Menyw yn cario basged siopa yn eil rhewgell yr archfarchnad

Mae ymchwil newydd sy'n archwilio sut y gellir cefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru yn helpu i lywio polisi'r llywodraeth ar gyfer y dyfodol.

Mae'r economi sylfaenol yn darparu nwyddau a gwasanaethau pob dydd rydym i gyd yn dibynnu arnynt i sicrhau ein hiechyd a'n lles.  Mae gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthwyr ar y stryd fawr i gyd yn enghreifftiau o'r economi sylfaenol.

Cynhaliwyd yr astudiaeth, Astudiaeth Cwmpasu a Dichonoldeb ar gyfer Academi Economi Sylfaenol newydd yng Nghymru, gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Canol Sir Gaerhirfryn. Cafodd ei chanfyddiadau eu cynnwys yn y datganiad cabinet diweddaraf gan Weinidog Economi Cymru, Vaughan Gething.

Mae'r ymchwil sy’n canolbwyntio ar gymorth i'r economi sylfaenol yng Nghymru, yn archwilio sut i wella'n effeithiol allu ymarferwyr gwasanaeth o ran yr economi sylfaenol, a sut i ddysgu gwersi gan fodel clodadwy Preston – sy'n ganllaw ar gyfer creu cyfoeth cymunedol.

Meddai arweinydd y prosiect Dr Gary Walpole, o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe: "Yn hanesyddol, cyflogaeth technoleg isel a chyflogau isel sydd wedi bod yn nodweddiadol o'r economi sylfaenol. Mae'r astudiaeth yn awgrymu y bydd gweithredu egwyddorion yr economi sylfaenol yn galluogi sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i ategu datblygiad rhanbarthol a chenedlaethol (Cymru) y sector hwn a chadw cyfran uwch o gyfoeth yng Nghymru."

Meddai Mr Gething: "Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth well i ni o allu cyfredol  yr economi sylfaenol ar draws y sector cyhoeddus ac agweddau tuag at fabwysiadu'r economi sylfaenol. Mae hyn yn helpu i lunio ein rhaglen galluoedd ar gyfer yr economi sylfaenol i sicrhau ein bod yn darparu'r offer a'r cymorth cywir i ymarferwyr fel y gall sectorau economi sylfaenol cryf a bywiog gael eu meithrin a'u cyrchu, gan wella lles i ddinasyddion Cymru." 

Mae canlyniadau'r astudiaeth bellach wedi'u rhannu â Llywodraeth Cymru, a byddant yn cael eu defnyddio i lywio sut i gefnogi rhanddeiliaid a'r math o ymyriadau y mae eu hangen wrth symud ymlaen. 

Darllenwch y datganiad cabinet ysgrifenedig a'r astudiaeth lawn

 

Rhannu'r stori