bay campus location
female smiling

Yr Athro Katrina Pritchard

Athro, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
330
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ar ôl ennill gradd mewn Daearyddiaeth o St Catherine's, Rhydychen, aeth Katrina ati i ddatblygu gyrfa fel ymgynghorydd rheoli gydag Accenture am ddeng mlynedd cyn dychwelyd i'r byd academaidd. Cyflawnodd rolau yn LSE, Birkbeck a'r Brifysgol Agored cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2017.

Mae hi bellach yn Athro yn yr adran Rheoli Busnes ac yn cyfuno hyn â'i rolau fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Dirprwy Ddeon ac, ar hyn o bryd, cyd-Ddeon dros dro yr Ysgol Reolaeth.

Mae diddordebau ymchwil Katrina yn cynnwys hunaniaeth (mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyflogaeth/gwirfoddoli) ac amrywiaeth (gyda ffocws penodol ar oedran a rhywedd). Mae gan Katrina ddiddordeb arbennig mewn dulliau methodolegol ansoddol gan gynnwys dulliau creadigol, digidol a gweledol.

Mae Katrina yn aelod o fwrdd golygyddol Work Employment and Society a Journal of Occupational and Organizational Psychology.

Mae Katrina yn aelod academaidd o'r CIPD ac yn Gymrawd o'r AAU.

Meysydd Arbenigedd

  • Hunaniaeth
  • Cyfryngau digidol/dyfeisiau yn y gwaith
  • Amrywiaeth yn y gwaith (oed a rhyw)
  • Arweinyddiaeth
  • Gweithgarwch entrepreneuraidd
  • Gwirfoddoli

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Arweinyddiaeth
  • Amrywiaeth
  • Rheoli pobl
  • HRM
Ymchwil Cydweithrediadau