Bay Campus image
male smiling

Mr Alan Price

Darlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
332
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ar ôl 16 mlynedd yn gweithio ym maes economeg datblygu a chyllid alltraeth yn Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia, dychwelodd Alan adref i Gymru i ddod yn rhan o dîm sefydlu Cardiff Aviation Ltd – cwmni cynnal a chadw awyrennau, hyfforddiant a gweithrediadau hedfan yng Nghymru. Arweiniodd hyn ato’n dilyn cwrs PhD ym maes Economeg Awyrennu yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ac yna’n symud yn llawn amser i’r byd academaidd.

Fel aelod o’r grŵp pwnc Gweithrediadau Strategol a Dadansoddeg Fusnes, mae gyrfa Alan cyn hyn wedi ei alluogi i gynnig cipolwg ar arferion sefydliadol gwirioneddol ym meysydd Ymgynghoriaeth Reoli, Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, Gweithrediadau Darbodus a Rheoli Gweithrediadau. Ar ôl gweithio ar brosiectau ar gyfer sefydliadau amrywiol fel Nodau Datblygu’r Mileniwm, Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig, Banc y Byd a llywodraethau amrywiol, mae Alan hefyd yn darlithio mewn Economeg Datblygu ac Economïau Affricanaidd. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Rhaglen FdSc/BSc Rheoli Busnes Cymhwysol, cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Coleg Cambria a phartneriaid amrywiol yn y diwydiant fel Airbus, er enghraifft, sy’n darparu prentisiaid i’r radd rheoli busnes.

Yn ogystal, roedd Alan yn ddarlithydd gwadd ar raglen MBA Weithredol Prifysgol Caerdydd am dair blynedd yn olynol.

Mae gan Alan rwydwaith helaeth o gysylltiadau byd-eang, ac mae’n aml yn cynnig cymorth rheolwyr anweithredol neu ymgynghoriaeth reoli i gwmnïau ledled y byd.

Meysydd Arbenigedd

  • Ymgynghoriaeth Reoli a Rheoli Newid
  • Gweithrediadau Darbodus
  • Rheoli Gweithrediadau/Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
  • Rheoli Awyrofod ac Awyrennu
  • Dadansoddi Strategol a Strategaeth
  • Economïau Affricanaidd
  • Economeg Datblygu
  • Cyllid Alltraeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysgu israddedigion:

  • Ymgynghoriaeth Reoli
  • Rheoli Newid
  • Gweithrediadau Darbodus
  • Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
  • Dadansoddi Strategol a Strategaeth
  • Economïau Affricanaidd
  • Economeg Datblygu

 

Addysgu ôl-raddedig:

  • Rheoli Gweithrediadau
Ymchwil