Bay campus
gwryw yn gwenu

Mr Rhydian Harry

Darlithydd mewn Marchnata, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602833

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
306
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Rhydian yn farchnatwr profiadol â thros 20 mlynedd o brofiad ym maes marchnata a chyfathrebu. Mae wedi gweithio ym maes addysg uwch ers 2012, gan ddarlithio mewn Rheoli Marchnata Cymhwysol, Rheoli Brand, Marchnata Creadigol, Marchnata Rhyngwladol, Rheoli Marchnata a Marchnata Strategol.

Fel Cymro Cymraeg mae gan Rhydian ddiddordebau ymchwil marchnata penodol ynghylch cyfleoedd i ieithoedd lleiafrifol drwy farchnata a chyfathrebu, yn ogystal â lleoli brand a marchnata cynnwys.

Mae Rhydian yn cyfuno ei swydd yn yr Ysgol Reolaeth â'i swydd Cyfarwyddwr Marchnata yn yr asiantaeth marchnata a rheoli digwyddiadau Cazbah Cyf. lle mae'n gweithio gydag ystod o gwsmeriaid o'r sectorau preifat a chyhoeddus, gan arbenigo yn y sectorau addysg, entrepreneuriaeth a thechnoleg. Cyn hyn bu'n rheoli ymgyrchoedd cenedlaethol fel gweithiwr proffesiynol ym maes marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'n Gymrawd y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfathrebu ar gyfer Marchnata
  • Marchnata Strategol
  • Lleoli Brand
  • Marchnata Rhyngwladol
  • Marchnata Busnes i Fusnes
  • Marchnata Dwyieithog