Mae ein harbenigwyr academaidd yn ymdrin ag ystod eang o faterion yr hinsawdd, o danau gwyllt byd-eang ac effeithiau newid amgylcheddol ar goedwigoedd i liniaru newid yn yr hinsawdd, addysg a net sero.
Mae ganddynt brofiad sylweddol o weithio gyda'r cyfryngau, a gallant ddarparu sylwadau clir, gwybodus ar yr heriau o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd.
Darllenwch y proffiliau isod i ddod o hyd i'r arbenigwr sydd fwyaf addas ar gyfer eich stori. Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r arbenigedd rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg drwy ebost, neu ffoniwch 01792 295050 a byddwn yn hapus i'ch helpu.