bay campus image
Ms Beth Cummings

Ms Beth Cummings

Uwch-ddarlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
304
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Beth yn weithiwr marchnata proffesiynol profiadol sydd â hanes amlwg o weithio ar lefel uchel ar draws ystod o ddiwydiannau. Cyn ymgymryd â’i rôl academaidd roedd Beth yn rheoli timau marchnata ac yn gweithio gydag ystod o sefydliadau fel ymgynghorydd, gan gefnogi sefydliadau i gynllunio a rhoi ar waith eu gweithgareddau marchnata yn strategol.

Mae Beth yn Farchnadwr Siartredig ac yn Is-gadeirydd ar fwrdd rhanbarthol Sefydliad Marchnata Siartredig Cymru (CIM), sy'n gyfrifol am addysg a llwybrau proffesiynol. Fel tiwtor i'r CIM bu Beth yn rheoli canolfan astudio CIM, gan gyflwyno ar draws holl gymwysterau craidd CIM.

Fel darlithydd Marchnata a Rheoli Busnes, mae Beth yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiad y diwydiant ac ymwreiddio'r meysydd hynny yn ei gwaith addysgu.

Mae ei diddordebau ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a datblygu arferion pedagogaidd sy'n cefnogi hyn. Mae ei diddordeb mewn ymchwil marchnata yn canolbwyntio ar ymddygiad defnyddwyr, brandio a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn effaith y cyfryngau cymdeithasol ar ddelwedd y corff a lles.

Meysydd Arbenigedd

  • Strategaethau marchnata
  • Ymddygiad defnyddwyr
  • Cyfathrebu marchnata
  • Marchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol