Swansea Bay Campus

Dr Sian Roderick

Uwch-ddarlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
343
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Sian yn Uwch Ddarlithydd, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig ac yn Diwtor Derbyn ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Reolaeth. Mae ei gradd israddedig, mewn seicoleg a chwnsela, yn ogystal â'i phrofiad yn y diwydiant, wedi dylanwadu ar ei haddysgu mewn pynciau megis rheoli arloesedd, seicoleg defnyddwyr a dulliau ymchwil. Mae gan Sian PgCert Addysg Uwch ac mae’n Gymrawd yr AAU.

Mae Sian yn aelod o Ganolfan Ymchwil iLab a hi yw’r arweinydd thema ar gyfer Heriau Byd-eang a Chymdeithasol, sy’n ymwneud yn bennaf â ffurfio a chreu effeithiau cadarnhaol ar gyfer unigolion, cymunedau a rhanbarthau. Mae ei PhD ar ymddygiad sefydliadau a gweithluoedd dros dro. Mae hyn gyda’r bwriad o gadw staff o safon ac iechyd a lles gweithwyr.

Mae hi wedi arwain nifer o brosiectau gwerthuso sgiliau gwyddor bywyd, mentrau datblygu ieuenctid a mentrau cydlynu cymunedol fel Cydlynu Ardal Leol.

Mae ei chyhoeddiadau'n cynnwys nifer o bapurau cynhadledd yn AMCIS, ECIE, ISBE yn ogystal â phenodau yn y llyfr Entrepreneurial Learning City Regions: Life Sciences and Health in South West Wales: A Sub-regional Innovation Ecosystem (Springer) a Creating Entrepreneurial Space: Talking through Multi voices, reflections on emerging debates (Emerald). Mae Sian hefyd wedi cyd-ysgrifennu nifer o erthygl yn y cyfnodolion canlynol: International Journal of Information Management, Journal of Strategic Marketing, Information Systems Frontiers, International Journal of Innovation a Regional Development and Frontiers on Psychology

Meysydd Arbenigedd

  • Ymddygiad sefydliadol, yn enwedig agweddau, ymddygiadau a chanfyddiadau gweithwyr achlysurol
  • Rheoli arloesedd
  • Dulliau ymchwil – ansoddol a meintiol
  • Seicoleg defnyddwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ar lefel israddedig mae Sian yn addysgu rheoli arloesi. Ar lefel ôl-raddedig mae Sian yn addysgu dulliau ymchwil a seicoleg defnyddwyr. Hefyd bydd yn addysgu ar y rhaglen MBA nesaf yn yr Ysgol Reolaeth.

Ymchwil Cydweithrediadau