Swansea Bay Campus
Dr Roderick Thomas

Dr Roderick Thomas

Uwch-ddarlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
309
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gan Roderick Thomas dros 25 mlynedd o brofiad mewn addysg uwch. Mae’n Beiriannydd Siartredig (CEng, ers 1998), fe’i hetholwyd yn Gymrawd yr IET yn 2005 ac ar hyn o bryd mae’n eistedd ar nifer o bwyllgorau’r IET gan gynnwys Rheoleiddio a Safonau ac Achredu Academaidd.

Mae’n Athro Gwadd yn y Gyfadran Peirianneg, Prifysgol North-West, Campws Potchefstroom, Johannesburg, De Affrica. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gweithrediadau a rheoli asedau gan gynnwys monitro cyflwr a methiant rhagweladwy ac mae’n aelod o grŵp ymchwil sy’n ymchwilio i Ofal Iechyd ar sail Gwerthoedd. Mae wedi goruchwylio ac archwilio nifer o fyfyrwyr PhD ac mae’n aelod o Ganolfan Ymchwil iLab yr Ysgol Reolaeth. Mae hefyd yn Dyst Arbenigol Rhyngwladol mewn Monitro Cyflwr ac yn Llysgennad STEM.

Mae ganddo PhD mewn Monitro Cyflwr Integredig, gradd Meistr mewn Addysg a gradd MPhil mewn Rheolaeth Weithredol. Mae hefyd wedi treulio 4 blynedd ar brentisiaeth dechnegol gyda chwmni gweithgynhyrchu mawr.

Cyn hynny, roedd Roderick yn Gadeirydd y Gynhadledd a Threfnydd Dibynadwyedd a Chynnal a Chadw Ansawdd yn y Gynhadledd Ryngwladol Eilflwydd Monitro Cyflwr a gynhaliwyd yn St Edmund Hall, Prifysgol Rhydychen a’i chyd-noddi gan IMechE a IET. Mae’r Trafodion Dibynadwyedd a Chynnal a Chadw Ansawdd wedi’u cyhoeddi ers 1998 ac maen nhw wedi esgor ar dros 300 o bapurau, sy’n cwmpasu Rheoli Asedau, Rheoli Gweithrediadau, Rheoli Monitro Cyflwr a Rheoli Arloesedd.

Mae’n awdur nifer o lyfrau gan gynnwys y Thermography Handbook, a gyhoeddwyd yn Rhydychen. Mae wedi ysgrifennu dros 40 o bapurau a phenodau mewn nifer o werslyfrau cyfeirio. Mae’n Olygydd Diwydiannol Technegol gyda’r Thermology International Journal, ac yn Olygydd Gwadd Ansawdd Dibynadwyedd gyda’r Engineering International Journal, a gyhoeddir gan Wiley. Yn fwy diweddar, mae Roderick wedi cyd-ysgrifennu erthyglau mewn nifer o gyfnodolion, gan gynnwys Creating Entrepreneurial Space: Talking through Multi voices, reflections on emerging debates (Emerald, 2019).

Mae’n angerddol am ofal bugeiliol ac academaidd ei holl fyfyrwyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Rheolaeth Weithredol
  • Monitro cyflwr
  • Cynnal a Chadw Rhagfynegol
  • Gofal Iechyd ar sail Gwerthoedd
  • Rheoli Asedau
  • Rheoli Prosiect
  • Methodoleg Ymchwil