediad y system imiwnedd yn sylweddol a lleihau unigrwydd ac iselder.

  • 1 Mawrth 2023
    Y Brifysgol yn ennill cyllid i hybu sgiliau gweithgynhyrchu batris yng Nghymru

    Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at lywio gweithlu gweithgynhyrchu'r dyfodol yng Nghymru.

  • 1 Mawrth 2023
    Ymchwilwyr i ddatblygu technolegau clyfar cynaliadwy, wedi'u hunan-bweru ar gyfer y genhedlaeth hŷn

    Dyfarnwyd £740,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu technolegau’r "Rhyngrwyd Pethau" digidol, cynaliadwy ac wedi'u hunan-bweru er mwyn mynd i'r afael â hygyrchedd ar gyfer pobl hŷn.

  • 24 Chwefror 2023
    Data olrhain yn dangos sut mae rhywogaethau adar môr yn mabwysiadu strategaethau gwahanol i ymdopi â stormydd eithafol

    Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck yn yr Almaen a Phrifysgol Abertawe wedi datgelu sut mae rhywogaethau adar môr gwahanol yn defnyddio strategaethau gwahanol i ymdopi â seiclonau gyda rhai ohonynt yn hedfan yn uniongyrchol tuag at y storm ac eraill yn defnyddio tactegau osgoi.

  • 24 Chwefror 2023
    Myfyrwyr sy'n ymweld o Wcráin yn cael eu croesawu'n swyddogol i Abertawe

    Cafodd myfyrwyr o Wcráin, gan gynnwys rhai o brifysgol bartner Abertawe yn y wlad, eu croesawu'n swyddogol i Abertawe mewn derbyniad ar y campws, lle cawsant eu hannerch gan yr Is-ganghellor ac Universities UK.

  • 23 Chwefror 2023
    Y Brifysgol yn helpu i greu ap realiti rhithwir newydd i ennyn diddordeb mewn gyrfaoedd lled-ddargludyddion

    Mae Prifysgol Abertawe wedi partneru â chwmni technoleg ymgolli i greu profiad realiti rhithwir newydd â'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfa mewn pynciau STEM. 

  • 20 Chwefror 2023
    Prifysgol Abertawe wedi'i henwi’n brif noddwr newydd Hanner Marathon Abertawe

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb tair blynedd i fod yn brif noddwr ras arobryn Hanner Marathon Abertawe.

  • 17 Chwefror 2023
    Grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn rhannu ag ymchwilwyr brofiadau o fyw drwy Covid

    Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut gwnaeth aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ymdopi â heriau a achoswyd gan bandemig Covid.

  • 16 Chwefror 2023
    Y Brifysgol yn y 12fed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei chanlyniad gorau erioed ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, gan ddringo 14 o safleoedd i rif 12 yn y DU yn gyffredinol.

  • 15 Chwefror 2023
    Prifysgol Abertawe yn cydweithio â Chlwb Pêl Droed Dinas Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i gefnogi Mis y Galon

    Mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn ymuno â Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i ddangos eu cefnogaeth i Fis y Galon ym mis Chwefror.

  • 15 Chwefror 2023
    Tîm o Brifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi cael £2.2m i wella ymchwil i ddementia

    Mae tîm o'r uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau gwerth £2.2 miliwn mewn cymorth gan ADDI (Alzheimer’s Disease Data Initiative) er mwyn helpu i bontio'r bwlch rhwng darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a threialu'n llwyddiannus ffyrdd newydd o drin dementia.

  • 14 Chwefror 2023
    Astudiaeth newydd yn nodi ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phwysau geni isel

    Mae genedigaethau lluosog, cyfnod byr rhwng beichiogrwydd a mamau sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, mewn mwy o berygl o gael babi â phwysau geni isel yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.  

  • 14 Chwefror 2023
    Ymchwil newydd yn dangos yr arweinir postio hun-luniau gan ymddygiad ymosodol

    Dengys ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe fod menywod yn postio hun-luniau sy'n gysylltiedig â strategaethau cyflwyno'ch hunan mewn ffordd fygythiol, sy'n cyd-fynd â lefelau uchel o ymddygiad ymosodol.

  • 13 Chwefror 2023
    Car newydd yn rhoi hwb i gefnogaeth hanfodol canolfan rhoddwyr llaeth i fabanod sâl a chynamserol

    Bydd mwy o fabanod yng Nghymru yn elwa wrth i gerbyd trydan newydd gyrraedd sy’n cefnogi casgliadau llaeth gan roddwyr.

  • 9 Chwefror 2023
    Dur gwyrddach a glanach: technoleg rithwir yn asesu hydrogen fel tanwydd ar gyfer ffwrneisi i dorri allyriadau carbon

    Mae arbenigwyr dur wedi bod yn edrych yn rhithwir y tu mewn i siafft ffwrnes, fel rhan o brosiect newydd i brofi pa mor dda y byddai hydrogen yn gweithio fel adweithydd ar gyfer gwneud dur.  Os bydd newid i hydrogen o danwydd ffosil yn profi i fod yn ddichonadwy, byddai'n torri allyriadau carbon o'r broses gwneud dur yn sylweddol.

  • 31 Ionawr 2023
    Prifysgol Abertawe yw prif noddwr cynhadledd ac arddangosfa yn y ddinas

    Prifysgol Abertawe yw prif noddwr Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023, a fydd yn dychwelyd i Arena Abertawe ddydd Mercher, 29 Mawrth, yn dilyn llwyddiant y gynhadledd y llynedd yn y lleoliad.

