Golwg o Gampws Bae o’r awyr , gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Pouya S. Moghadam

Dr Pouya Sarvghad Moghadam

Darlithydd mewn Rheoli Gweithrediadau, Business
301
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Pouya yn darlithio mewn Rheoli Gweithrediadau yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Graddiodd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Busnes, enillodd ragoriaeth yn ei radd MSc mewn Gweithrediadau a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi a graddiodd â PhD o Brifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil ar Ddatblygu Cynhyrchion Newydd (NPD) gan ganolbwyntio'n benodol ar ddod o hyd i ddulliau i symleiddio'r broses datblygu cynhyrchion. Hefyd mae ganddo ddiddordeb mewn Gweithrediadau Main ac ymchwil ym maes Diwydiant 4.0 a'i gymwysiadau ym maes NPD. Ers 2019, mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chymunedol Prifysgol Abertawe, gan greu a chynnal dulliau cyfathrebu rhwng y gymuned ymchwil a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.  Mae wedi ymgymryd â phrosiectau mewn perthynas â rhoi'r Economi Gylchol ar waith ym myd diwydiant a phrosiectau E-ddysgu. Hefyd mae wedi dal swyddi'n cynghori busnesau ym maes gweithgynhyrchu a Pheirianneg Sifil yn Iran, Tehran.  

Meysydd Arbenigedd

  • Defnyddio offer dadansoddol ym maes Rheoli Gweithrediadau
  • Strwythurau busnes integredig ar draws swyddogaethau
  • Datblygu Cynhyrchion Newydd (NPD)
  • Gweithrediadau Gwasanaeth a strwythur
  • Datblygu E-blatfformau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Rheoli Gweithrediadau
  • Rheoli Prosiectau
  • Ymgynghori
  • Gweithrediadau Main
  • Yr Economi Gylchol a Chynaliadwyedd
Ymchwil