Trosolwg
Mae Dr Rudd yn newid yn araf o fod yn wyddonydd technegol i fod yn wyddonydd cymdeithasol. Ar ôl degawd o ymchwilio i atebion technolegol i newid yn yr hinsawdd ar ddau gyfandir, fe’i syfrdanwyd yn 2018 i sylweddoli bod lledaenu’r neges am newid yn yr hinsawdd a’i atebion yn bwysicach o lawer nag unrhyw ddarganfyddiad y gallai hi obeithio ei wneud yn y labordy. Mae Dr Rudd yn gyfarwydd â’r economi gylchol o safbwynt cemegol drwy ei gwaith ar baneli solar, yr economi hydrogen a throi carbon deuocsid yn danwyddau. Mewn ymdrech i gyflawni newid go iawn ar lefel ranbarthol, ymunodd â’r rhaglen CEIC fel rheolwr y rhaglen ym mis Medi 2020.
Mae Dr Rudd wedi cyfathrebu am argyfwng yr hinsawdd drwy sgyrsiau cenedlaethol, cyfweliadau radio ac yn y cyfryngau argraffedig a chyflwynodd sgwrs TEDx yn 2019. Mae hi’n cael ei gwahodd yn rheolaidd i gyflwyno sgyrsiau am liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addysg am newid yn yr hinsawdd a chafodd ei henwebu am ddwy wobr ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020.