  • 30 Ionawr 2023
    Gŵyl Varsity Cymru'n dychwelyd i'r brifddinas wrth iddi gael ei chynnal am y 25ain tro

    Bydd gŵyl Varsity Cymru 2023 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2019 wrth i dimau o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd fynd benben â'i gilydd yn ei 25ain flwyddyn.

  • 27 Ionawr 2023
    Hwb gwerth £100,000 i CADR i gefnogi oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw

    Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £100,000 i roi hwb i dystiolaeth a dealltwriaeth hanfodol am bwysigrwydd creu cymdogaethau priodol, cymdeithasol, cynaliadwy a gwydn yn ogystal ag amgylchoedd ar gyfer oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw.

  • 26 Ionawr 2023
    Pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a straeon pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yn cael lle blaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

    Cyhoeddir rhestr hir ryngwladol un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – heddiw, ddydd Iau 26 Ionawr. Gydag awduron yn hanu o'r DU, Iwerddon, Nigeria, Cenia, Somalia, Libanus ac Awstralia, mae'r rhestr hir eleni o 12 yn cynnwys cynifer o newydd-ddyfodiaid ag enwau cyfarwydd, gyda lleisiau pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a menywod yn cael lle blaenllaw ar y rhestr hir.

  • 25 Ionawr 2023
    Gellid defnyddio ‘patshyn clyfar’ sydd newydd ei ddatblygu i ganfod clefyd Alzheimer

    Mae gwyddonydd amlwg ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘patshyn clyfar’ newydd sy’n gallu canfod biofarcwyr llidhyrwyddol afiechydon niwroddirywiol megis clefydau Parkinson ac Alzheimer trwy ddefnyddio technoleg micronodwyddau.

  • 24 Ionawr 2023
    240 o swyddi a gwaith ymchwil ac arloesi hollbwysig ar ymyl y dibyn heb gamau brys i wneud iawn am golli cyllid yr UE, yn ôl Pennaeth Prifysgol Abertawe

    Mae Pennaeth Prifysgol Abertawe wedi rhybuddio bod dyfodol y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru – gan gynnwys mwy na 240 o swyddi medrus iawn ym Mhrifysgol Abertawe, mewn meysydd hollbwysig o ynni glân i ymchwil feddygol – yn y fantol yn ystod yr wythnosau nesaf, oni bai bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau ar unwaith i wneud iawn am golli cyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).

  • 23 Ionawr 2023
    Adroddiad sero net blaenllaw yn enwi Prifysgol Abertawe

    Prifysgol Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd wedi cael ei henwi yn adroddiad cyntaf The Royal Anniversary Trust, sy'n amlinellu cynllun uchelgeisiol i ddatgarboneiddio'r sector addysg drydyddol.

  • 17 Ionawr 2023
    Gwobr i ymchwilydd o Abertawe am waith sy'n lleihau llygredd afonydd o hen fwynfeydd

    Mae arbenigwr o Abertawe wedi ennill y wobr gyntaf mewn cynhadledd ryngwladol o fri am ei waith sy'n mynd i'r afael â llygredd afonydd o hen fwynfeydd.

  • 17 Ionawr 2023
    Y 'dallbwynt' sy'n ein hatal rhag gweld peryglon gyrru

    Ydy'n dderbyniol niweidio rhywun arall? Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y DU, gall yr ateb ddibynnu ar a oes car yn rhan o'r sefyllfa. Maent wedi dangos bod gan bobl 'ddallbwynt' cyffredin sy'n gallu achosi iddynt ddefnyddio safonau moesol a moesegol wrth feddwl am yrru ceir sy'n wahanol i'r rhai byddent yn eu defnyddio mewn agweddau eraill ar eu bywydau.

  • 16 Ionawr 2023
    Penodiad newydd ar gyfer ymchwilydd yw'r cyntaf i fenywod yng Nghymru

    Mae ymchwilydd arloesol y mae ei waith ar drawma ar y frest wedi cael effaith fyd-eang wedi sgorio apwyntiad cyntaf yng Nghymru.

  • 13 Ionawr 2023
    Cymrawd o Abertawe'n ymuno ag Academi’r Ifanc gyntaf y DU gyfan

    Mae Dr Muhammad Naeem Anwar, o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, ymhlith aelodau cyntaf Academi’r Ifanc newydd y DU – sef rhwydwaith o ymchwilwyr gyrfa gynnar ac ymarferwyr proffesiynol a grëwyd i helpu i fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang a hyrwyddo newid ystyrlon.

  • 13 Ionawr 2023
    Bydd sgrinio pobl ddigartref am hepatitis C yn cyflymu diagnosis a thriniaeth

    Bydd pobl sy'n ddigartref neu mewn cartrefi ansefydlog iawn yn cael cynnig profion llif unffordd ar gyfer hepatitis C, ac yn fuan wedi hynny, profion PCR i gyflymu diagnosis a thriniaeth, a thrwy hynny, caiff y risg o drosglwyddiad ei leihau.

  • 10 Ionawr 2023
    Interniaid ym Mhrifysgol Abertawe'n rhannu safbwyntiau myfyrwyr am uniondeb academaidd

    Mae grŵp o interniaid y gyfraith yn Abertawe wedi bod yn helpu i lywio'r drafodaeth ynghylch uniondeb academaidd drwy rannu eu barn ag ymarferwyr addysg uwch proffesiynol.

  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
        • Medi
        • Awst
        • Gorffennaf
        • Mehefin
        • Mai
        • Ebrill
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2022
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342